4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 9 Tachwedd 2022.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am streic posib gan nyrsys? TQ674
Rwyf newydd glywed bod y trothwy gofynnol o ran y ganran a bleidleisiodd wedi'i gyrraedd ar gyfer aelodau'r Coleg Nyrsio Brenhinol ym mhob un o sefydliadau cyflogwyr y GIG yng Nghymru, ac eithrio bwrdd iechyd Aneurin Bevan, ac ym mhob un o'r rhain, llwyddwyd i gael mandad mwyafrif syml ar gyfer streicio. Felly, i fod yn glir, yng Nghymru, mae nyrsys sy'n aelodau o'r Coleg Nyrsio Brenhinol wedi pleidleisio dros streicio ym mhobman ac eithrio bwrdd iechyd Aneurin Bevan.
Fel Llywodraeth Cymru, rydym yn cydnabod pam fod cymaint o nyrsys wedi pleidleisio yn y modd y gwnaethant, oherwydd yr argyfwng costau byw a achoswyd gan y Torïaid, yn ddi-os, a hefyd, y pwysau gwaith cynyddol y mae llawer o nyrsys yn ei wynebu. Ac a gaf fi fod yn glir ein bod yn cytuno y dylai nyrsys gael eu gwobrwyo'n deg am eu gwaith pwysig, ond mae cyfyngiadau ar ba mor bell y gallwn ni fynd i fynd i'r afael â'r pryderon hyn yng Nghymru heb arian ychwanegol gan y Llywodraeth Geidwadol ar lefel y DU?
Diolch am eich ymateb, Weinidog. Rydym yn gwybod, yn yr hanner awr ddiwethaf, fel rydych wedi dweud, fod chwe o'r saith bwrdd iechyd ledled Cymru wedi ymateb i ganlyniad pleidlais streic y Coleg Nyrsio Brenhinol, ac y bydd streiciau'n digwydd yn ardaloedd y byrddau iechyd hynny.
Rhaid imi ddweud, Weinidog, mae eich ymateb yn fy siomi, wrth ichi geisio gwrthod eich cyfrifoldeb. GIG sy'n cael ei redeg gan Lafur yw hwn yng Nghymru, eich cyfrifoldeb chi ydyw, a phroblem i chi ei datrys yw hi. Ac mae eich ateb y prynhawn yma yn fy siomi. Yng Nghymru, gwyddom fod un rhan o bump o'r boblogaeth ar restr aros y GIG, gyda 60,000 o'r rheini yn aros ers dros ddwy flynedd, yr ymatebion hiraf i alwadau coch am ambiwlans a gofnodwyd erioed, a'r amseroedd aros gwaethaf ym Mhrydain mewn adrannau damweiniau ac achosion brys. Felly, y peth olaf sydd ei angen arnom yng Nghymru, ac sydd ei angen ar bobl Cymru, yw i nyrsys fod ar streic. Nawr, rwy'n deall bod datrys y broblem hon yn anodd. Rwy'n deall hynny—nid yw'n hawdd. Ond eich anghydfod chi yw hwn i'w ddatrys, Weinidog. Mae'n gyfrifoldeb i'r Llywodraeth Lafur yma. Rwy'n gobeithio bod pob cyfle wedi'i gymryd, pob cyfle posibl wedi'i gymryd, i osgoi cyrraedd y pwynt hwn ac atal streicio. Felly, a gaf fi ofyn ichi, Weinidog: a wnewch chi ddweud wrthyf sawl gwaith rydych chi wedi cyfarfod â'r Coleg Nyrsio Brenhinol i negodi'r codiad cyflog arfaethedig; pa ddull y bwriadwch ei fabwysiadu i ddod ag unrhyw streic i ben; pa effaith y credwch y bydd y streic yn ei chael ar yr amseroedd aros hir hynny ar gyfer triniaeth frys a dewisol rwyf newydd eu nodi; ac yn olaf, beth fydd y gost, os o gwbl, o gael nyrsys asiantaeth i lenwi yn ystod unrhyw streic?
