Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 15 Tachwedd 2022.
Wel, Llywydd, rwy'n cydnabod y dicter a'r siom y mae llawer o weithwyr gwasanaethau cyhoeddus yn eu profi ar hyn o bryd. Pan fydd eich cyflogau wedi cael eu cadw i lawr drwy ddegawd o gyni, ac rydych chi bellach yn wynebu codiadau cyflog o dan lefel chwyddiant, yna mae'n gwbl ddealladwy pam y mae gweithwyr o dan yr amgylchiadau hynny'n teimlo fel hyn a pham eu bod yn pleidleisio i weithredu yn y ffordd yma. A does gan y Llywodraeth Lafur hon ddim amwysedd o gwbl wrth roi ar gofnod ein dealltwriaeth o'r ffordd y mae gweithwyr y sector cyhoeddus wedi cael eu gwthio i gymryd y camau y maen nhw wedi eu cymryd. Rwy'n hapus iawn i ailadrodd hynny a'i roi ar gofnod eto y prynhawn yma.