Part of the debate – Senedd Cymru am 3:55 pm ar 9 Tachwedd 2022.
A chredaf fy mod yn siarad ar ran pawb ar y pwyllgor pan ddywedaf ei bod yn wefreiddiol clywed y cyfranogwyr yn siarad mor angerddol am weithio yn eu cymunedau lleol a lle cawsant eu magu. Yn amlwg, ceir ymdeimlad o falchder ynglŷn â gweithio yn economi ymwelwyr fywiog Cymru, a dyna pam fod angen gweithredu ar unwaith i sicrhau bod gweithio yn y sectorau hyn yn gallu cynnig gyrfaoedd diogel a boddhaus ar gyfer y dyfodol.
Mae ein hadroddiad yn cynnwys 18 o argymhellion ar draws pedwar maes cyffredinol: cymorth busnes, y strategaeth fanwerthu, yr economi ymwelwyr a heriau’r farchnad lafur. Rwy’n falch fod yr holl argymhellion wedi’u derbyn naill ai’n llawn neu mewn egwyddor gan Lywodraeth Cymru, ac felly croesawaf ymrwymiad y Gweinidog i gefnogi’r sectorau hyn yn well.
I ddechrau, mae’r adroddiad yn ystyried cymorth busnes a sut y gellir cefnogi’r sector yn well ar ôl y pandemig. Nododd cynrychiolwyr o’r tri sector yn glir eu bod yn credu bod Llywodraeth Cymru wedi darparu pecyn cynhwysfawr o fesurau cymorth ariannol i fusnesau yn ystod y pandemig, ac maent yn cydnabod bod rhywfaint o’r cymorth hwnnw wedi’i dargedu’n benodol at y diwydiannau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu. Fodd bynnag, nodwyd nifer o feysydd gan dystion fel rhai sydd angen cymorth a sylw parhaus gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys diwygio a rhyddhad ardrethi busnes, cymorth i fynd i’r afael â chynnydd mewn costau byw, a gwell cymorth i'r gadwyn gyflenwi a chaffael lleol.
Bydd yr ailbrisiad ardrethi annomestig nesaf yn dod i rym ar 1 Ebrill 2023, yn seiliedig ar werth eiddo ar 1 Ebrill 2021. Dylai hyn olygu y bydd y gwerthoedd ardrethol yn adlewyrchu effaith y pandemig coronafeirws, ac rwy'n falch, mewn ymateb i adroddiad y pwyllgor, fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i adolygu hyn ac a oes angen cymorth trosiannol, neu a yw'n briodol, wrth symud ymlaen. Nododd busnesau ym meysydd lletygarwch, twristiaeth a manwerthu yn glir fod ardrethi busnes yn system fwyfwy anghyfiawn, ac felly gobeithiaf y bydd y Gweinidog yn ystyried eu neges ac yn defnyddio’r ysgogiadau sydd ganddo i helpu i sicrhau bod unrhyw ddiwygio i'r system yn arwain at lawer mwy o chwarae teg i fusnesau wrth symud ymlaen.
Gwyddom hefyd fod busnesau dan bwysau oherwydd y cynnydd mewn costau byw. Mae effaith y rhyfel yn Wcráin, materion yn ymwneud â’r gadwyn gyflenwi, chwyddiant cynyddol a chostau cynyddol ynni, tanwydd a bwyd oll wedi cyfrannu at gostau byw cynyddol, ac mae hynny’n cael effaith wirioneddol ar fusnesau Cymru. Fel y mae ein hadroddiad yn nodi'n glir, mae sectorau sy'n dibynnu ar wariant disgresiynol aelwydydd ar nwyddau a gwasanaethau nad ydynt yn hanfodol yn cael eu gwasgu'n dynnach ac yn dynnach, ac mae gweithwyr a pherchnogion busnesau sydd eisoes wedi'u heffeithio'n wael gan y pandemig yn wynebu straen iechyd meddwl cynyddol. Yn wir, mae busnesau sy’n gweithredu mewn ardaloedd mwy gwledig yn enwedig yn cael eu heffeithio’n anghymesur gan gynnydd mewn costau ynni a thanwydd i redeg eu busnes a chael mynediad at wasanaethau, yn ogystal ag wynebu mwy o brinder sgiliau.
Yng ngoleuni hyn, mae’r pwyllgor wedi argymell y dylai’r Gweinidog nodi a ellir rhoi hyblygrwydd ychwanegol i fusnesau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu wrth ad-dalu benthyciadau i Lywodraeth Cymru neu Fanc Datblygu Cymru yng ngoleuni’r pwysau ariannol parhaus y maent yn ei wynebu. Yn ogystal â hynny, mae’r pwyllgor hefyd wedi argymell y dylai Gweinidog yr Economi ystyried pa gymorth ychwanegol ar gyfer buddsoddiad cyfalaf y gellir ei ddarparu i’r sectorau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n arbennig o falch fod y ddau argymhelliad hyn wedi'u derbyn gan y Gweinidog, oherwydd wrth eu derbyn, mae Llywodraeth Cymru yn dangos i ni eu bod yn gwrando ar y sectorau hyn a'u bod wedi ymrwymo i adolygu'r cymorth y gallant ei gynnig i fusnesau fel rhan o'r gwaith o fonitro'r gyllideb gyfalaf yn ystod y flwyddyn a'r broses o bennu'r gyllideb flynyddol.
