Part of the debate – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 15 Tachwedd 2022.
Cyn hynny, a thros y flwyddyn ddiwethaf, rydym ni wedi bod yn archwilio ac yn ymgysylltu â rhanddeiliaid o ran sut y gallai cynllun o'r fath weithio yng Nghymru. Cafodd contractwyr eu penodi i ymgymryd â'r gwaith hwn y llynedd ac fe fuon nhw'n cynnal cyfweliadau a grwpiau ffocws gyda rhanddeiliaid allweddol o'r awdurdodau lleol, a chyrff sy'n cynrychioli'r sector a rhai sy'n gweithredu lletyai. Roedden nhw'n ymchwilio i fanteision cynllun o'r fath ac ystyriaethau allweddol ynghylch sut y gellid bwrw ymlaen â chynllun o'r fath a'i weithredu yma yng Nghymru. Ar ben hynny, rhoddwyd ystyriaeth i adolygiad o ymdriniaeth cyrchfannau eraill o gynlluniau fel hyn yn fyd-eang. Mae'r gwaith cychwynnol hwn wedi rhoi ffurf ar yr ymgynghoriad y mae'r Llywodraeth yn gobeithio ei lansio cyn bo hir.
Ond yn gyntaf, Dirprwy Lywydd, fe hoffwn i amlinellu amcanion a manteision arfaethedig cynllun fel hwn. Y prif nod yw sicrhau tegwch i bob busnes llety i ymwelwyr sy'n gweithio yn y sector. Mae'r pryder ynghylch diffyg tegwch wedi bod yn bwnc llosg ers amser maith. Yn benodol, fe geir pryderon nad yw rhannau arbennig o'r sector, er enghraifft llety byrdymor anffurfiol, yn bodloni nac yn cydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol nhw, tra bod busnesau sefydledig, gwirioneddol yn gwneud hynny. Fe allai cynllun trwyddedu statudol gynnig mecanwaith i fynd i'r afael â hyn drwy ei gwneud hi'n ofynnol i letywyr roi tystiolaeth o'r gofynion penodol sydd ganddyn nhw ar waith, fel yswiriant priodol, cadarnhâd o statws cynllunio, tystiolaeth o asesiadau risg tân, tystysgrif diogelwch nwy, prawf o ddiogelwch trydan, i roi dim ond ychydig o enghreifftiau. Bydd y cynllun hwn yn helpu i sicrhau cysondeb yn y safon y dylai pob lletywr ei bodloni. Mae bod â chynllun lle mae hi'n rhaid i fusnesau llety i ymwelwyr gyrraedd trothwy penodol o ofynion yn datgan yn eglur iawn i ddefnyddwyr bod busnesau llety i ymwelwyr yng Nghymru yn ateb gofynion penodol o ran safonau a diogelwch.
Fe fyddai cynllun yn rhoi gwell deallusrwydd i ni hefyd—cronfa ddata gynhwysfawr, nad yw hi ar gael ar hyn o bryd, o bwy yn union sy'n weithredol yn y diwydiant. Ar hyn o bryd nid oes modd cadarnhau o fusnesau llety i ymwelwyr sydd i'w cael yng Nghymru nac mewn unrhyw gymuned benodol. Fe fydd deall graddfa a natur y sector yn offeryn pwysig i ddatblygu polisïau'r dyfodol naill ai ar lefel leol neu genedlaethol. Fe fyddai sefydlu cronfa ddata statudol o fusnesau llety i ymwelwyr trwyddedig yn cynnig mecanwaith i Lywodraeth Cymru a phartneriaid eraill, fel yr awdurdodau lleol, i gyfathrebu ynglŷn â materion allweddol sy'n ymwneud â'r sector. Fe welsom ni pa mor heriol y gall hi fod i ymgyrraedd am bob rhan o'r sector oherwydd ein profiadau diweddar yn ystod pandemig COVID-19.
Rydym ni'n cydnabod hefyd y bydd cynllun trwyddedu statudol yn sylfaen bwysig i feysydd eraill o bolisi. Fe fydd bod â'r wybodaeth a ddaw yn sgil cynllun o'r fath yn darparu data ar faint a nodweddion yr hyn sydd gennym ni ar gyfer twristiaeth a fydd yn llywio ystyriaethau o ran polisi, yn lleol ac yn genedlaethol, ynghylch rheoli ail gartrefi yn seiliedig ar y dystiolaeth, ynghyd â llety gwyliau a datblygu'r economi a'r seilwaith sydd yma i ymwelwyr. Fe allai gefnogi'r gwaith o gasglu ardoll ymwelwyr hefyd. Ar gyfer ardoll ymwelwyr, fe fyddai cael system drwyddedu yn cynnig rhestr gynhwysfawr o bob darparwr llety i ymwelwyr sydd mewn ardal. Fe allai hynny gefnogi gweinyddiad parhaus yr ardoll, oherwydd bydd y rhai y mae angen eu trwyddedu nhw yn fwyaf tebygol o fod yr un rhai y bydd gofyn iddyn nhw godi am yr ardoll a'i gasglu. Mae cysylltiadau eglur rhwng y cynigion hyn, ac fe fyddwn ni'n annog cyfraniadau i'r ymgynghoriad 12 wythnos ynglŷn â'r ardoll ymwelwyr, a fydd yn cau ar 13 o fis Rhagfyr.