Diolch yn fawr iawn. A gaf fi ddweud yn gwbl glir, heb gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Dorïaidd y DU, y bydd yn amhosibl, o fewn y gyllideb iechyd a gofal cymdeithasol bresennol, i ddarparu’r math o godiad cyflog yn unol â chwyddiant i’r GIG heb wynebu—
Gadewch i’r Gweinidog ateb fel y gall pawb ohonom glywed.
—toriadau anodd iawn y byddai’n rhaid eu gwneud mewn mannau eraill yn y gyllideb iechyd. Ac mae hynny'n hynod o anodd—. Os hoffai roi rhai syniadau i mi o ble yn union y mae'n credu y dylem wneud toriadau i dalu am hyn, rwy'n glustiau i gyd.
Nawr, hoffwn ddweud yn glir ein bod, yng Nghymru, yn gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol. Rwy'n cyfarfod yn rheolaidd iawn â'r Coleg Nyrsio Brenhinol. Rydym mewn trafodaeth, sy’n drafodaeth barhaus. Wrth gwrs, byddwn yn parhau, nawr ein bod yn gwybod canlyniadau’r bleidlais, i drafod pa gynlluniau wrth gefn y bydd angen inni eu rhoi ar waith. Ni fyddwn yn defnyddio nyrsys asiantaeth i lenwi unrhyw fylchau, gan ein bod yn parchu’r hawl i streicio yng Nghymru, ac rydym yn deall nad yw’r nyrsys wedi gwneud hyn ar chwarae bach, ac rydym yn deall cryfder teimladau’r aelodau. Credaf mai dyma’r bleidlais statudol gyntaf ar weithredu diwydiannol ledled y DU yn hanes 106 mlynedd y Coleg Nyrsio Brenhinol. A gaf fi ddweud yn glir hefyd y byddem yn disgwyl ac y byddwn yn parhau i gael sgyrsiau gyda’r Coleg Nyrsio Brenhinol am y rhanddirymiadau a fyddai’n digwydd ar adeg y streic? Mewn geiriau eraill, byddem yn disgwyl i ofal brys a gofal canser barhau, er enghraifft, a byddwn yn cael y sgyrsiau hynny yn yr wythnosau nesaf.
Yn gyntaf, a gaf fi nodi fy nghefnogaeth i holl aelodau’r Coleg Nyrsio Brenhinol a’r ffordd y gwnaethant bleidleisio? Nid oes unrhyw un yn dymuno gweld gweithredu diwydiannol yn digwydd, ac mae hynny’n cynnwys, yn fwy na phawb, y nyrsys eu hunain. Ond mae'r ffaith bod y bleidlais hon wedi'i chynnal yn y lle cyntaf yn dweud popeth y mae angen inni ei wybod ynglŷn â sut mae nyrsys yn teimlo. Nawr, drwy ddegawd a mwy o doriadau i wasanaethau cyhoeddus a thoriadau amser real i gyflog nyrsys, mae Llywodraeth y DU wedi creu argyfwng. Gallwn recriwtio nyrsys, oherwydd, diolch byth, mae gennym ddigon o bobl sy’n awyddus i ofalu, ond ni allwn ddal gafael ar nyrsys, am eu bod yn teimlo nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi'n ddigonol. Ac er nad yw hynny'n ymwneud yn gyfan gwbl â gwobrwyon ariannol—rydym yn dal i aros am estyniad i adran 25B o'r ddeddfwriaeth lefelau staffio diogel, er enghraifft—mae'n rhaid inni ddangos, drwy becynnau cyflog nyrsys, eu bod yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr. Felly, ni ddylai Llywodraeth Geidwadol y DU fod wedi creu’r argyfwng hwn; dylent fod wedi dadwneud y difrod a achoswyd ganddynt hwy eu hunain. A dylai Llywodraeth Lafur Cymru fod wedi achub ar y cyfle, os nad pan oedd yr haul yn tywynnu—gan nad yw wedi tywynnu ers peth amser—ond o leiaf cyn iddo ddiflannu y tu ôl i'r cymylau economaidd tywyll iawn rydym yn eu hwynebu bellach, i fynd i'r afael â'r toriadau i gyflogau sydd wedi cronni dros amser, a’r elfennau eraill hynny sydd wedi cyfrannu at anghynaliadwyedd nyrsio yng Nghymru.
