7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad — 'Adroddiad Blynyddol 2021/22'

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:02 pm ar 9 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 5:02, 9 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Petrusaf cyn ymhelaethu ar unrhyw faterion yn y fforwm hwn, ond rwy’n ddiolchgar. Credaf ei bod yn iawn fod James Evans wedi diolch i aelodau eraill y pwyllgor. Hoffwn ychwanegu Rhys ab Owen at hynny, ac wrth gwrs, Aelodau eraill sydd wedi eistedd yn y lle hwn—mae Jayne Bryant a Peter Fox hefyd wedi cyfrannu at waith y pwyllgor. Rwyf am ddiolch hefyd wrth gwrs nid yn unig i'r Cadeirydd, ond i'r ysgrifenyddiaeth yn ogystal, sy'n gwneud gwaith gwych yn darparu cymorth i'r pwyllgor. Hoffwn adleisio geiriau Cadeirydd y pwyllgor drwy ddiolch i’r Cwnsler Cyffredinol am ei barodrwydd i fynychu’r pwyllgor. Ar un adeg, roeddwn yn teimlo ei fod yn mynychu mwy o gyfarfodydd pwyllgor na rhai Aelodau, ac rwyf wedi eistedd yn y lle hwn yn ddigon hir i wybod ei bod weithiau'n hynod o anodd cael y Gweinidog o flaen y pwyllgor. Felly, rydym yn ddiolchgar iawn i'r Cwnsler Cyffredinol hefyd, ac yn ddiolchgar i'r Ysgrifennydd Parhaol, a fynychodd y pwyllgor ychydig wythnosau yn ôl.

Mae Aelodau sydd wedi siarad yn y ddadl hon wedi amlinellu rhai o’r themâu allweddol y mae’r pwyllgor wedi ceisio mynd i’r afael â hwy, a chredaf mai’r themâu a nodwyd gan y Cadeirydd a chan yr Aelod Ceidwadol yw’r themâu rwyf innau am geisio mynd i’r afael â hwy. Rwyf wedi eistedd ar y pwyllgor hwn ers rhai blynyddoedd drwy nifer o Seneddau gwahanol, ac nid wyf erioed wedi gorfod ymdrin â chymaint o gynigion cydsyniad deddfwriaethol ag rydym yn ymdrin â hwy ar hyn o bryd. Mae arnaf ofn dweud wrth y Cwnsler Cyffredinol fod Llywodraeth Cymru yn ddihiryn yn yr achos hwn, ac nid Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn unig sy’n gweithredu fel dihiryn; mae'r ddwy ar fai yma.

Nid yw’n iawn nac yn briodol fod Llywodraeth Cymru yn ceisio osgoi craffu ar ei deddfwriaeth drwy ddefnyddio’r sianeli sydd ar gael iddi yn San Steffan. Pleidleisiodd pobl Cymru dros ddatganoli, a gwnaethant bleidleisio i'r ddeddfwrfa hon graffu ar y Llywodraeth ddatganoledig hon. Mae’n iawn ac yn briodol fod y ddeddfwrfa'n gallu craffu ar ddeddfwriaeth. Nid oes gennyf unrhyw broblem gyda phroses y memoranda cydsyniad deddfwriaethol ac nid oes gennyf unrhyw broblem gyda'r ffordd y'i defnyddiwyd yn y gorffennol, gan ei bod wedi cael ei defnyddio i lyfnhau ymylon garw. Mae wedi cael ei defnyddio gan Weinidogion ar y ddwy ochr i’r ffin i alluogi i bethau ddigwydd yn haws ac i wneud hynny mewn ffordd sy’n hwyluso llywodraethu da yn ein gwledydd. Ond nid dyna'r hyn rydym yn ymdrin ag ef ar hyn o bryd. Yr hyn rydym yn ymdrin ag ef ar hyn o bryd yw osgoi craffu ar lefel ddiwydiannol, ac ni allwn ganiatáu i hynny ddigwydd. Mae’n rhaid inni siarad yn glir â Llywodraeth Cymru a dweud, fel pwyllgor, gan anwybyddu gwleidyddiaeth yn y cyswllt hwn, na ddylem ac na allwn dderbyn hyn fel deddfwrfa. Mae angen inni fod yn glir ynglŷn â hynny.

