Part of the debate – Senedd Cymru am 4:50 pm ar 9 Tachwedd 2022.
Mae'n deg dweud nad oeddem wedi disgwyl treulio cymaint o amser yn ystod blwyddyn gyntaf y chweched Senedd yn adrodd ar femoranda cydsyniad deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer Biliau'r DU. Fe wnaethom fynegi pryder ynghylch y graddau mae Llywodraeth y DU yn ceisio deddfu mewn meysydd sydd wedi'u datganoli, yn fwyaf arbennig mewn amgylchiadau lle mae'n digwydd gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Mae adrodd ar femoranda ar gyfer deddfwriaeth a wneir yn Senedd y DU, nad oes gennym unrhyw le i ddylanwadu arno, yn rhwystredig.
Byddai'n well gennym fod wedi cyfrannu at y broses o wella deddfwriaeth sy'n cael ei llunio yma yn y Senedd, fel ffordd o ddarparu'r atebion gorau posibl i gymunedau ledled Cymru—rôl rydym ni fel Aelodau o'r Senedd wedi cael ein hethol i'w chyflawni, wrth gwrs. Mae hyn hefyd yn tynnu sylw at un o'r problemau gyda phroses y cydsyniad deddfwriaethol: nid oes rôl i'r Senedd ddylanwadu ar benderfyniad Llywodraeth Cymru i ddilyn darpariaethau yn un o Filiau'r DU yn y lle cyntaf.
Nawr, rydym yn cydnabod, Gwnsler Cyffredinol, ei bod yn briodol defnyddio Biliau'r DU i ddeddfu mewn meysydd datganoledig mewn rhai achosion. Ond mae ein hadroddiad yn tynnu sylw at y ffaith bod egwyddorion Llywodraeth Cymru ar gyfer defnyddio Biliau'r DU i ddeddfu yn cynnwys gormod o gafeatau a chymalau eithrio yn ein barn ni, a chredwn fod hynny'n golygu nad oes fawr o werth ymarferol i'r egwyddorion hynny yn y chweched Senedd hon. Felly, rydym yn bwriadu drafftio ein hegwyddorion ein hunain y gallwn eu defnyddio wedyn ar gyfer dwyn y Llywodraeth i gyfrif.
Yn gyffredinol, Gwnsler Cyffredinol, rydym yn pryderu bod gormod o ddeddfwriaeth mewn meysydd datganoledig yn cael ei gwneud yn Senedd y DU. Mewn rhai amgylchiadau, gallai Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ddeddfu'n gyfochrog, a fyddai'n caniatáu cydweithredu rhwng Llywodraethau lle bo hynny'n briodol ac i'r Senedd ymgymryd â'i rôl graffu ar ddeddfwriaeth sylfaenol.
Yn y pen draw, mae effaith Llywodraeth Cymru yn ceisio darpariaeth ddatganoledig ym Miliau Llywodraeth y DU, neu Lywodraeth y DU yn cynnwys darpariaeth ddatganoledig mewn Bil heb unrhyw ymgynghoriad, yr un fath: creu diffyg democrataidd a lleihad cyfatebol mewn atebolrwydd yma yng Nghymru. Dylai hynny fod yn destun pryder i bawb ohonom, oherwydd os yw'r ymagwedd hon yn parhau, mae perygl y gallai danseilio'r Senedd fel deddfwrfa ac egwyddorion sylfaenol datganoli.
Mae ein hadroddiad yn tynnu sylw at ein gwaith craffu ar ddau Fil a gyflwynwyd i'r Senedd yn y flwyddyn gyntaf, lle roeddem yn gallu dylanwadu ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio'r Biliau hynny. Mae hefyd yn tynnu sylw at ein pryderon ynghylch dull Llywodraeth Cymru o wneud cyfraith ar faterion trethu—a gallaf weld Cadeirydd chwaer bwyllgor yma hefyd—ac yn arbennig ein hawydd i weld deddfwriaeth sylfaenol, yn hytrach nag is-ddeddfwriaeth, yn cael ei defnyddio i newid cyfraith trethiant. Byddem yn dadlau y byddai dull o'r fath yn parchu mandad democrataidd a goruchafiaeth ddeddfwriaethol y Senedd.
