Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 15 Tachwedd 2022.
Mae ar gofnod cyhoeddus bod y sylwadau hynny yna, bod cadeirydd ymchwiliad y DU wedi tynnu sylw at y cyfyngiadau oherwydd llwyth gwaith ymchwiliad y DU. Mae ar gofnod, yn yr un cyfweliad neu'r un sylwadau yr oedd hi'n eu gwneud, ei bod wedi tynnu sylw at y ffaith pe bai ymchwiliad annibynnol yn cael ei sefydlu yma yng Nghymru, y byddai hi, ynghyd â'i chydweithwyr, yn barod i weithio gyda'r ymchwiliad annibynnol hwnnw. Yr unig berson sy'n stopio ymchwiliad annibynnol yma yng Nghymru yw chi eich hun, Prif Weinidog, neu a allwch chi enwi sefydliad arall sydd mewn gwirionedd yn erbyn yr egwyddor o sefydlu ymchwiliad annibynnol yma yng Nghymru i roi atebion i'r bobl hynny a gollodd anwyliaid drwy bandemig COVID?