Roedd adroddiad y pwyllgor hefyd yn ystyried y strategaeth hir-ddisgwyliedig ar gyfer sector manwerthu Cymru. Cyhoeddwyd y strategaeth ym mis Mehefin, ac mae’r pwyllgor bellach yn edrych ymlaen at weld y cynllun cyflawni a addawyd, cynllun y mae’r Gweinidog yn dweud y bydd yn ystyried y dystiolaeth i ymchwiliad y pwyllgor hwn. Mae'n hanfodol fod pob un ohonom yn deall yn well sut y caiff unrhyw fesurau a chamau gweithredu eu hariannu i ddiwallu anghenion a nodwyd gan y fforwm manwerthu, ac i ba raddau y bydd y rhain yn cael eu hariannu drwy gyllid sy'n bodoli eisoes neu drwy gyllid newydd. A bydd y pwyllgor yn sicr yn monitro'r maes hwn ymhellach maes o law.
Bu’r pwyllgor hefyd yn ystyried ymagwedd Llywodraeth Cymru at yr economi ymwelwyr, a bydd yr Aelodau’n ymwybodol fod Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar hyn o bryd ar gyflwyno ardoll ymwelwyr. Daw hyn ochr yn ochr â rheoliadau diweddar sydd wedi’u rhoi ar waith i gynyddu nifer y dyddiau y mae’n rhaid i lety hunanddarpar gael ei osod bob blwyddyn er mwyn bod yn gymwys i dalu ardrethi busnes yn hytrach na thalu’r dreth gyngor, gan godi'r trothwy o 70 diwrnod i 182 diwrnod. Hoffwn ddiolch i’r Gweinidog am ei esboniad manwl o’r rhesymeg sy'n sail i’r newidiadau yn ymateb Llywodraeth Cymru i’n hadroddiad. Mae'r ymateb yn nodi bod y mentrau hyn yn cael eu rhoi ar waith i gynyddu bywiogrwydd, annog mwy o ddefnydd o eiddo ac i sicrhau bod twristiaeth yn talu ffordd.
Fodd bynnag, clywodd y pwyllgor lawer o bryderon ynghylch y newidiadau hyn ac yn enwedig ynghylch cyflwyno’r ardoll. Lle mae trethi twristiaeth yn gweithio, clywsom dystiolaeth fod y gyfradd TAW ar gyfer twristiaeth a lletygarwch yn tueddu i fod yn is na'r lefel sydd gennym yng Nghymru, ac mai ardoll ymwelwyr oedd y dreth anghywir ar yr adeg anghywir. Felly, rwy'n falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhellion y pwyllgor yn hyn o beth, gan ei bod yn amlwg fod angen gwneud mwy o waith i sicrhau bod y diwydiant yn gweld llygad yn llygad â'r Llywodraeth ar y mater penodol hwn.
Yn olaf, hoffwn sôn yn gryno am y gweithwyr yn y tri diwydiant. Dywedodd TUC Cymru wrthym fod 70 y cant i 75 y cant o weithwyr ym maes twristiaeth a lletygarwch yn ennill llai na’r cyflog byw gwirioneddol, a chafodd hynny ei ategu yn yr adborth a gafodd y pwyllgor o’n cyfweliadau. Fel y dywedais ar ddechrau fy sylwadau, clywodd y pwyllgor fod llawer o bobl wrth eu boddau'n gweithio ym maes lletygarwch, manwerthu a thwristiaeth, ond clywsom hefyd fod gweithwyr yn poeni am gyflogau isel, sicrwydd ynghylch swyddi a thelerau ac amodau gwael. Gyda thwristiaeth a lletygarwch yn cyflogi cymaint o weithwyr Cymru, mae’n hanfodol fod y Llywodraeth yn gweithio’n galed i wella ansawdd swyddi yn y sector drwy gefnogi busnesau i wella’r hyn a gynigir ganddynt a chynorthwyo gweithwyr i wella eu sgiliau.
Nododd y Gweinidog yn glir fod y contract economaidd yn bwysig i ymgrynhoi dull Llywodraeth Cymru o wella'r sefyllfa ar gyfer y sectorau hyn. Fodd bynnag, clywodd y pwyllgor dystiolaeth sy'n destun gofid gan undebau, y Ffederasiwn Busnesau Bach a Sefydliad Bevan nad oedd pobl yn deall y contract economaidd yn iawn a’i fod—ar y gorau—yn gyfyngedig ei effaith. Felly, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn rhoi sicrwydd fod y contract economaidd yn cael ei hyrwyddo'n well a bod y contract yn cael ei fonitro a'i orfodi'n ddigonol i sicrhau ei fod yn cael mwy o effaith ar weithwyr yn y sectorau hyn. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru wneud mwy i sicrhau bod gweithwyr yn y sectorau hyn yn cael eu gwerthfawrogi. Mae’r rhain yn weithwyr sydd wedi’u gwreiddio yn ein cymunedau lleol ac sy'n eu gwasanaethu, a rhaid i’r Llywodraeth fynd ati'n rhagweithiol i sicrhau bod y sectorau hyn yn cael eu cefnogi’n well yn y dyfodol.
Ar y nodyn hwnnw, hoffwn ailadrodd fy niolch yn gyflym i bawb a ymgysylltodd â’r pwyllgor yn ystod ein gwaith ar y mater pwysig hwn, a diolch hefyd i’r tîm a gynorthwyodd y pwyllgor i gynnal yr ymchwiliad hwn. Edrychaf ymlaen at glywed barn yr Aelodau ar fater allweddol cefnogi ein diwydiannau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu a’r bobl sy’n gweithio’n galed ynddynt i wneud Cymru’n wlad wych i fyw ynddi ac i ymweld â hi. Diolch.