Felly, gadewch imi droi nawr at faterion sy'n ymwneud â'r cyfansoddiad ac at faterion allanol. Mae cytundeb perthynas ryngsefydliadol newydd wedi ei gytuno ar gyfer y chweched Senedd, ac rydym wedi bod yn monitro sut mae Llywodraeth Cymru'n cyflawni yn erbyn ei hymrwymiadau i rannu gwybodaeth gyda'r Senedd a'i phwyllgorau. Yn fras, credwn fod y cytundeb yn gweithio'n dda, a byddwn yn gweithio'n adeiladol gyda Llywodraeth Cymru i'w helpu i wneud rhai gwelliannau, gan gynnal uniondeb ein swyddogaeth graffu ar yr un pryd.
Rydym wedi dechrau rhoi sylw penodol i'r amgylchiadau pan fo Gweinidogion Cymru yn cydsynio i Lywodraeth y DU wneud is-ddeddfwriaeth mewn meysydd sydd wedi'u datganoli. Yn benodol, rydym wedi mynegi pryderon ynghylch yr amser cyfyngedig sydd ar gael i'r pwyllgorau roi barn wybodus ynglŷn ag a ddylai Llywodraeth Cymru roi ei chydsyniad. Mae hwn yn fater y byddwn yn parhau i'w fonitro. Mae'n un sy'n dod yn fwyfwy pwysig, yn bennaf gyda chyflwyno Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) i Senedd y DU yn ddiweddar.
I'r rhai nad ydynt yn gwybod, cyn diwedd 2023 mae Llywodraeth y DU yn cynllunio ar hyn o bryd iddi hi a'r Llywodraethau datganoledig adolygu holl gyfraith yr UE a ddargedwir er mwyn penderfynu beth i'w gadw, i'w ddiwygio neu i gael ei wared. Mae hwn yn waith sylweddol, oherwydd mae Llywodraeth y DU yn amcangyfrif bod tua 2,400 darn o gyfraith yr UE a ddargedwir mewn grym. Nid yw'r ffigur hwnnw'n cynnwys cyfraith yr UE a ddargedwir a wnaed yng Nghymru ac fel y bydd nifer ohonoch yn gwybod, daeth adroddiadau i'r amlwg ddoe fod y ffigur erbyn hyn yn debygol o fod yn nes at 3,800 o ddarnau o gyfraith. Os na newidir yr amserlen a gyflwynwyd gan y Bil, bydd yn faich enfawr, nid yn unig i Lywodraeth Cymru ond i fy mhwyllgor ac i'r Senedd gyfan mewn gwirionedd. Gallai fygwth gallu Llywodraeth Cymru a'r Senedd i weithredu'n effeithiol.
Maes arall o'n cylch gwaith yw llywodraethiant DU-UE, ac mae ein hadroddiad yn nodi'r gwaith a wnaethom, sy'n cynnwys mapio cyfrifoldebau Llywodraeth Cymru, monitro ei hymgysylltiad mewn pwyllgorau ôl-Brexit DU-UE a sicrhau ymrwymiad gan Brif Weinidog Cymru i wella tryloywder ar y materion hyn. Mae'r gwaith hwn wedi bod yn sail i'n hymgysylltiad parhaus â sefydliadau'r UE, gan gynnwys Cynulliad Partneriaeth Seneddol y DU-UE, a gyfarfu eto am yr eildro yr wythnos hon.
Mae ein hadroddiad hefyd yn manylu ar ein rôl drosfwaol ar fframweithiau cyffredin a'r gwaith a wnaethom ar gytundebau rhyngwladol. Mae monitro gweithrediad a chyflawniad cytundebau rhyngwladol yn bwysig er mwyn asesu eu heffaith ar Gymru, ac felly mae'n braf cael adrodd ar y llwyddiant a gawsom yn sicrhau mwy o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru yn y maes hwn i helpu'r broses honno. Ar ben hynny, mae ein gwaith wedi ein galluogi i ddatblygu ein hymgysylltiad ymhellach â phwyllgorau mewn Seneddau eraill—rhywbeth sydd o bwys cynyddol.
