Part of the debate – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 15 Tachwedd 2022.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad? Yn gyntaf, Gweinidog, fe gyhoeddwyd y polisi hwn o gynllun trwyddedu nôl ym mis Gorffennaf, gyda'r Prif Weinidog ac arweinydd Plaid Cymru yn ei gyhoeddi i'r wasg. Rydym ni ym mis Tachwedd erbyn hyn a dyma'r tro cyntaf i'r Siambr glywed am y cynllun gyda rhagor o fanylder. Mae'r rhai sydd yn y diwydiant wedi dweud bod cryn bryder wedi bod yn y sector ers y cyhoeddiad hwnnw, ac mae'r oedi maith yn ystod y misoedd rhwng y cyhoeddiad a'r datganiad yma heddiw wedi bod yn ddi-fudd ar y gorau. Felly, a ydych chi'n derbyn i'r oedi fod yn sylweddol a bod yr ansicrwydd wedi peri gofid yn y sector? Ac a wnewch chi esbonio pam mae'r datganiad hwn wedi cymryd cymaint o amser i ddod gerbron y Senedd?
Wrth symud ymlaen at y cynllun ei hun, rwyf i am ddechrau drwy synnu'r Gweinidog efallai drwy ddweud nad wyf i'n credu bod cynllun cofrestru ar gyfer llety i ymwelwyr yng Nghymru yn syniad drwg ynddo'i hun mewn gwirionedd. Fe allai cynllun fel hwn alluogi Llywodraeth Cymru i feddu ar ddata cynhwysol iawn, er mwyn gweld a oes meysydd lle nad yw'r cyflenwad yn ateb y galw, er enghraifft, ac fe allai hefyd gael ei ddefnyddio fel modd gan y Llywodraeth i hyrwyddo busnesau twristiaeth ledled Cymru, ac fel gwnaethoch chi ei nodi, Gweinidog, at ddibenion cydymffurfio hefyd â'r gofynion presennol, fel roeddech chi'n dweud. Rydych chi'n dweud hefyd, ac rwyf innau'n cytuno â hynny i raddau helaeth,
'Fe fyddai cynllun yn rhoi gwell deallusrwydd i ni hefyd—cronfa ddata gynhwysfawr, nad yw hi ar gael ar hyn o bryd, o bwy yn union sy'n weithredol yn y diwydiant.'
Rwy'n cytuno â hynny hefyd; dyna rywbeth i'w groesawu, yn enwedig ar ôl i'r pandemig dynnu sylw at yr angen am gronfa ddata o'r fath i helpu i dargedu'r rhai sydd â'r angen mwyaf am gymorth. Felly, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau sut mae ef yn bwriadu defnyddio'r gofrestr hon, pwy fydd â'r hawl i'w gweld hi, ac a fydd Llywodraeth Cymru yn cwrdd ag unrhyw ran o'r gost ariannol i fusnesau ar gyfer cofrestru?
Ond, mae'n ddrwg gen i ddweud bod lansio'r cynllun heddiw gan Lywodraeth Cymru yn eglur—ac fe wnaethoch chi gyfaddef hynny eich hun, Gweinidog—o ran ei ddefnydd i ragflaenu treth ar dwristiaeth. Dyma'r ymgais ddiweddaraf mewn cyfres faith o bolisïau a gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ers i chi ddod yn Weinidog yr Economi sy'n ymosod ar y diwydiant ac a allai olygu bod y diwydiant yn llai hyfyw o'i gymharu â'n cystadleuwyr, oherwydd fe wyddom ni, lle bu treth ar dwristiaeth yn weithredol dramor, y cafodd ei defnyddio gyda'r bwriad o gyfyngu ar dwristiaeth mewn ardal benodol yn hytrach na chynyddu hynny. Fe hoffwn i weld mwy o dwristiaeth yng Nghymru, ac fe fyddwn i'n gobeithio bod Llywodraeth Cymru o'r un farn, ond mae camau'r Llywodraeth yn awgrymu'r gwrthwyneb.
Mae'r diwydiant wedi rhybuddio trwy'r amser y byddai cyffyrddiad ysgafn o gofrestru/trwyddedu yn colli cefnogaeth pe ystyrid hynny gan y diwydiant yn ffordd o gasglu treth ar dwristiaeth, yn hytrach na bod yn fecanwaith ar gyfer cynnal busnesau sy'n ymwybodol o safonau a chwynnu ail gartrefi sy'n cynnig llety achlysurol dros dro.
Fe wnaethoch sôn sawl tro yn eich datganiad chi y bydd y polisi hwn yn canolbwyntio ar gysoni tegwch. Efallai fod hyn yn wir yng Nghymru, ond mewn marchnad fyd-eang a chystadleuol, nid yw hyn yn sicrhau tegwch i Gymru o gymharu â gwledydd eraill. Fe wyddom ni, fel roeddech chi'n dweud, mai cam rhagbrofol yw hwn. Mae'r cam rhagbrofol hwn yn rhagflaenu treth ar dwristiaeth—treth na fyddai'n bodoli mewn rhannau eraill o'r DU. Felly, sut ar y ddaear y gellid ystyried hynny'n gysoni tegwch?
Mae agwedd, yn fy marn i, yn Llywodraeth Cymru, mai y nhw sy'n gwybod orau, yn enwedig pan fydd y diwydiant yn dweud rhywbeth arall wrthych chi—byddai'r dystiolaeth ar y newidiadau o ran hunan-ddarpariaeth, a dim ond 1 y cant o'r ymatebwyr sy'n cefnogi eich cynigion chi yn tystiolaethu i hynny. Ond yr hyn yr ydym ni'n sôn amdano yma heddiw yw croesffordd ddifrifol yn nyfodol y diwydiant twristiaeth yma yng Nghymru. Mewn arolwg barn diweddar, roedd 73 y cant o berchnogion llety gwyliau yn y gogledd yn dweud y gallen nhw roi'r ffidil yn y to. Ac fe wnaeth aelod meinciau cefn Llafur yr wythnos diwethaf, yn y Senedd hon, gyfeirio at bobl fel hyn sy'n poeni am ddyfodol y diwydiant hwn fel 'grwgnachwyr'. Ond siawns nad oes yn rhaid derbyn, pan fo tri chwarter o bobl mewn diwydiant yn dweud ei bod hi'n bosibl y bydd yn rhaid iddyn nhw roi'r ffidil yn y to, ei bod hi'n bryd i Lywodraeth Cymru eistedd i fyny a gwrando. Ac fe ddywedodd Richard Bond, sef perchennog Finest Retreats,
'byddai cyfuniad o reoleiddio a threthiant ychwanegol â goblygiadau ehangach i ranbarthau sy'n ddibynnol ar dwristiaeth ddomestig' a
'ni ddylid anwybyddu'r anfantais bosibl i economïau lleol'.
Ac yna fe aeth ymlaen i ddweud:
'Yr unig gysondeb i bob golwg yw cosbi'r diwydiant llety gwyliau yn union pryd mae angen y gefnogaeth lwyraf arno i ffynnu'.
Felly, Gweinidog, a ydych chi'n ystyried y sylwadau hynny, yn ogystal â miloedd o rai eraill, yn sylwadau grwgnachwyr? Neu a ydych chi o'r farn eu bod nhw'n sylwadau gan ddiwydiant proffesiynol sy'n ofidus ynglŷn â dyfodol y diwydiant twristiaeth oherwydd eich polisïau gwrth-dwristiaeth chi?