Nawr, dim ond crib y rhewfryn yw cyflogau, fel y dywedaf—mae cymaint o faterion y mae angen mynd i'r afael â hwy—ond mae nyrsys wedi cymryd toriad cyflog am y 10 mlynedd diwethaf. Rwy'n deall bod y Gweinidog yn dal i wrthod cyfarfod a thrafod cyflogau gyda’r Coleg Nyrsio Brenhinol, ond mae’n ddrwg gennyf, mae’n rhaid i’r angen i negodi beidio â bod yn agored i drafodaeth. Nawr, os gall yr Alban gymryd y cam cyntaf i flaenoriaethu eu nyrsys drwy gynyddu eu cyflog yno 7 y cant, pam na allwn ninnau wneud hynny? Rwy'n cytuno'n llwyr â’r Gweinidog fod yn rhaid i’r Ceidwadwyr yn Llywodraeth y DU ysgwyddo'r bai am wneud y toriadau i wasanaethau cyhoeddus, ond mae camau y gall Llafur eu cymryd yma yng Nghymru. Pryd y byddwn yn cymryd y camau y mae Llywodraeth yr Alban wedi’u cymryd yn yr Alban?
Diolch yn fawr iawn. A gaf fi ddweud yn glir ein bod wedi bod yn recriwtio i’r gweithlu yng Nghymru, o ran nyrsys, ers sawl blwyddyn? Rydym wedi gweld cynnydd o 69 y cant yn nifer y lleoedd hyfforddi nyrsys yng Nghymru ers 2016. Yr her, fel y dywedoch chi, yw eu cadw, ac rydym yn deall hynny. Mae'r nyrsys hyn wedi bod dan bwysau aruthrol, yn enwedig yn ystod COVID. Rydym yn deall bod y pwysau hwnnw wedi bod yn ddi-ildio, a deallwn hefyd eu bod yn wynebu gaeaf anodd iawn. Bydd y sgyrsiau hynny'n parhau.
Rydym yn cael sgyrsiau rheolaidd â’r Coleg Nyrsio Brenhinol, ond mae’n rhaid imi ddweud yn gwbl glir nad oes unrhyw arian ar ôl yng nghyllideb y GIG. Felly, os ydym am ddod o hyd i’r arian hwn, byddai’n rhaid inni ei dorri o’r gwasanaethau a ddarparwn i’r cyhoedd yng Nghymru, ac fel y mae pob un ohonoch wedi'i nodi, mae llawer o bobl eisoes yn aros am lawdriniaethau yng Nghymru. Felly, bydd yn rhaid inni wneud dewisiadau anodd iawn yma.
Gwn fod Plaid Cymru, er enghraifft, yn awyddus iawn inni anrhydeddu’r ymrwymiad i dalu’r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal. Unwaith eto, bydd yn rhaid inni ddod o hyd i’r arian hwnnw o rywle arall. Felly, gadewch inni fod yn gwbl glir fod gwneud penderfyniadau gwleidyddol yn fater o benderfynu beth yw eich blaenoriaethau gwleidyddol. Mae'n anodd iawn pan fydd gennych gronfa gyllid gyfyngedig sydd yn y cyflwr hwnnw ac sy'n mynd i waethygu'n sylweddol oherwydd yr anhrefn y mae'r Llywodraeth Dorïaidd wedi'i orfodi arnom dros yr wythnosau diwethaf.
Yr hyn y mae angen inni ei weld yw Llywodraeth Cymru yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb am gyflog nyrsys ac yn rhoi’r gorau i daflu'r baich ar San Steffan pryd bynnag y bydd pethau’n mynd yn anodd. Chi sy'n torri’r gacen yn y pen draw, Weinidog, ac mae gennych reolaeth lwyr dros y mater hwn. Mae Llywodraeth yr Alban wedi cyflwyno cynnig cyflog a fydd yn rhoi codiad cyflog o £2,205 i nyrsys yn y wlad, gyda’r Ysgrifennydd iechyd, Humza Yousaf, yn dweud y byddai’r fargen newydd ar gyfer cylch cyflog 2022-23 yn adlewyrchu gwaith caled staff y GIG ac
'yn gwneud llawer i'w helpu drwy'r argyfwng costau byw.'
