Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 15 Tachwedd 2022.
Prif Weinidog, mae gan raglen HyNet North West y potensial i newid yn sylweddol y ffordd yr ydym yn diwallu ein hanghenion trafnidiaeth a busnes o ran tanwydd ar draws gogledd-orllewin Lloegr ac, wrth gwrs, gogledd Cymru. Maer metro dinas-ranbarth Lerpwl, Steve Rotheram, sy'n hyrwyddo'r rhaglen, ac mae'n cael ei chefnogi gan gynghorau Wrecsam a sir y Fflint, yn ogystal â chyngor busnes gogledd Cymru. A fyddech chi'n ymuno â mi i alw ar Lywodraeth y DU i gyflymu'r broses o gyflawni rhaglen HyNet er mwyn symud trafnidiaeth a diwydiant tuag at ein targedau di-garbon?