Fel crybwyllais i eisoes, wrth geisio sefydlu cynllun trwyddedu statudol, rydym ni'n edrych hefyd ar fecanweithiau o'r fath sydd ar waith neu'n cael eu datblygu yn fyd-eang. Yn y DU, cymerwyd dulliau gwahanol gan ein cymdogion ni ac maen nhw ar wahanol gamau o'u datblygiad. Yng Ngogledd Iwerddon, mae'n rhaid i ddarparwyr llety ymwelwyr dderbyn ardystiad gan Tourism Northen Ireland er mwyn cael bod yn weithredol, ac mae'r cynllun hwn wedi bod ar waith ers 1992. Mae gan Lywodraeth yr Alban ddeddfwriaeth ar waith sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i bob gwesteiwr a gweithredwyr byrdymor fod â thrwydded er mwyn cael bod yn weithredol, oni bai bod ganddyn nhw eithriad penodol. Mae gan westeion a gweithredwyr presennol tan Ebrill y cyntaf y flwyddyn nesaf i wneud cais am drwydded yn Yr Alban. Ac yn Lloegr, caeodd yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, y DCMS, gais am dystiolaeth o ran cyflwyno cynllun posibl i gofrestru llety twristiaeth. Pwrpas ymgynghoriad y DCMS yw deall manteision a heriau'r cynnydd mewn llety byrdymor a gwyliau yn Lloegr yn well, a chasglu tystiolaeth gychwynnol ar effaith bosibl ystod o ymatebion polisi dichonadwy. Fe geir enghreifftiau eraill hefyd, fel y cynlluniau gorfodol sydd ar waith ar Ynys Manaw ac yng Ngweriniaeth Iwerddon. Rydym ni'n gobeithio dysgu o'r enghreifftiau amrywiol hyn, gan gynnwys pa wersi y gellir eu dysgu o batrwm Rhentu Doeth Cymru o ran datblygu ein cynllun ni ein hunain.
Yn dilyn cyfres o sesiynau ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol dros y misoedd diwethaf, fe fyddwn ni'n lansio ymgynghoriad ffurfiol cyn bo hir i ofyn am sylwadau ar ffurf a natur y cynllun trwyddedu statudol arfaethedig yma yng Nghymru. Mae adborth ar rai o'r nodau sydd wrth wraidd cynllun trwyddedu arfaethedig wedi bod o gymorth, yn enwedig o ran sefydlu tegwch, a datblygu mwy o ddeallusrwydd a mwy o hyder i ddefnyddwyr. Serch hynny, codwyd rhai pryderon ynghylch y baich rheoleiddio canfyddedig a allai gyd-fynd â chynllun trwyddedu. Mae hyn yn cynnwys y gwaith sy'n ymwneud â darparu tystiolaeth o'r defnydd cyfredol o ran cynllunio, a swyddogaeth yr awdurdodau lleol wrth ymateb i'r gofyniad hwn.
Mae Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru fel ei gilydd yn cytuno mai cynllun trwyddedu statudol sy'n cynnig y mecanwaith cadarnaf ar gyfer y ddarpariaeth yng Nghymru, gan ei fod yn ddull sy'n pennu'r safon y dylai busnesau llety i ymwelwyr ei chyrraedd. Eto i gyd, fe fydd yr ymgynghoriad yn galluogi cyflwyno amrywiaeth o safbwyntiau, gan gynnwys o ran gofynion y cynllun trwyddedu. Fe fyddwn ni'n gofyn barn am weithrediad cynllun statudol o'r fath, yn genedlaethol neu yn lleol, neu gyda model hybrid sy'n cyfuno elfennau cenedlaethol a lleol. Yn ogystal â hynny, fe fyddwn yn ceisio barn ynghylch a ddylai fod gofyn i bob busnes llety i ymwelwyr gael trwydded, neu a ddylid bod unrhyw eithriadau. Rydym ni'n bwriadu cynnal profion o ran pa mor aml y dylid adnewyddu trwyddedau hefyd, ynghyd â'r ffioedd y gallai fod angen eu codi am drwyddedau. Wrth benderfynu ar strwythur unrhyw ffioedd, rydym ni'n ymwybodol o'r pwysau ar fusnesau yn yr hinsawdd bresennol, wrth gwrs.
Rydym ni o'r farn fod y rhan fwyaf o bobl yn dymuno gweithredu o fewn y gyfraith, felly un o'r amcanion yw datblygu cynllun a fydd yn sicrhau cyfradd uchel o gydymffurfiaeth wirfoddol. Serch hynny, fe roddir prawf yn yr ymgynghoriad ar gynigion ar gyfer mesurau cydymffurfio a gorfodi, gan gynnwys cosbau, i sicrhau tegwch. Fe fyddwn ni'n lansio'r ymgynghoriad ym mis Rhagfyr ac fe fyddwn ni'n annog ein rhanddeiliaid ni i fod â rhan yn y broses. Diolch yn fawr. Rwy'n hapus i dderbyn cwestiynau.