Nawr, nid wyf yn cytuno â gwleidyddiaeth y rheini sy'n rhedeg Llywodraeth yr Alban, ond maent o leiaf wedi dangos rhywfaint o ddewrder a rhywfaint o arweiniad wrth ymdrin â chyflogau nyrsys, sydd wedi atal streic gan y Coleg Nyrsio Brenhinol yn yr Alban. A ydych yn barod i sefyll yma y prynhawn yma fel Gweinidog Llafur, yng nghysgod Nye Bevan, a llywyddu dros y streic nyrsys gyntaf y mae’r wlad hon erioed wedi’i gweld, a’r cyfan am na all y Llywodraeth hon gael trefn ar bethau? Rydym ar drothwy'r gaeaf gyda’r holl bwysau sy'n gysylltiedig â hynny, ac mewn sefyllfa, am y tro cyntaf erioed, lle mae staff rheng flaen hanfodol ein GIG yn debygol o gerdded allan. Pryd rydych chi'n mynd i ddangos rhywfaint o ddewrder, ysgwyddo rhywfaint o gyfrifoldeb a rhoi'r cyflog y maent yn ei haeddu i'n gweithwyr diwyd yn y GIG?
Gofynnodd Russell George i chi yn ei gwestiwn sawl gwaith rydych wedi cyfarfod â’r Coleg Nyrsio Brenhinol, ac rydych wedi gwrthod ateb, Weinidog iechyd. Felly, a wnewch chi ateb y cwestiwn hwnnw ynglŷn â sawl gwaith rydych chi wedi cyfarfod â'r Coleg Nyrsio Brenhinol? Diolch.
Wel, nid wyf am wrando ar bregeth gan Dori ar sut i ymdrin â'r GIG. Nid wyf am wrando ar bregeth gan Dori. A chysgod Nye Bevan—yn sicr, rwy’n teimlo cyfrifoldeb gwirioneddol i sicrhau ein bod yn darparu’r gwasanaeth gorau posibl i bobl Cymru. Ac mae hynny'n golygu cadw ein ffrindiau a'n cydweithwyr ym maes nyrsio yn ddiogel yn y GIG, a sicrhau eu bod yn hapus yn eu gweithle. A byddwn yn parhau i gael y sgyrsiau hynny.
Fel y dywedaf, rwy’n cyfarfod yn rheolaidd â’r Coleg Nyrsio Brenhinol, o leiaf bob chwarter—o leiaf bob chwarter—ac yn ychwanegol at hynny, ar adegau eraill.
Ond a gaf fi roi rhywfaint o gefndir i chi ynglŷn â sut rydym wedi dod yma heddiw, gan fod y dyfarniad cyflog sydd ar y bwrdd ar hyn o bryd yn gweithredu argymhellion corff adolygu cyflogau'r GIG yn llawn? Ac fel rhan o broses y corff adolygu cyflogau, mae gan bartïon amrywiol, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, ond gan gynnwys undebau llafur hefyd, allu i gyflwyno tystiolaeth i’w hystyried, ac yna mae’r bwrdd adolygu cyflogau annibynnol yn cyflwyno eu cynnig. A'r hyn rydym wedi'i wneud yw derbyn eu hargymhellion, ac mae hynny wedi digwydd ers blynyddoedd lawer. Os byddwn yn camu allan o hynny, rydym yn agor byd cwbl newydd lle mae angen inni ystyried beth sy'n digwydd os yw hynny'n digwydd. Felly, nid ydym yn y sefyllfa honno, ac fel y dywedaf, mae'n mynd i fod yn anodd iawn inni ddod o hyd i unrhyw gyllid ychwanegol.
