Part of the debate – Senedd Cymru am 3:52 pm ar 9 Tachwedd 2022.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a chynigiaf y cynnig a gyflwynwyd yn fy enw.
Ddirprwy Lywydd, mae'r sectorau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu yn hollbwysig i'n cenedl. Bydd eu pwysigrwydd i gefnogi a gwella bywydau yng Nghymru yn amlwg i bawb yn y Siambr hon. Boed hynny ar ffurf stryd fawr brysur, tafarn wledig braf, neu fwyty sy’n gwerthu bwyd a gynhyrchwyd yn lleol wedi’i goginio gan gogyddion arbenigol, mae’r diwydiannau manwerthu a lletygarwch yn rhan ganolog o'n cymunedau ledled Cymru.
Yn ogystal â gwneud defnydd o’n cynnig manwerthu a lletygarwch, a’i wella’n aml, mae twristiaeth yn ein galluogi i ddangos y gorau o Gymru i weddill y byd ac yn darparu 12 y cant o'r swyddi yng ngweithlu Cymru. Yn fyr, mae’r diwydiannau hyn yn gwbl hanfodol i feithrin, cefnogi a hyrwyddo diwylliant a’r bywyd da y mae pob un ohonom yn dymuno'i gael.
Y diwydiannau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu oedd un o’r meysydd cyntaf a nodwyd gennym i’w harchwilio pan wnaethom gyfarfod i gynllunio blaenoriaethau’r pwyllgor newydd. I ddechrau, gwnaethom nodi’r sectorau hyn gan ein bod yn gwybod eu bod yn wynebu heriau mawr o ganlyniad i’r pandemig. Roedd manwerthu a lletygarwch yn wynebu'r her enfawr o ymadfer ac addasu i'r byd ôl-bandemig newydd. Roedd twristiaeth yn wynebu her ychydig yn wahanol. Roedd y diwydiant wedi'i daro’n galed gan y pandemig hefyd, ond roedd yn wynebu sefyllfa o wledd neu newyn. Yn ystod y cyfyngiadau symud, bu’n rhaid i fusnesau twristiaeth gau, fel y rhan fwyaf o fusnesau manwerthu a lletygarwch, ond wedyn wrth i’r DU ddechrau ailagor, ond pan oedd teithio rhyngwladol yn dal i fod wedi'i wahardd, roedd y diwydiant wedi’i orlethu gan y galw.
Penderfynasom edrych ar y diwydiannau hyn o ddwy ochr. Un oedd hyfywedd economaidd a chynaliadwyedd y sectorau, gan edrych yn arbennig ar yr adferiad wedi COVID a hyfywedd hirdymor. Yr ail elfen roeddem am ymchwilio iddi oedd y gweithlu. Roedd hyn yn cynnwys gwella ansawdd swyddi yn y sector, mynd i’r afael â phrinder llafur, ac edrych yn gyffredinol ar sgiliau yn y gweithlu. Mae’r pwyllgor yn ddiolchgar iawn i’r rheini a roddodd dystiolaeth i’n hymchwiliad, yn enwedig yr unigolion dienw o bob rhan o’r wlad a gwblhaodd ein harolwg ac a roddodd gipolwg gwirioneddol i ni ar sut beth yw gweithio yn y sectorau hyn.
Dywedodd y cyfranogwyr wrthym am yr oriau hir, y cyflogau isel, yr ansicrwydd ynghylch swyddi, diffyg llais y gweithwyr, a'r diffyg parch gan gwsmeriaid a chyflogwyr. Fodd bynnag, dywedasant wrthym hefyd eu bod yn mwynhau gweithio yn y sectorau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu gan fod hynny'n caniatáu iddynt weithio yn eu cymuned leol, yn rhoi hyblygrwydd iddynt yn eu bywydau, ac yn darparu amgylchedd cymdeithasol iddynt. Dywedodd un cyfranogwr wrthym, ac rwy'n dyfynnu,
'Mae gweithio yn y sector manwerthu’n golygu does dim rhaid i mi symud allan o fy nghymuned ar gyfer gwaith. Dw i’n gallu byw yn yr ardal lle ces i fy magu, lle mae fy iaith yn cael ei defnyddio.'
Dywedodd un arall wrthym, ac rwy'n dyfynnu,
'Mae'r hyblygrwydd yn gyffredinol yn fy ngalluogi i weithio o amgylch agweddau eraill ar fy mywyd. Mae hefyd yn golygu fy mod i’n gallu gweithio yn fy nghymuned leol, ar gyfer cymaint o swyddi mae angen cymudo neu symud, ond dw i’n gallu aros a gweithio yn y gymuned lle ces i fy magu.'