Mae honno'n agwedd arall ar yr hyn a wnawn yr hoffwn dynnu sylw ati heddiw: adeiladu'r berthynas gynhyrchiol honno â Seneddau eraill yn y DU fel ein bod yn rhannu gwybodaeth, gyda'r nod cyfunol o ddwyn ein Llywodraethau i gyfrif. Yn ystod y 12 mis diwethaf, rydym wedi cyfarfod â phwyllgorau o Dŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi a fis Mehefin diwethaf, cynhaliwyd cyfarfod â phwyllgorau o'r Tai hynny yn San Steffan i drafod meysydd o ddiddordeb cyffredin. Ychydig cyn y toriad, cyfarfu'r Fforwm Rhynglywodraethol yn y Senedd i drafod, ymhlith pethau eraill, cysylltiadau rhynglywodraethol, protocol Gogledd Iwerddon, Bil cyfraith yr UE a ddargedwir, yn ogystal â chynnal sesiwn holi ac ateb ardderchog gyda'r Cwnsler Cyffredinol, a roddodd ei amser yn barod iawn unwaith eto.
Fel y nodais ar ddechrau fy araith, mae ehangder cylch gwaith y pwyllgor hwn yn heriol, a chyda chyfran sylweddol o'n hamser yn cael ei dreulio yn ystyried materion deddfwriaethol, mae ein gallu i fod yn rhagweithiol wrth graffu ar faterion cyfiawnder wedi bod yn gyfyngedig. Rydym yn cydnabod bod heriau sylweddol yn wynebu dinasyddion yng Nghymru yn gysylltiedig â gweithrediad y system gyfiawnder. Rydym wedi cyfarfod â llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, Cyngor Cyfraith Cymru a'r Arglwydd Thomas o Gwmgiedd ar faterion yn ymwneud â chyfiawnder yng Nghymru ac am y tro cyntaf, fe wnaethom waith craffu ar y gyllideb ddrafft mewn perthynas ag agweddau ar bortffolio cyfiawnder Llywodraeth Cymru. Mae croeso mawr i'r ymrwymiadau a roddodd y Cwnsler Cyffredinol i gynyddu tryloywder cyflawniad y rhaglen waith ar gyfiawnder ac ar wariant Llywodraeth Cymru ar gyfiawnder, ac edrychwn ymlaen at farnu cynnydd yn y rownd graffu nesaf ar y gyllideb.
Rydym hefyd yn croesawu'r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru eleni i ymateb yn gadarnhaol i argymhellion y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru ac yn cefnogi ei gydweithio parhaus gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder i nodi'r argymhellion y gall eu gweithredu mewn partneriaeth. Er bod cynnydd yn cael ei wneud, mae'n amlwg, o waith ymgysylltu a wnaethom, gydag ymarferwyr cyfreithiol fod llawer o waith i'w wneud o hyd i ymateb i'r heriau sy'n wynebu'r sector cyfreithiol ar hyn o bryd a'r rhwystrau sy'n wynebu'r rhai sydd eisiau mynediad at gyfiawnder yng Nghymru.
Felly, fel y dengys fy sylwadau y prynhawn yma, mae ein gallu i fod yn rhagweithiol braidd yn gyfyngedig ar hyn o bryd. Ond i wrthsefyll hyn, rydym yn ystyried ac rydym yn cyhoeddi adroddiadau monitro rheolaidd i dynnu sylw at ddatblygiadau o fewn yr ystod o bynciau rydym yn ymdrin â hwy, ac yna rydym yn eu dwyn i sylw'r cyhoedd yn ogystal ag i sylw'r Senedd. Dyna pam ein bod wedi penderfynu paratoi'r adroddiad blynyddol hwn, er mwyn dod â'r holl waith a wnaethom rhwng mis Mai 2021 a mis Awst 2022 at ei gilydd mewn un man, ac rwy'n gwahodd y Senedd i nodi'r adroddiad hwn.
Wrth gloi, a gaf fi ddiolch i holl Aelodau'r Senedd sydd wedi cyfrannu at y gwaith a adlewyrchir yn yr adroddiad hwn, i aelodau fy mhwyllgor, a hefyd i'n clercod a'n tîm ymchwil, gan y byddai'r gwaith wedi ein llethu'n llwyr oni bai amdanynt hwy? Edrychaf ymlaen at gyfraniadau eraill y prynhawn yma gan aelodau'r pwyllgor a chan eraill, ac yn cynnwys ymateb y Gweinidog hefyd. Diolch yn fawr iawn.