Ond mae angen inni hefyd ddweud yn glir wrth Lywodraeth y Deyrnas Unedig na chawsant eu hethol â mandad i ymdrin â’r materion hyn. Ni sydd â'r mandad gan bobl Cymru. Mae pobl Cymru wedi pleidleisio ddwywaith mewn refferenda i sefydlu Senedd i lywodraethu’r wlad hon yn y ffordd a bennwyd, ac nid yw’n iawn nac yn briodol fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig, heb fandad yn y wlad hon, yn ceisio deddfu mewn meysydd sydd wedi’u datganoli i Gymru. Mae’n amhriodol, ac mae’n amhriodol fod Senedd San Steffan yn cael ei defnyddio i orfodi deddfwriaeth nad oes cydsyniad iddi yng Nghymru. Mae angen inni fod yn glir iawn ynglŷn â hynny.

Y mater arall yr hoffwn fynd i’r afael ag ef yw cysylltiadau rhynglywodraethol. Ar y cynnydd a welsom yn y blynyddoedd diwethaf, daeth Prif Weinidog Cymru i gytundeb rai blynyddoedd yn ôl bellach gyda Llywodraeth y DU, ac roeddwn yn croesawu hynny gan fy mod yn teimlo ein bod yn ymbellhau oddi wrth rywfaint o’r gwrthdaro rydym wedi’i weld dros y blynyddoedd diweddar ac yn symud tuag at berthynas wedi'i strwythuro a'i threfnu'n well rhwng ein Llywodraethau. Ond nid yw hynny wedi digwydd. Nid ydym wedi gweld hynny’n cael ei gyflawni. Credaf ei fod yn dweud y cyfan, yng nghwestiynau’r Cwnsler Cyffredinol yn gynharach, pan orfodwyd y Cwnsler Cyffredinol i ddweud bod gennym ddarnau o ddeddfwriaeth yma nad ydynt hyd yn oed wedi’u gweld gan swyddogion Llywodraeth Cymru cyn iddynt gael eu gosod ger ein bron a chyn i gynigion cydsyniad deddfwriaethol gael eu ceisio. Mae hynny'n anghywir ac yn amhriodol ac ni ddylai ddigwydd. Fy marn gref heddiw yw bod angen diddymu Swyddfa Cymru; yn ei lle, mae angen trefniadau rhynglywodraethu go iawn a phrosesau a strwythurau gwladwriaeth ffederal.

Ceir materion eraill y mae angen inni fynd i'r afael â hwy. Roedd mater cyfiawnder yn un y cyfeiriodd y Cadeirydd ato yn ei gyflwyniad. Gwn fod y pwyllgor cydraddoldeb yn gwneud rhywfaint o waith ar hyn o bryd ar le menywod yn y system farnwrol, a gwyddom fod strwythur llywodraethu presennol y Deyrnas Unedig, fel yr amlinellodd y Cwnsler Cyffredinol unwaith eto, yn y cwestiynau, yn gwneud cam â'r system farnwrol. Felly, mae cwestiynau mawr yma y mae angen inni fynd i'r afael â hwy. Credaf fod y pwyllgor yn gwneud gwaith rhagorol yn dechrau mynd i’r afael â’r rheini, ac yn dweud rhai pethau anodd iawn wrth ein Llywodraeth ein hunain. Credaf ei bod yn iawn ac yn briodol i bwyllgorau wneud hynny. Rydym newydd weld dadl ragorol gan y pwyllgor cynt; roeddwn o'r farn fod honno’n ffordd wych o drafod rhai o’r materion polisi sy'n gysylltiedig â hyn.

Ond Gwnsler Cyffredinol, wrth ateb y ddadl y prynhawn yma, rwy'n gobeithio y byddwch yn gallu mynd i’r afael â rhai o’r themâu hyn y mae’r pwyllgor wedi’u nodi yn ei flwyddyn gyntaf, oherwydd yr hyn a welwn yn yr ail flwyddyn yw bod y themâu hyn yn gwaethygu yn hytrach na'n cael eu datrys. Nid wyf am brofi amynedd y Dirprwy Lywydd ymhellach, ond rwy'n gobeithio y gwelwn lawer mwy o dryloywder mewn trefniadau rhynglywodraethu i’n galluogi i ddwyn y Llywodraethau i gyfrif a datblygu prosesau craffu democrataidd rhyngsefydliadol ar ein sefydliadau llywodraethol, yma ac ar draws y Deyrnas Unedig. Rwy’n ddiolchgar i chi, Ddirprwy Lywydd.