Part of the debate – Senedd Cymru am 5:15 pm ar 9 Tachwedd 2022.
Os caf droi at Filiau, fel y nododd y Prif Weinidog yn ei ddatganiad diweddaraf ar y rhaglen ddeddfwriaethol ar 5 Gorffennaf, rydym yn bwrw ymlaen â rhaglen uchelgeisiol o ddeddfwriaeth sylfaenol. Rydym wedi cyflwyno chwe Bil cyntaf tymor y Senedd hon ac mae’r pwyllgor wedi chwarae rhan sylweddol a hollbwysig yn y rheini hyd yma. Hoffwn ddiolch i’r pwyllgor a’r Cadeirydd am eu gwaith ar ddau Fil cyntaf y tymor hwn sydd wedi’u pasio gan y Senedd, sef Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) a Deddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu). Mae’r adroddiad yn cyfeirio at 40 o argymhellion a wnaed mewn perthynas â’r ddau Fil, ac mae’n tynnu sylw at rai o’r themâu a’r materion trosfwaol wrth graffu ar y Biliau hyd yma. Wrth inni fwrw ymlaen â’n rhaglen ddeddfwriaethol, byddwn yn ystyried y themâu hynny.
Nawr, mae’r adroddiad yn sôn am waith presennol y pwyllgor ar ddau Fil sy’n gwneud eu ffordd drwy’r Senedd ar hyn o bryd: Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) a Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru). Rwy'n credu bod Bil yr amgylchedd hanesyddol, yn enwedig, yn werth ei grybwyll, o ystyried mai dyma’r Bil cydgrynhoi cyntaf a’r pwyllgor yw’r pwyllgor craffu arweiniol ar ei gyfer. Mae Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) a Bil Amaethyddiaeth (Cymru) hefyd wedi’u cyflwyno i’r Senedd bellach. Dyma’r ddau Fil cyntaf ym mlwyddyn 2 y rhaglen ddeddfwriaethol. Mae’r rhain y tu allan i’r cyfnod adrodd a gwmpesir gan yr adroddiad blynyddol, ond roeddwn am ddiolch i’r pwyllgor, a’r Senedd yn fwy cyffredinol, am eu gwaith craffu ar y Bil plastig untro, o ystyried ei fod yn symud ymlaen ar amserlen garlam.
Hoffwn droi nawr at ddeddfwriaeth y DU, ac rwy’n cydnabod y sylwadau a wnaed ac fe geisiaf roi sylw iddynt, gan ategu rhai o’r pwyntiau roeddwn am eu gwneud o bosibl. Ein safbwynt sylfaenol o hyd yw y dylid gwneud deddfwriaeth mewn meysydd datganoledig yng Nghymru. Fodd bynnag, ceir rhai amgylchiadau o hyd lle gall darpariaethau ym Miliau’r DU fod yn synhwyrol ac yn fanteisiol, ar yr amod nad yw hyn yn arwain at drosglwyddo unrhyw bwerau neu gyfrifoldeb, a’i fod bob amser yn cadw gallu cyfansoddiadol y Llywodraeth a’r Senedd i ddeddfu ar adeg sy’n fwy addas a phriodol i'n blaenoriaethau a'r rhaglen ddeddfwriaethol. Rydym wedi ymrwymo, fel Llywodraeth, i sicrhau bod ein gwaith gyda Biliau’r DU yn parhau i fod yn gyson â’n hegwyddorion ac i sicrhau bod y Senedd hon yn cael cymaint o graffu â phosibl drwy broses y memoranda cydsyniad deddfwriaethol.
Anaml iawn y byddem yn mynd ati’n rhagweithiol i fynd at Lywodraeth y DU i ddeddfu ar ein rhan; i’r gwrthwyneb, cafwyd nifer annerbyniol o achosion dros y blynyddoedd diwethaf o Lywodraeth y DU yn cyflwyno darpariaeth ddatganoledig gerbron Senedd y DU heb inni gael unrhyw olwg arni ymlaen llaw. Mae hwn wedi bod yn fater sydd wedi codi dro ar ôl tro yn sesiwn bresennol Senedd y DU. Mae’r diffyg ymgysylltu â Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn rhwystr mawr i weithrediad effeithiol proses bresennol y cydsyniad deddfwriaethol. Rwy’n cydnabod ei bod yn rhan o natur y pwyllgor ei fod yn gweithredu bron mewn ffordd amhleidiol oherwydd ei swyddogaeth fel pwyllgor cyfansoddiadol a deddfwriaethol, a chydnabyddir y pwynt hwnnw. Credaf fod beirniadaeth i'w gwneud o Lywodraeth y DU, yn union fel y mae beirniadaeth, fel sy’n briodol, i’w gwneud yn rhan o’r broses graffu gan y pwyllgor, a chredaf fod hynny’n dangos aeddfedrwydd y ffordd y mae’r pwyllgor wedi’i ddatblygu o fewn ein strwythur seneddol.
Felly, byddwn yn parhau i alw ar Lywodraeth y DU i wella ei hymgysylltiad â ni mewn perthynas â’i rhaglen ddeddfwriaethol, gyda'r bwriad, maes o law, o sicrhau'r gallu craffu mwyaf posibl i'r Senedd. Hoffwn ychwanegu ychydig o sylwadau ar hynny, gan fy mod yn llwyr gydnabod y materion sy’n bodoli mewn perthynas â phroses y memoranda cydsyniad deddfwriaethol. Wrth gwrs, nid ydym yn rheoli rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU, ac wrth gwrs, nid yw nifer y memoranda cydsyniad deddfwriaethol yn fater sy’n cael ei bennu gennym ni, ond caiff ei bennu gan effaith y darnau hynny o ddeddfwriaeth. Mae'n rhaid inni ymateb, p'un a gaiff cydsyniad ei roi ai peidio, a hoffwn wneud y pwynt, wrth gwrs, nad yw cydsyniad yn cael ei roi gan Lywodraeth Cymru—argymhelliad gan Lywodraeth Cymru ydyw, ond yn y pen draw, daw i lawr y Senedd.
Ond mae'r pwyntiau a wnewch mewn perthynas â chraffu yn gywir, a chredaf eu bod yn rhan sylfaenol o gamweithrediad ein trefniant cyfansoddiadol, nad yw'n cynnwys strwythur seneddol cyfansoddiadol ffederal addas i alluogi proses wahanol iawn o ddatblygu a chyflwyno deddfwriaeth. Nid system lle gall swm enfawr o ddeddfwriaeth y DU ddominyddu, bron, holl brosesau deddfwriaethol y gwledydd datganoledig yw’r ffordd gywir o fynd o'i chwmpas hi, ac mae’n amlwg fod gwersi cyfansoddiadol i’w dysgu yn hynny o beth.