Nodyn i Gareth Davies—mae’r gacen wedi lleihau dros y 12 mlynedd diwethaf, a dyna pam fod y sector cyhoeddus cyfan yn ei chael hi mor anodd gyda'i gyllidebau, gyda'r adnoddau sydd ganddo i ddarparu’r gwasanaethau. Felly, nid oes mwy o arian, gan fod y posibilrwydd y bydd Llywodraeth y DU yn ysgwyd y goeden arian hud yn sydyn ac yn rhoi mwy o arian i ni yn anfeidrol fach. Felly, fy nghwestiwn i, Weinidog, yw hwn: rwy’n sylweddoli mai newydd gael y wybodaeth hon rydych chi, ond yr hyn sy’n ddiddorol iawn am yr hyn rydych newydd ei ddweud yw nad yw bwrdd iechyd Aneurin Bevan wedi dilyn y chwe bwrdd iechyd arall drwy bleidleisio dros streic, ac roeddwn yn meddwl tybed a ydych wedi cael amser i fyfyrio ai'r rheswm am hynny yw oherwydd bod Aneurin Bevan yn arwain y sector yn gyson yn y ffordd y mae'n darparu gwasanaethau, ac yn eu hail-lunio'n gyson i allu diwallu anghenion pobl yn well, ac a yw hyn wedi galluogi staff yn Aneurin Bevan i gael llai o straen yn eu bywyd gwaith, sydd wedi eu gwneud yn llai tebygol o streicio.
Diolch yn fawr, Jenny. Yn sicr, rydym bob amser yn awyddus i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol. Yn amlwg, nid wyf wedi cael cyfle i ystyried yr hyn sy'n digwydd yn Aneurin Bevan a pham, efallai, eu bod wedi mynd ar drywydd ychydig yn wahanol. Fy nealltwriaeth i yw na wnaethant gyrraedd y trothwy ar gyfer y niferoedd o bobl i gymryd rhan, ond nid wyf wedi gweld yr union ffigurau, felly edrychaf ymlaen at ddadansoddi'r canlyniadau hynny a gweld beth sy'n digwydd yno sy'n wahanol i ardaloedd eraill. Ond fel y dywedaf, rwy’n awyddus iawn i sicrhau ein bod yn parhau â’r sgwrs gyda’n partneriaid yn yr undebau llafur, ac i sicrhau, lle gallwn, y gallwn gydsefyll gyda’r nyrsys, sy’n sicr yn haeddu dyfarniad cyflog.
Ac, yn olaf, Joyce Watson.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf oll, rwyf am ddatgan y ffaith bod aelod agos o’r teulu yn aelod o’r Coleg Nyrsio Brenhinol, cyn imi siarad ynglŷn â hyn. Gŵyr pob un ohonom fod nyrsys o dan bwysau aruthrol. Gŵyr pob un ohonom hefyd y bu nyrsys ar y rheng flaen ac yn hollbwysig yn ystod y pandemig, a bod eraill wedi mynd allan bob nos Iau i gymeradwyo eu hymdrechion i geisio ein hamddiffyn rhag y cyfraddau marwolaeth a'r effeithiau gwaethaf, gan fentro'u crwyn eu hunain ar y rheng flaen ar yr un pryd. Cyflwynwyd a chytunwyd ar y dyfarniad cyflog, fel y mae’r Gweinidog wedi’i ddweud, gan y corff adolygu cyflogau, ac mae wedi’i dalu’n llawn, ond y pwynt yn y fan hon yw bod hynny wedi digwydd cyn i’r ddeuawd—Truss a Kwarteng—ddinistrio'r economi, gan roi straen aruthrol ar deuluoedd a gwasanaethau cyhoeddus. Ni allwn ddianc rhag hynny, a gallaf glywed y distawrwydd draw yno nawr; nid ydynt yn ceisio gwneud hynny.
