Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:19 pm ar 9 Tachwedd 2022.
Mae defnydd technoleg gwybodaeth gan Aelodau wedi trawsnewid ers dechrau'r pandemig. Mae'r Comisiwn wedi parhau i ysgogi'r gwelliannau sydd eu hangen i ddarparu ar gyfer gwahanol arferion gwaith. Mae cyflwyno Zoom ac ap pleidleisio ar y we, ochr yn ochr â gwella technolegau clywedol, darlledu a chyfieithu ar y pryd, yn caniatáu i Aelodau gymryd rhan yn effeithiol yn y Cyfarfod Llawn, p'un ai ydyn nhw'n bresennol fan hyn yn y Siambr neu yn rhan o'r cyfarfod o bell.