Part of the debate – Senedd Cymru am 6:17 pm ar 9 Tachwedd 2022.
Rwy'n croesawu cyflwyno'r datblygiad garddwriaeth a'r grantiau lefel mynediad, ond ar hyn o bryd dim ond chwarter cyfran y person y dydd o ffrwythau a llysiau a gynhyrchwn, felly mae honno'n ffordd hir iawn i'w theithio. Sut y gallwch chi gyflymu'r newid sydd ei angen arnom fel bod llawer mwy o'n ffrwythau a'n llysiau, sydd i fod yn draean o'n deiet, yn cael eu cynhyrchu yng Nghymru?