Felly, credaf mai'r hyn sydd angen digwydd yma—. Ac mae gennym ddatganiad ar y gweill, ond rydym yn answyddogol a bob yn dipyn yn dod i ddeall bod y Torïaid yn bwriadu torri gwariant cyhoeddus. Maent wedi gwneud hynny'n berffaith glir, ac maent yn dweud hynny wrthym bob yn dipyn. Nawr, os ydych yn mynd i dorri gwariant cyhoeddus, ac efallai fod angen gwers ar y Torïaid yn hyn o beth, bydd hynny'n cynnwys y GIG. Mae hynny'n cynnwys y GIG. [Torri ar draws.] Nid yw'n rhywbeth ar wahân; mae'n wasanaeth cyhoeddus, mae'n wariant cyhoeddus. Felly, yr hyn y gobeithiaf y bydd y Torïaid yn ei wneud yma, gan ei bod yn amlwg eu bod, fel pob un ohonom yma, yn awyddus iawn i wobrwyo ein nyrsys a'r holl staff arall sy'n gweithio i'n hamddiffyn a darparu ein gwasanaethau, yr hyn y gobeithiaf y byddant yn ei wneud yw ysgrifennu at Lywodraeth y DU cyn i’r gyllideb honno dorri’r gwariant cyhoeddus ymhellach fyth, fel y gallwn ddarparu'r hyn y gwyddom ein bod yn dymuno'i ddarparu i'r bobl sy’n darparu’r gwasanaethau hynny i ni. Ac edrychaf ymlaen at gael copïau o'r llythyrau hynny, drwy e-bost neu ar fy nesg; gallant ddewis ym mha ffordd y gwnânt hynny. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Mae'r argyfwng costau byw, fel y mae Joyce wedi'i nodi, yn cael effaith ar bawb, ond mae'n taro nyrsys yn ogystal â phobl eraill, ac mae'n wirioneddol ddigalon clywed am nyrsys yn mynd i fanciau bwyd a lleoedd eraill. Mae honno'n sefyllfa anodd tu hwnt. A’r hyn rydym wedi’i weld, fel y dywedoch chi, yw cynnydd enfawr mewn costau ynni, cynnydd enfawr mewn costau bwyd, a bellach, fel y dywedoch chi, diolch i Truss a Kwarteng, yr hyn sydd gennym yw cynnydd mewn morgeisi, a dyna sy'n wirioneddol anodd i bobl. Bydd yn rhaid i bob un o’r nyrsys sy’n berchen ar gartrefi wynebu heriau anodd iawn, o ganlyniad i’r anhrefn yn ein heconomi a achoswyd gan Truss. Ac—a gaf fi ddweud yn gwbl glir—nid oes a wnelo hyn ag eleni yn unig, fel y mae Joyce wedi'i nodi, rydym yn disgwyl toriadau sylweddol y flwyddyn nesaf. Nawr, hyd yn oed os yw’r GIG yn aros ar yr un lefel ag y mae arni ar hyn o bryd, fe wyddom, gyda phoblogaeth sy’n heneiddio a chyda datblygiadau digidol ac ati, y dylem fod yn gwella’r GIG oddeutu 2 y cant y flwyddyn. Mae hynny’n mynd i fod yn anhygoel o anodd yn y dyfodol. Ond yn ychwanegol at hynny, yr hyn a welwn yw'r swm o arian sydd ar gael i ni ei wario ar y GIG yn lleihau. Felly, rwyf wedi rhoi’r enghraifft hon i chi o’r blaen, ond rwy’n mynd i’w rhoi i chi eto: roeddwn wedi—
A gaf fi ofyn i’r Aelodau fod yn dawel, os gwelwch yn dda? Hoffwn glywed yr ateb gan y Gweinidog, ac mae heclo'r Aelodau ar y meinciau cefn braidd yn swnllyd.
Roedd gennyf £170 miliwn i dalu am yr ôl-groniad, a bellach rwyf wedi cael bil ychwanegol o £207 miliwn ar gyfer cost ynni. Rwyf wedi cael rhywfaint o arian gan Lywodraeth y DU i dalu am hynny, ond heb fod hanner digon. Felly, golyga hynny fod yn rhaid inni ddod o hyd i doriadau yn y GIG. Chi sy'n gyfrifol am hynny. Chi sy'n gyfrifol am hynny, ac nid ydych wedi camu i'r adwy. Ewch i siarad â'ch meistri gwleidyddol yn Llundain.
Diolch i'r Gweinidog.