Part of the debate – Senedd Cymru am 6:11 pm ar 9 Tachwedd 2022.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf am ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon heddiw, ac rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i gyfrannu ati. Bydd y Llywodraeth yn cefnogi'r cynnig. Byddwn yn dadlau, fel cenedl sy'n gyfrifol yn fyd-eang, ein bod ni, mewn gwirionedd, yn mynd dipyn pellach na'r cynnig. Rydym yn amlwg yn cefnogi'r uchelgeisiau a adlewyrchir yn y cynnig, ond yr her go iawn yw gweithredu'n ymarferol, gan gynnwys derbyn yr angen i flaenoriaethu, i fod yn gyson wrth gymhwyso ein hegwyddorion ac i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol â busnesau ac undebau llafur sy'n canfod bod angen iddynt wneud newidiadau mawr i'w ffyrdd o weithio.
Rydym yn falch iawn o'r gwaith y buom yn ei wneud eisoes i leihau ein heffaith ar y blaned. Mae ein penderfyniad i wrthod cefnogi allforwyr tanwydd ffosil dramor ac ailffocysu ymdrechion tuag at gyfleoedd rhyngwladol newydd yn y sectorau ynni carbon isel ac adnewyddadwy yn un o nifer o gamau cadarnhaol rydym eisoes wedi'u cymryd i gyrraedd nod 'Cymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang'. Er mwyn cyrraedd y nod penodol hwn yn Neddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, rhaid inni sicrhau ein bod yn ystyried effaith ein holl bolisïau yng Nghymru ar raddfa fyd-eang. Mae ein gwaith ar fioamrywiaeth yn dangos ymrwymiad clir i'r nod hwn, gyda Llywodraeth Cymru yn rhan lawn o COP15 ac yn bartner allweddol wrth ddatblygu fframwaith bioamrywiaeth fyd-eang newydd. Mae'r archwiliad dwfn o fioamrywiaeth yn ddiweddar wedi canolbwyntio ar ddull Cymru o weithredu'r targed a osodwyd gan y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol i ddiogelu o leiaf 30 y cant o'r tir a 30 y cant o'r môr erbyn 2030. Cyhoeddwyd argymhellion i gefnogi cyflwyno'r nod 30x30 yn ystyrlon ac mae camau ar waith i weithredu ar unwaith.
I droi at ail ran y cynnig, rydym yn y broses o ailgyfrifo ein hôl troed byd-eang ein hunain, gwaith sy'n cael ei wneud gan y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur. Bydd y gwaith hwn yn cynnwys datblygu ôl troed ecolegol byd-eang i Gymru a gwella ein dealltwriaeth o'r aliniad rhwng y gwahanol fetrigau sy'n seiliedig ar ddefnydd sydd ar gael, yn enwedig mewn perthynas â charbon. Byddwn hefyd yn cyhoeddi amcangyfrif o ôl troed allyriadau defnydd Cymru, yn y DU a thramor.
Mae ein rhaglen lywodraethu'n nodi'r angen i weithredu a gwreiddio ein hymateb i'r argyfyngau ym mhob dim a wnawn. Mae ein contract economaidd yn cefnogi ein gweledigaeth ar gyfer economi llesiant sy'n wyrdd, yn ffyniannus ac yn gyfartal. Rydym yn mynd ymhellach drwy ddatblygu cyfres o safonau, ac mae busnesau yng Nghymru eisoes yn cael eu hannog i fabwysiadu'r cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi. Yn wir, bydd y contract economaidd yn parhau i fod yn elfen allweddol wrth inni fynd ar drywydd gwerth cymdeithasol, gan yrru newid cymdeithasol a chyfrifoldeb byd-eang yn ein heconomi.
Mae gennym weledigaeth strategol ar gyfer y diwydiant cynhyrchu a phrosesu bwyd a diod yng Nghymru, gyda pholisi amaethyddol newydd yn cael ei ddatblygu a pholisi iechyd cyhoeddus gyda phwyslais ar fwyd, 'Pwysau Iach: Cymru Iach' Mae'r polisïau hyn, ochr yn ochr â pholisïau allweddol eraill, megis prydau ysgol am ddim a chanllawiau caffael ar gyfer cyrff cyhoeddus, yn creu pecyn polisi integredig cyfunol, a'r cyfan wedi'i gynllunio o amgylch fframwaith Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol.
