Part of the debate – Senedd Cymru am 5:09 pm ar 9 Tachwedd 2022.
Rwy'n croesawu'r cyfle i gyfrannu heddiw. Roedd yn bleser bod yn aelod o’r pwyllgor yn dilyn fy etholiad fis Mai diwethaf, ac rwy’n wirioneddol ddiolchgar am y ffordd y cefais fy nghroesawu gan y Cadeirydd ac aelodau’r pwyllgor i’r swydd honno fel bachgen newydd. Cymeradwyaf hefyd y cymorth swyddogol rhagorol i’r pwyllgor—set ragorol o swyddogion, a diolch iddynt hwy. Ddirprwy Lywydd, fel y gwyddoch, nid wyf yn aelod o’r pwyllgor mwyach, ond rwy'n croesawu datganiad Cadeirydd y pwyllgor ac yn diolch iddo am ei waith yn arwain y pwyllgor mewn modd mor golegol ac adeiladol. Roedd hynny i'w groesawu'n fawr.
Un o’r prif bwyntiau trosfwaol a nodwyd yn yr adroddiad, fel y clywsom eisoes, yw’r rhyngweithio rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru o ran deddfu. Hoffwn ailgadarnhau’r pwynt ei bod yn bwysig fod Llywodraethau’r DU nawr ac yn y dyfodol yn parchu’r setliad datganoli, a hefyd yn cytuno bod angen gwell cydweithio rhynglywodraethol. Mae pob un ohonom yn wynebu heriau enfawr ar hyn o bryd; mae angen inni gydweithio’n adeiladol ac yn effeithiol ar y rhain. Ac felly, fy ngobaith yw y bydd y cytundeb newydd ar gysylltiadau rhynglywodraethol a gyhoeddwyd yn gynharach eleni yn cael ei fireinio dros amser i sicrhau gwell cydweithredu ar faterion o ddiddordeb cyffredin. Yn hyn o beth, rwy'n croesawu gwaith blaenorol y pwyllgor yn craffu ar y berthynas rhwng y ddwy Lywodraeth, ac rwy'n gobeithio y bydd ei waith yn y dyfodol yn helpu i gefnogi gwelliant yn y cysylltiadau hynny.
Mae’r pwyllgor yn gwneud nifer o bwyntiau. Rydym eisoes wedi clywed y prynhawn yma am y defnydd o femoranda cydsyniad deddfwriaethol a’r hyn y mae’n ei ystyried yn orddibyniaeth ar y weithdrefn hon i greu cyfraith yng Nghymru. Ac i ryw raddau, rwy’n cydymdeimlo â’r pwynt hwnnw. Rydym yn cael llawer o femoranda cydsyniad deddfwriaethol, ac mae cyfleoedd i Lywodraeth Cymru ystyried cyflawni mwy o ddeddfwriaeth a wnaed yng Nghymru y gall y Senedd ddylanwadu’n uniongyrchol arni. Felly, cwestiwn i’r Llywodraeth, fel rhan o’i rhaglen ddiwygio’r gyfraith, yw sut y gall gynyddu ei chapasiti deddfwriaethol. Mae cwestiynau hefyd i’r Senedd ynghylch sut y gallwn weithredu i ganiatáu i ragor o ddeddfwriaeth gael ei hystyried, yn enwedig gan Aelodau’r meinciau cefn a’r gwrthbleidiau. Fodd bynnag, byddwn yn dweud na ddylem geisio dyblygu gwaith yn ddiangen lle mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn credu ei bod yn fwy costeffeithiol, yn gyflymach ac yn fwy priodol i gyflwyno deddfwriaeth ar lefel y DU.
Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, mae adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn gwneud rhai pwyntiau diddorol am gymhlethdod cyfraith Cymru. Fel rhywun a oedd yn newydd i'r gwaith o graffu ar y gwahanol fathau o gyfraith sy’n bodoli pan oeddwn ar y pwyllgor hwnnw, cefais fy synnu braidd gan ba mor gymhleth a gweithdrefnol oedd rhai o’n trafodaethau. Rwy'n croesawu rhaglen waith y Llywodraeth sy’n edrych ar wneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch. Yn hyn o beth, credaf fod gan y pwyllgor rôl i’w chwarae hefyd yn annog pobl i feddwl mwy am y gyfraith a chwilio am fwy o gyfleoedd i ymgysylltu ag aelodau’r cyhoedd ynghylch ei waith.
I gloi, Ddirprwy Lywydd, rwy'n ategu fy niolch i’r pwyllgor a’r Cadeirydd am eu holl waith, ac yn dymuno'n dda iddynt yn y blynyddoedd i ddod.