Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:20 pm ar 9 Tachwedd 2022.
Rwy'n ddiolchgar i'r Llywydd am hynny. Lywydd, rwyf am i chi dynnu'r cyfrifiaduron gwrthun hyn sydd wedi'u gosod o'n blaenau. Maent yn gwbl amhriodol ar gyfer Siambr drafod; fe'u cynlluniwyd ar adeg cyn bod gennym iPads a chyn inni fod â gallu i gyfathrebu yn y ffordd y gallwn. Mae'n ymateb ugeinfed ganrif i angen nad yw'n bodoli yn yr unfed ganrif ar hugain. Dylai hon fod yn Siambr drafod lle rydym yn trafod beth sy'n bwysig i bobl Cymru, a lle rydym yn gwrando ar ein gilydd, ni waeth beth sy'n cael ei ddweud, ac nid yn parhau i ateb negeseuon e-bost, y gallwn ei wneud mewn unrhyw ffordd arall, ar unrhyw adeg arall. Mae'n rhaid i'r lle hwn fod yn dalwrn i'r genedl, yn ganolbwynt i'n dadl gyhoeddus, ac nid yn ganolfan alwadau.