Part of the debate – Senedd Cymru am 4:02 pm ar 9 Tachwedd 2022.
Rwyf am ganolbwyntio ar letygarwch yn benodol. Mae'n sector arwyddocaol ynddo'i hun, gan gyflogi 200,000 o bobl yng Nghymru ar ei anterth, ac mae'n sector y mae gennyf lawer o brofiad ynddo. Fodd bynnag, bydd llawer o hyn yn berthnasol i fanwerthu a thwristiaeth.
Pan wnaethom gychwyn ein hymchwiliad i'r sector, roedd llawer ohono'n canolbwyntio ar yr effeithiau a gafodd y pandemig arno fel sector, a'r trafferthion a oedd yn wynebu'r sector wrth iddo fynd i'r afael â'r canlyniadau. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod llawer o hynny wedi ei fwrw i'r cysgod gan yr argyfwng costau byw. Mae pob un ohonom yn cael gohebiaeth ddyddiol gan fusnesau yn ein hetholaethau a'n rhanbarthau sy'n ei chael hi'n anodd aros ar agor. Tynnwyd ein sylw at dreth ar werth ac ardrethi busnes mewn tystiolaeth a gawsom. Mae'r Cadeirydd eisoes wedi cyfeirio at ardrethi busnes; roedd treth ar werth hefyd yn ennyn diddordeb arbennig, o ystyried awydd y sector i beidio â dychwelyd i'r gyfradd o 20 y cant. Rwy'n credu bod Gweinidog yr Economi yn iawn yn yr hyn a ddywedodd: gallai dychwelyd i'r gyfradd o 20 y cant wneud mwy o ddrwg nac o dda i'r economi; yn fwy felly nawr, o ystyried yr argyfwng costau byw.
Diolch i gostau byw, gallwn ychwanegu costau ynni a chwyddiant uchel at y rhestr honno o bryderon hefyd erbyn hyn. Mae bil ynni blynyddol un busnes lletygarwch yn fy rhanbarth, er enghraifft, wedi codi o £15,000 i ychydig o dan £70,000. Dywedodd busnes arall mwy cyhoeddus, Ristorante Vecchio ym Mhen-y-bont ar Ogwr, fod eu bil ynni bellach yn £8,000 y mis. Y gwir yw bod angen ymyrraeth ddifrifol gan y Llywodraeth nawr os yw nifer o fusnesau lletygarwch yn mynd i oroesi y tu hwnt i'r gaeaf.
Roedd staffio hefyd yn broblem a godwyd gyda ni fel pwyllgor, a'r frwydr wirioneddol y mae'r sector yn ei hwynebu gyda recriwtio. Clywsom gan y sector, a oedd yn barod i gyfaddef bod materion hirsefydlog yr oedd angen mynd i'r afael â hwy—fel cyflogau, diogelwch swyddi a chydbwysedd bywyd a gwaith—fel man cychwyn. Ond roedd yna awydd brwd iawn i broffesiynoli'r sector hefyd, i ddangos i newydd-ddyfodiaid fod yna lwybr cynnydd, yn ogystal â hyfforddiant, rhywbeth a amlygwyd yn gyson fel awydd o'r dystiolaeth a gasglwyd gan weithwyr. Yn y bôn, mae angen hyn, oherwydd byddwn yn gobeithio y byddai'n arwain at newid diwylliant a newid yn y modd y mae pobl yn trin gweithwyr lletygarwch yn gyffredinol. Ni allaf ddweud wrthych sawl gwaith y cefais i a'm cydweithwyr ein bychanu a'n trin yn nawddoglyd; roedd yn digwydd bob awr, os nad bob munud.
Byddaf bob amser yn cofio un digwyddiad yn benodol. Daeth cwpl i'r bar roeddwn yn gweithio ynddo ar y pryd. Fe wnaethant archebu dau espresso martini. Roeddwn yn gallu dweud yn syth eu bod yn fath penodol o bobl. Nid oherwydd y diodydd y gwnaethant eu harchebu, gan fy mod yn hoff o espresso martini a dweud y gwir, ond gallwn ddweud o'r ffordd y gwnaethant archebu'r diodydd. Dechreuais wneud y diodydd. Fe wnaethant ddechrau siarad am wyliau roeddent wedi ei gael yn ddiweddar, ar gwch hwylio gwerth £1 filiwn eu ffrind, ac fe wnaethant droi ataf a dweud, 'Rhaid bod hynny'n dipyn o sioc ddiwylliannol i chi, onid yw?' Rwy'n credu bod yr Aelodau'n fy adnabod yn ddigon da i wybod beth fyddai fy ymateb wedi bod i hynny, ond mae honno'n un enghraifft sydd gennyf. Mae gennyf lawer mwy o enghreifftiau, ond mae yna filiynau o enghreifftiau eraill allan yno hefyd.
Ond dyna pam fod angen i'r diwylliant newid, a dyna pam y cefais fy nghalonogi wrth weld bod y sector yn cydnabod bod angen y newid hwnnw hefyd. Rwyf wedi rhannu un stori negyddol am letygarwch, ond rwyf am gloi gyda stori gadarnhaol, oherwydd mae'n sector gwych i weithio ynddo, sydd unwaith eto'n cael ei gydnabod yn y dystiolaeth gan weithwyr. Roedd y profiadau a gefais yn wych, a'r ffrindiau a wneuthum yn ffrindiau oes. Fel sector, fe ddysgodd gymaint i mi am bobl, sut i ymdrin â phobl, yn enwedig sut i ymdrin â phobl gyda ffrindiau sydd â chychod hwylio gwerth £1 filiwn. Yn sicr fe roddodd hyder a sgiliau imi allu gwneud yr hyn rwy'n ei wneud nawr. Fe ddysgodd i mi hefyd sut i wneud coctel eithaf da, ac rwy'n siŵr y gallwn gytuno bod hwnnw'n sgìl bywyd gwerthfawr iawn. Ond ar nodyn difrifol, rwy'n falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn nifer o'n hargymhellion yn llawn, neu o leiaf mewn egwyddor, ond mae angen gweithredu i ddilyn hynny. Yn debyg iawn i'r sector, rwyf hefyd yn gweld Llywodraeth Cymru fel partner hanfodol yn adferiad a datblygiad y sector.