Part of the debate – Senedd Cymru am 5:20 pm ar 9 Tachwedd 2022.
Rwy'n croesawu casgliadau’r pwyllgor ar wella’r prosesau cydsyniad deddfwriaethol, a gobeithiaf y gallwn barhau i gydweithio i gryfhau gallu’r Senedd ymhellach i graffu ar ddeddfwriaeth ac amddiffyn y setliad datganoli gyda'n gilydd. Mae'r modd y mae Llywodraeth y DU yn gyson yn tramgwyddo gonfensiwn Sewel yn annerbyniol, a chredaf eu bod yn dangos diffyg parch at y sefydliad hwn a etholwyd yn ddemocrataidd a’r bobl y mae’n eu cynrychioli. Mynegodd y Prif Weinidog a minnau ein pryder dwfn yng nghyfarfod cyntaf y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ym mis Mawrth ac eto yn y cyfarfod ym mis Mehefin, a gwnaethom alw am godeiddio’r confensiwn a chryfhau’r mecanweithiau adrodd i'r Seneddau priodol. Ers hynny, mae swyddogion o bob un o’r pedair Llywodraeth wedi bod yn edrych ar y confensiwn a’r egwyddorion ar gyfer gweithio yn y dyfodol. Wrth gwrs, yr unig ffordd i ddiogelu’r setliad datganoli unwaith ac am byth a diogelu dyfodol y Deyrnas Unedig, yn fy marn i, yw gosod y confensiwn ar sylfaen statudol a thraddodadwy, ac mae hyn yn rhywbeth rydym yn parhau i fynd ar ei drywydd yn gryf. Fel Llywodraeth Cymru, byddwn hefyd yn gwneud yr hyn a allwn i sicrhau bod y ddeddfwrfa hon yn cael cyfle i graffu’n briodol ar ddeddfwriaeth y DU sy'n ddarostyngedig i gonfensiwn Sewel ac sy’n galw am ein cydsyniad.
Ond gall ymgysylltu hwyr gan Lywodraeth y DU arwain at bwysau amser eithafol yn y cyswllt hwn. Roedd y Bil ynni brys yn enghraifft o hyn. Mae ymgysylltu cynnar ac effeithiol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn hanfodol ym mhob maes polisi, ond lle mae Llywodraeth y DU yn mynd i gynnig deddfwriaeth, mae'n gwbl hanfodol. Nid materion bach yw'r rhain, a rhaid i Lywodraeth y DU gydnabod y dadansoddi manwl a dilys, sydd weithiau'n cymryd llawer o amser, y mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru a’r sefydliad hwn ei wneud. Mae hefyd yn deg dweud nad yw cysylltiadau rhynglywodraethol wedi bod yn gryf dros y misoedd diwethaf. Mae'r ansefydlogrwydd yn Llywodraeth y DU wedi atal ymgysylltiad llawn ac ystyrlon a chynnydd mewn llawer o feysydd. Ond bellach, mae gennym Brif Weinidog newydd a Chabinet newydd yn y DU. Rydym wedi ymrwymo i feithrin perthynas waith gadarnhaol lle gallwn, a nawr yw’r adeg i ailosod y cysylltiadau hynny ac edrych o’r newydd gyda’n gilydd ar yr heriau, gan gynnwys yr argyfwng costau byw. I wneud hynny, mae angen ymgysylltu gwirioneddol, agored. Gall y mecanweithiau y cytunwyd arnynt yn rhan o’r adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol fynd â ni rywfaint o’r ffordd, a gwn fod y pwyllgor wedi bod yn monitro sut mae’r mecanweithiau hynny’n gweithio ar lawr gwlad. Felly, mae'n amlwg yn hanfodol ein bod yn gweithio i sefydlu'r strwythurau newydd, ond mae cysylltiadau rhynglywodraethol yn mynd y tu hwnt i gyfarfodydd rheolaidd, ac ni ellir eu mesur yn ôl nifer y cyfarfodydd a gynhelir yn unig. Felly, rhaid i bob Llywodraeth gadw at ysbryd yn ogystal â llythyren yr adolygiad rhynglywodraethol.
Ychydig o sylwadau, i gloi, ar gyfiawnder. Rwyf wedi bod yn falch iawn o fynychu'r pwyllgor i drafod materion sy'n ymwneud â chyfiawnder. Mae Llywodraeth Cymru yn gwbl glir ein bod yn cytuno â chasgliadau’r Arglwydd Thomas fod y system gyfiawnder yn gwneud cam â phobl Cymru, ac y dylid datganoli cyfiawnder. Rydym yn archwilio’r materion hyn yn fanylach yn ein hadroddiad 'Sicrhau Cyfiawnder i Gymru’, a lansiwyd gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a minnau ym mis Mai, ac mae hwnnw’n darparu’r sylfaen ar gyfer ymgysylltu pellach. Mae cyfiawnder yn faes arall lle mae'r anhrefn sydd wedi bod yn rhemp yn Llywodraeth y DU wedi cael effaith ar y cynnydd rydym wedi gallu ei wneud. Felly, er ein bod yn cydnabod bod safbwyntiau sylfaenol y ddwy Lywodraeth yn wahanol, rydym wedi ceisio gwneud newidiadau lle gallwn, ac mae hyn wedi bod yn arbennig o anodd gyda'r tîm gweinidogol yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn newid mor aml ac mor gyflym. Credaf ein bod wedi cael naw Ysgrifennydd cyfiawnder gwahanol ers i'r Ceidwadwyr ddod i rym, sy'n anhygoel.
Felly, byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i wneud newidiadau cadarnhaol, hyd yn oed os ydynt ar yr ymylon, ac mae pethau da i’w hadrodd gydag enghreifftiau da, rwy'n credu, o gydweithio ar gyfiawnder yng Nghymru. Mae yna brosiectau'n digwydd neu ar y ffordd sydd eisoes i'w croesawu ac yn ddiddorol. Gwn fy mod wedi gwneud sylwadau ar rai o’r rhain o’r blaen, boed ar y cynllun peilot llysoedd teulu cyffuriau ac alcohol yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, cynllun peilot Grand Avenues yng Nghaerau a Threlái, neu ddull system gyfan y rhaglen fraenaru i fenywod a’r gwasanaeth dargyfeiriol 18 i 25. Nawr, ni fydd unrhyw un o'r pethau hyn yn mynd i'r afael â'r methiannau sylfaenol y credaf ein bod yn eu nodi'n amlach ac yn amlach. Mae’r Llywodraeth hon wedi nodi'n glir ein bod wedi ymrwymo i ddatganoli plismona a chyfiawnder, ac mae’n ymrwymiad y byddwn yn parhau i fynd ar ei drywydd gan ei fod yn ymwneud â darparu plismona a chyfiawnder yn well. Yn y cyfamser, rwy'n croesawu ymwneud y pwyllgor â’r materion hyn, ac yn enwedig ei fwriad i geisio sicrhau presenoldeb Gweinidogion y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, hoffwn dalu teyrnged unwaith eto i'r pwyllgor am eu gwaith ar draws cylch gwaith arbennig o eang, ac am gyhoeddi adroddiad blynyddol mor drylwyr a manwl. Rwy'n gobeithio y cyrhaeddwn sefyllfa lle nad oes rhaid inni fynd drwy fanylion Bil cyfraith yr UE a ddargedwir, ond mae hynny’n rhywbeth y tybiaf y bydd rhaid inni ei wneud, yn anffodus. Diolch yn fawr.