Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 15 Tachwedd 2022.
Diolch i Joel James am y cwestiwn atodol yna, Llywydd, ac rwy'n ei groesawu fel recriwt i'r rhai ohonom sydd wastad wedi credu mai swyddogaeth y Llywodraeth yw camu i'r adwy pan fo'r farchnad yn methu. Felly, mae'n dda gwybod bod y syniad hwnnw'n fyw ar y meinciau Ceidwadol. Rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd yr Aelod am botensial hydrogen gwyrdd a phwysigrwydd y ffaith bod hon yn bartneriaeth rhwng busnesau preifat ac awdurdodau cyhoeddus. Dydw i ddim mor besimistaidd ag yr oedd ef yn swnio ynghylch y potensial i hwn fod yn gam arloesol i wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y cynllun trafnidiaeth yma yng Nghymru. Mae'r enghraifft Statkraft y cyfeiriodd Joel James ati, Llywydd, yn gyfleuster i gynhyrchu hydrogen gwyrdd, i'w storio hefyd, yn Nhrecŵn yn sir Benfro. Rwyf wedi cael cyfle i drafod hyn gyda chynrychiolwyr Statkraft pan fues i'n ymweld ag Iwerddon yn ddiweddar. Byddaf yn cwrdd ag EDF, buddsoddwr mawr arall mewn ynni adnewyddadwy, gydag uchelgeisiau o ran hydrogen gwyrdd hefyd, yn ddiweddarach heddiw. Yma yng Nghymru, rydym yn benderfynol o weithio gyda'r buddsoddwyr mawr hynny i roi'r hyder sydd ei angen arnyn nhw, ac i wneud yn siŵr, lle mae'r buddsoddiadau hynny'n dibynnu ar bartneriaeth rhwng awdurdodau cyhoeddus—mae buddsoddiad Statkraft yn sir Benfro yn dibynnu ar bartneriaeth â Chyngor Sir Penfro oherwydd y cynllun yw sicrhau y bydd yr hydrogen gwyrdd sy'n cael ei gynhyrchu yn pweru bysiau ar draws sir Benfro ac yn helpu gyda theithio ar y rheilffyrdd hefyd—a phan fo honno’n bartneriaeth allweddol i ddatgloi buddsoddiad a chreu'r dyfodol hydrogen gwyrdd hwnnw, yna bydd Llywodraeth Cymru bob amser yn bartneriaid gweithredol yn yr ymdrech honno.