Rydym yn cydnabod yn llwyr fod llawer o waith da'n digwydd ar lefel leol, gyda nifer o siopau a chaffis yn dewis bwyd a diod o ffynonellau lleol. Rydym am fanteisio ar yr ymdrechion hyn a dwyn ynghyd y gwahanol weithgareddau a'r gefnogaeth i fwyd ar lefel gymunedol drwy ddatblygu strategaeth bwyd cymunedol. Hefyd, bydd y strategaeth hon yn ceisio grymuso diwydiant i arwain y ffordd ar alluogi ac annog siopau, caffis a bwytai i werthu bwyd a diod o ffynonellau lleol. Yn y cyd-destun hwn, rwy'n gallu cefnogi'r gwelliant yn enw Darren Millar hefyd. Gallwn ei archwilio fel rhan o'r gwaith ar y strategaeth bwyd cymunedol, gan gydweithio gyda'r diwydiant. Fel y bydd yn cytuno, rwy'n siŵr, fe allant ac fe ddylent arwain ar siarter o'r math yma. Drwy gefnogaeth i'r diwydiant bwyd-amaeth a gweithgarwch bwyd cymunedol gallwn gynyddu cyfran y cynnyrch o Gymru sy'n cael ei fwyta yng Nghymru.
Rydym yn gwbl ymroddedig i helpu i fynd i'r afael â thlodi bwyd yng Nghymru. Eleni rydym wedi dyrannu £4.9 miliwn i fynd i'r afael â thlodi bwyd, i gynnig darpariaeth o fwyd argyfwng ac i gefnogi datblygiad partneriaethau bwyd a fydd yn helpu i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol tlodi bwyd. Er mwyn sicrhau nad yw plant o deuluoedd ar incwm is yn llwgu yn ystod gwyliau'r ysgol, rydym wedi cyhoeddi £11 miliwn o gymorth ychwanegol tan ddiwedd hanner tymor mis Chwefror.
Mae bwyd yn cyffwrdd â phob un o'r nodau llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Mae caffael felly yn sbardun pwerus i sicrhau ein bod yn rhoi mwy o bwyslais ar gynaliadwyedd, cyrchu moesegol, ansawdd, maeth, ystyriaethau economaidd-gymdeithasol a diwylliannol yn hytrach na chost yn unig. Rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ymgorffori cynaliadwyedd ac amcanion yr economi sylfaenol yn rhan o gaffael bwyd yn y sector cyhoeddus. Mae gwariant ar gaffael bwyd y sector cyhoeddus oddeutu £84 miliwn y flwyddyn. Mae'r gwariant hwn yn ymwneud â'r hyn y mae pobl agored i niwed, a bregus yn aml, mewn cymdeithas yn ei fwyta'n ddyddiol, felly mae angen iddo fod yn fwyd iach, yn faethlon ac yn gynaliadwy. Mae angen inni sicrhau'n bendant ei fod yn parhau i ddod o ffynonellau cynaliadwy. Ac er fy mod yn cytuno'n llwyr fod rhaid inni ddefnyddio caffael cyhoeddus i ysgogi newid eang, rhaid inni roi hyn yn ei gyd-destun hefyd: mae cyfanswm gwariant cyhoeddus ar gaffael bwyd yng Nghymru yn debyg i wariant defnyddwyr mewn un siop archfarchnad fawr yn unig yng Nghaerdydd.
Felly, er mwyn mynd i'r afael yn iawn â datgoedwigo, fel y mae llawer o'r Aelodau wedi'i ddweud, a throsi ac ecsbloetio cymdeithasol o fewn y cadwyni cyflenwi, mae angen newid patrymau prynu bwyd ar lefel cymdeithas. Byddai hyn yn cael hwb mawr pe bai Llywodraeth y DU yn annog gofynion labelu. Rwy'n galw ar Aelodau ar y meinciau gyferbyn i ymuno â ni i ofyn i Lywodraeth y DU adolygu ei strategaeth labelu bresennol, sy'n ddifrifol o annigonol, i gynorthwyo defnyddwyr i brynu'n foesegol. Fel y nododd Delyth yn huawdl iawn yn ei sylwadau agoriadol, heb hynny, mae llawer o bobl a fyddai'n ceisio gwneud y peth iawn yn ei chael hi'n anodd deall beth yn union y maent yn ei brynu.
Rydym yn gryf iawn ar brynu cynnyrch Cymreig penodol, megis llaeth, cynnyrch llaeth a chig, ond mae yna gynhyrchion hefyd a gaiff eu bwyta ar raddfa fawr yng Nghymru ond sydd ond yn cael eu cynhyrchu ar raddfa gymharol fach yma, megis cynnyrch garddwriaethol, fel y nododd Jenny. Mae cyfle sylweddol i newid hyn, i sicrhau bod y cyflenwad yn dilyn y galw ac i sicrhau bod mwy o ffrwythau a llysiau'n cael eu darparu mewn prydau ysgol. [Torri ar draws.] Ewch amdani, Jenny.