Part of the debate – Senedd Cymru am 4:07 pm ar 9 Tachwedd 2022.
Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad heddiw drwy adleisio sylwadau cyd-Aelodau sydd wedi diolch i'r tîm clercio a phawb a roddodd dystiolaeth a helpodd i lywio'r ymchwiliad hwn. Rwy'n credu ei fod yn waith pwysig iawn. Mae tua thraean o weithlu Cymru'n cael eu cyflogi yn y sectorau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu. Yr olaf yn unig, cyflogwr mwyaf y sector preifat yng Nghymru, sydd i gyfrif am ychydig dros 6 y cant o'n gwerth ychwanegol gros cenedlaethol. Felly, mae'r rhain yn rhannau hynod bwysig o'n heconomi.
Pan fyddwn fel arfer yn cynnal ymchwiliad o'r natur hon, rwy'n mynd i'r afael â'r gwaith gydag ysbryd cadarnhaol. Rydym yn ymchwilio i broblem, yn casglu data a thystiolaeth gadarn iawn, yn cyflwyno atebion amhleidiol, ac mae'r rhain, gobeithio, yn arwain at sefyllfa lle rydym yn unioni'r heriau a nodwyd. Fodd bynnag, yn yr achos hwn, gyda'r ymchwiliad hwn, mae'r heriau wedi mynd yn llawer mwy difrifol, hyd yn oed yn y pum mis ers cyhoeddi ein hadroddiad. Gwn na fydd hyn yn syndod i gyd-Aelodau yn y Siambr, i'r rhai a roddodd dystiolaeth, neu i fusnesau a phobl a gyflogir yn y sectorau.
Cynhaliodd The Caterer, sy'n ymdrin â lletygarwch, arolwg o'r sector ym mis Medi. Dywedodd 80% o'r ymatebwyr fod prisiau ynni cynyddol wedi dileu eu helw. Roedd tri o bob pump yn ofni na fyddai eu busnes yn bodoli ymhen blwyddyn. Roedd y mwyafrif o'r ymatebwyr wedi nodi bod biliau ynni wedi codi dros 100 y cant, gyda 22 y cant yn dweud bod eu costau wedi cynyddu 400 y cant, sy'n syfrdanol. Ddechrau'r wythnos, cyhoeddodd prif weithredwr UKHospitality rybudd llwm ynghylch pa mor eithriadol o agored yw'r sector i amrywiadau prisiau ynni, ac fe gyhuddodd benaethiaid cwmnïau ynni o fudrelwa. Wrth gwrs, effeithir yn ddifrifol ar y sectorau lletygarwch a thwristiaeth gan y ffaith nad oes gan bobl gymaint o arian yn eu pocedi oherwydd yr argyfwng costau byw.
Yn yr un modd, mae'r pwysau hwn hefyd yn cael effaith aruthrol ar weithwyr yn y sectorau. Mae undeb llafur Undeb Gweithwyr Siopau, Dosbarthu a Gwaith Perthynol (USDAW) yn cynrychioli gweithwyr siop. Rwy'n aelod o USDAW, ac yn eu harolwg diweddar o weithwyr manwerthu, datgelwyd bod eu hanner yn cael trafferth mynd i'r gwaith oherwydd costau teithio uwch, mae un o bob pedwar gweithiwr yn methu prydau bwyd bob mis i dalu biliau, ac mae tri o bob pedwar yn dweud bod eu hiechyd meddwl yn cael ei effeithio o ganlyniad i bryderon ariannol. Mae angen clir i'r pwyllgor hwn wneud rhagor o waith yn y maes hwn i archwilio effaith yr argyfwng a chraffu ar ymyriadau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Rwy'n gobeithio bod hwn yn bwnc y gallwn ddychwelyd ato ac rwy'n gobeithio, ar ben hynny, y bydd ymchwiliadau yn y dyfodol yn gwneud imi deimlo ychydig yn fwy gobeithiol ar gyfer y dyfodol.
Gan droi at argymhellion penodol yr adroddiad, rwyf eisiau gwneud sylw ar ambell syniad allweddol. Yn gyntaf, mae argymhelliad 5 yn galw am gymorth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i fuddsoddiad cyfalaf. Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwn. Mae'n rhywbeth rwy'n ei gefnogi. Ond mae'n rhaid inni sylweddoli effaith pwysau gwariant ar gyllidebau Llywodraeth Cymru ers i'n hadroddiad gael ei ysgrifennu ac ers i Lywodraeth Cymru ymateb i'n hargymhellion. Nid costau byw a phrisiau cynyddol yn unig yw hynny, ond annigonolrwydd economaidd Prif Weinidogion Torïaidd olynol a'u criwiau. Fel y cawsom ein hatgoffa gan y Gweinidog cyllid y mis diwethaf, dros y cyfnod gwariant presennol o dair blynedd, bydd gwerth cyllideb Llywodraeth Cymru hyd at £4 biliwn yn llai mewn termau real na phan gafodd ei gosod y flwyddyn cynt—£4 biliwn yn llai. Mae'r her yn amlwg.
Wrth ddarllen argymhellion 9 i 12, rwy'n falch o weld bod Llywodraeth Cymru yn ymateb i'n sylwadau. Mae ardoll ymwelwyr, yn fy marn i, yn ddull synnwyr cyffredin o gynhyrchu'r buddsoddiad i wella'r arlwy twristiaeth mewn ardal. Nid oes unrhyw beth newydd am y syniad, ac mae'n arfer safonol mewn llawer o wledydd a thiriogaethau. Yn ddiweddar, penderfynodd cyngor Caeredin gyflwyno ardoll ymwelwyr, a fydd yn cael ei defnyddio i gefnogi gwasanaethau gwastraff a glanhau, ac i sicrhau gwelliannau i fannau cyhoeddus a mannau gwyrdd. Ni fydd tâl bach yn atal ymwelwyr, ac nid wyf yn cytuno â'r sinigiaid sydd ond eisiau bychanu popeth sydd gan Gymru i'w gynnig.
Yn olaf, yr argymhellion sy'n ymwneud â gwaith teg. Unwaith eto, nodaf ymateb Llywodraeth Cymru mai cyfrifoldeb Gweinidogion y DU, i raddau helaeth, yw'r ymyriadau rydym wedi galw amdanynt. Fodd bynnag, edrychaf ymlaen at weld Gweinidogion Cymru yn defnyddio'r arfau sydd ar gael iddynt i wneud yn siŵr fod gweithwyr yn yr holl sectorau hyn yn cael eu gwerthfawrogi ac yn cael y cyflog teg y dylent allu ei ddisgwyl. Diolch.