Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 15 Tachwedd 2022.
Llywydd, rwy'n llongyfarch Jack Sargeant ar yr holl waith y mae'n ei wneud yn y maes hwn. Gwnaeth arwain dadl lwyddiannus iawn ar lawr y Senedd yma nôl ym mis Mai ac mae e'n iawn, wrth gwrs, i dynnu ein sylw at y ffaith mai bywydau ein pobl ifanc fydd yn cael eu heffeithio ddwysaf gan y penderfyniadau yma. Pleser oedd cwrdd â chyfres o fyfyrwyr o Ysgol Uwchradd Penarlâg ar fy ffordd i mewn i'r Siambr yn gynharach heddiw.
Yn ymarferol, Llywydd, yr unig gronfa bensiwn sector cyhoeddus sy'n gwneud buddsoddiadau yng Nghymru yw'r gronfa llywodraeth leol. Nid oes gan gynlluniau pensiwn eraill—cynllun pensiwn y gwasanaeth iechyd, cynllun pensiwn y gwasanaeth sifil, ac yn y blaen—fuddsoddiadau; maen nhw'n dibynnu ar weithwyr heddiw i dalu pensiynwyr heddiw. Yr unig gronfa bensiwn sydd â buddsoddiadau yw'r cynllun pensiwn llywodraeth leol, ac er bod rhaid i ni eu hannog nhw i fod yn feiddgar ac i fod yn uchelgeisiol, a gosod targedau yn y ffordd y mae Jack Sargeant yn ei hawgrymu, yn y diwedd rhaid iddyn nhw fod eu targedau nhw a'u huchelgais nhw, oherwydd nid oes gan Lywodraeth Cymru allu statudol i orfodi unrhyw dargedau arnyn nhw.
Y newyddion da, Llywydd, rwy'n credu, yw bod arwyddion cryf bod cronfeydd pensiwn llywodraeth leol Cymru yn symud yn y cyfeiriad yma a'u bod yn gwneud y pethau y mae Jack Sargeant yn gofyn iddyn nhw eu gwneud. Mae cronfa bensiwn Clwyd, lle mae ganddo ef ddiddordeb arbennig, yn gynharach eleni wedi ffurfio partneriaeth gyda chwmni buddsoddi yn benodol er mwyn symud ei fuddsoddiadau i ynni glân a chynhyrchu ynni glân yma yng Nghymru. Mae wedi gwneud yr hyn y mae'r Aelod yn ei awgrymu: mae wedi gosod targed o sero net erbyn 2045 a tharged dros dro o leihau carbon gan 50 y cant erbyn 2030. Byddai'r ymgyrch yn hoffi iddyn nhw fynd ymhellach ac i fynd yn gyflymach, a dyna pam mae ymgyrchoedd yn bwysig. Rwy'n hapus iawn i roi ymgymeriad y byddwn i'n cwrdd â Jack Sargeant i drafod beth arall y mae modd ei wneud i annog cronfeydd pensiwn i symud i'r cyfeiriad hwnnw.