3. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Cynllun trwyddedu statudol i bob llety ymwelwyr yng Nghymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 15 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 3:06, 15 Tachwedd 2022

Does yna ddim amheuaeth fod twristiaeth yn gyfrannwr pwysig i'r economi. Mae ymwelwyr yn gwario £17 miliwn y diwrnod, neu mae hynny'n dros £6 biliwn y flwyddyn, yn yr economi yma. Ond, dim ond rhan o'r darlun ydy hynny, oherwydd pa iws cael economi gref ar draul ein cymunedau? Ac os ydy'r arian hwnnw yn llifo allan o'r cymunedau hynny, ac, yn wir, allan o Gymru, pa ddefnydd ydy hynny? Mae'n rhaid inni sicrhau twristiaeth gynaliadwy, sydd yn gydnaws â'r cymunedau ac yn dod â budd economaidd a chymdeithasol iddynt. Dyna sydd felly wrth wraidd y system drwyddedu yma dŷn ni'n siarad amdani heddiw, a dyna pam ein bod ni yn y blaid wedi gwthio i gael hwn yn rhan o'r cytundeb cydweithredu rhwng y Llywodraeth a ninnau ym Mhlaid Cymru.

Dwi eisoes wedi sôn ar lawr y Siambr yma am y twf anferthol yn y sector lletyau gwyliau tymor byr, yn enwedig trwy blatfformau megis Airbnb, Vrbo ac eraill. Fe gyhoeddodd y Sefydliad Bevan adroddiad rhagorol ar effaith Airbnb ar ein cymunedau yn gynharach yr hydref yma, gan ddangos bod dros 14,000 o'r tai ar y platfform yma yn addas i fod fel tai i deuluoedd i fyw ynddyn nhw. Yn wir, fe nododd yr adroddiad fod y tai oedd ar Airbnb a oedd yn addas i bobl fyw ynddyn nhw fel cartrefi hirdymor yn gyfwerth i bron i draean o'r stoc tai preifat yng Ngwynedd, ac un o bob pump o'r tai yn y stoc dai preifat yn Ynys Môn ac yng Ngheredigion.

Mae'r sector wedi tyfu y tu hwnt i reswm; dyna, mewn gwirionedd, sydd wedi tanseilio'r sector llety gwyliau yng Nghymru—sector sydd wedi bod yn rhan o'r ddarpariaeth ymwelwyr yma ers cenedlaethau, ond sydd yn cael ei fygwth oherwydd y platfformau ar-lein yma. Ac wrth gwrs, mae hyn yn rhan ganolog o'r camau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r boneddigeiddio sydd wedi bod yn digwydd yn ein cymunedau glan morol a gwledig wrth inni weld hyd at 40 y cant o dai mewn rhai cymunedau yn eistedd yn wag am rannau helaeth o'r flwyddyn.

Wrth gwrs, rhan o'r pryderon o amgylch y camau yma ydy'r diffyg data sydd gennym ni o ran diffiniadau, ac yn y blaen. Felly, ydy'r Gweinidog yn cytuno, pan fydd yr elfen ddiweddaraf hon yn weithredol, y bydd y wybodaeth fwy cyfoethog fydd gennym ni am beth sy'n llety gwyliau go iawn a beth sy'n ail gartref yn caniatáu inni dargedu mesurau trethiannol ac ati yn well yn y dyfodol? Bydd unrhyw un sydd wedi ymgynghori go iawn efo'r sector lletyau gwyliau, fel yr ydw i wedi ei wneud, yn gwybod bod y sector wedi bod yn galw am system drwyddedu ers blynyddoedd. Mae'r darparwyr yna sydd yn gweithredu trwy gwmnïau effeithiol ac egwyddorol, fel Daioni yn fy etholaeth i, yn gorfod cydymffurfio â rheolau llym—a chywir—er mwyn sicrhau bod eu gwesteion yn cael y profiad gorau a mwyaf diogel posib. Yn anffodus, dydy hynny ddim yn wir am blatfformau fel Airbnb neu Vrbo. Gall unrhyw un roi llety i fyny ar y platfformau yma, a thanbrisio a thanseilio y darparwyr cydwybodol yn y sector yna sydd yn ceisio sicrhau y ddarpariaeth orau posib.

Bydd system drwyddedu yn tynnu safonau y ddarpariaeth i fyny ac yn sicrhau fod ymwelwyr sydd yn dod yma yn cael y profiad gorau posib o wyliau yng Nghymru, efo darparwyr sydd yn amlwg wedi buddsoddi yn y busnes ac yn ymrwymo i ddiogelwch yr ymwelwyr. Bydd y gofyn i gael trwydded a'i chynnal yn cyflwyno mwy o reolaeth i gymunedau yn ogystal ag ymwelwyr. Byddwn ni am weld mecanwaith clir fel rhan o fanylion y system drwyddedu arfaethedig er mwyn galluogi cymunedau i allu cwyno am dai niwsans—er enghraifft, tŷ mewn stryd wedi ei roi ar Airbnb ac sy'n amharu ar amwynderau lleol achos sŵn neu wastraff. Fedrwch chi gadarnhau, felly, mai'r bwriad ydy y bydd yna fecanwaith o'r fath i ddelio â phryderon pan fydd pethau'n mynd o chwith? Diolch yn fawr iawn.