Part of the debate – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 15 Tachwedd 2022.
Diolch i chi. Rwyf i am ymdrin â rhan adeiladol cyfraniad yr Aelod yn gyntaf ac, wrth gwrs, eich pwynt chi ynglŷn â phryd y cyhoeddwyd y bwriad cychwynnol gan y Prif Weinidog ac arweinydd Plaid Cymru ym mis Gorffennaf. Ers hynny, fel y dywedais i yn fy natganiad—fe gawsoch chi gopi ohono ymlaen llaw yn ogystal â fy nghlywed i'n ei ddarllen—cafodd contractwyr eu penodi i ymgymryd â gwaith archwilio ac ymgysylltu â rhanddeiliaid o ran sut y gallai cynllun weithio yng Nghymru. Ac fe wnes i nodi'r cyfweliadau gyda grwpiau ffocws a rhanddeiliaid allweddol hefyd gan awdurdodau lleol, cynrychiolwyr y sector, a'r lletywyr. Rwy'n deall na fuoch chi yn y Llywodraeth erioed, ond mae'n rhaid i chi geisio profi pethau fel hyn cyn cyhoeddi'r hyn a fyddech chi'n hoffi ei wneud, ac ymgysylltu â phobl wedyn, ac rydym ni'n symud ymlaen nawr i gam ymgynghoriad ffurfiol, a'n bwriad ni yw i hwnnw ddigwydd yn y mis nesaf.
Rwy'n croesawu eich pwyntiau chi o ran y cynllun a'r hyn y gallai ei olygu. Dyma bwynt a phwrpas y cynllun. Mae'n sefyll ar ei rinweddau ei hun o ran cysoni tegwch ar gyfer pob un sy'n weithredol yn y maes hwn. Meddyliwch amdani fel hyn: mae Rhentu Doeth Cymru wedi cysoni tegwch gyda chyfres o safonau i bob landlord am lety mwy hirdymor ar gyfer prif gartref y mae pobl yn byw ynddo. Rydym ni'n edrych nawr ar y manteision i'r diwydiant hwn ar gyfer llety mwy byrdymor, ac fe geir rhesymeg wirioneddol yn hynny, ac mae hynny'n sefyll ar ei ben ei hun. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni gydnabod y gallai hyn ein helpu ni mewn meysydd eraill o bolisi hefyd, ac nid rhywbeth anarferol mo hynny. Nid oes unrhyw beth dichellgar yn hynny, nid ydym ni'n dwyllodrus—rydym ni'n gwbl agored a thryloyw.
Ac o ran cael gafael ar y gofrestr o eiddo trwyddedig, rwy'n credu y byddem ni'n awyddus i hynny fod ar gael yn fwy eang fel y gallech chi weld, pe byddech chi'n aros yn rhywle, fod hwnnw'n safle trwyddedig mewn gwirionedd. Dyna ran o'i ddiben o ran defnyddwyr yn cael gwybod eu bod nhw'n aros yn rhywle sydd â thrwydded gymwys ac yn cyrraedd y safonau sy'n ofynnol.
O ran ffioedd ar gyfer bod ar y gofrestr, wel dyna un o'r pethau y byddwn ni'n rhoi prawf arnyn nhw, oherwydd mewn gwahanol rannau o'r byd, mae ganddyn nhw wahanol gynlluniau ar waith, ac weithiau, maen nhw'n amrywio'r ffi o ran maint y llety neu os ydyn nhw'n rhan o grŵp ehangach. Felly, fe ddylem ni geisio profi a deall y pethau hynny, a dyna'n union pam fod gennym ymgynghoriad ac, yn wir, cynllun o ran gweithrediad y gofrestr. Ac, unwaith eto, gyda Rhentu Doeth Cymru mae gennym ni brofiad o system lle mae awdurdodau lleol yn gwneud hyn—mae ganddyn nhw awdurdod lleol arweiniol yn gweithredu ar eu rhan nhw. Dyma un o'r pethau yr ydym ni'n awyddus i'w brofi a'i ddeall. Felly, yn y grŵp hwnnw o randdeiliaid, busnesau—ie; efallai y bydd cymunedau ac unigolion yn dymuno cymryd rhan; ond rwy'n awyddus iawn i glywed gan awdurdodau lleol hefyd ynglŷn â'r ffordd y gallai cynllun weithredu yn fwyaf effeithiol gan gwrdd ag anghenion eu cymunedau lleol nhw, fel cyrchfannau i dwristiaid, lle mae'r economi honno'n gyfran fawr o weithrediad yr economi mewn llawer cwr o Gymru. Boed hynny'n Wynedd, sir Benfro neu Abertawe neu Gaerdydd, fe geir gwahanol fathau o dwristiaeth ym mhob un o'r ardaloedd hynny, ond yr hyn mae hynny'n ei olygu i'r cymunedau lleol wedyn hefyd.
Ac edrychwch, gan ddod yn ôl at eich pwynt rheolaidd chi, yn fy marn i fy hun, os ydych chi am adrodd y chwedl ddwl hon ar goedd wrthych chi eich hun ac wrth bobl eraill ein bod ni'n ceisio ymosod ar y sector hwn o'r economi, yn hytrach na'i weld yn iach a chynaliadwy i'r dyfodol, yna, wrth gwrs, mewn democratiaeth mae'r hawl gennych chi i ddal ati i wneud hynny, ni waeth pa mor ddwl ydyw gwneud hynny. Ond fe ddylwn eich atgoffa chi'n garedig fod pobl yn y Llywodraeth, mewn democratiaeth, yno oherwydd y ffordd mae pobl wedi pleidleisio a'r hyn a ddewisodd y bobl. Yn yr etholiad diwethaf, roeddem ni'n eglur iawn o ran bod â chynigion ar gyfer amrywiaeth o'r materion hyn yn ein maniffesto ni ac rydym ni wedi dod i gytundeb mewn ffordd dryloyw yn y cytundeb cydweithredu gyda Phlaid Cymru. Ac rwy'n gwybod nad yw hi bob amser yn wir fod Llywodraethau o wahanol dueddiadau yn gwneud ymgais i gadw eu haddewidion nhw, ond rydym ni'n benderfynol o wneud hynny.
Ac o ran eich cyhuddiad chi ynglŷn â phwy sy'n gwybod orau, rwyf i am atgoffa'r Aelod mai dim ond ychydig wythnosau yn ôl yr oeddech chi'n ceisio dweud wrth bob un ohonom mai'r bobl a oedd yn gwybod orau oedd deiliaid byrhoedlog Rhif 10 a Rhif 11 Stryd Downing a'r anhrefn a adawyd ar eu holau nhw. Rydym ni'n gwneud hyn drwy ymgynghori yn llawn ar draws y sector; rydym ni wedi ymgysylltu â nhw'n flaenorol. Rydym ni am gael ymgynghoriad priodol, ac fe fyddwn ni'n ystyried rhywbeth wedyn yr wyf i o'r farn a fydd yn codi safonau ar draws y sector, ac er lles y diwydiant a'i ddefnyddwyr, yn wir. Ac rwy'n edrych ymlaen at barhau i gefnogi economi'r ymwelwyr a chydnabod y newidiadau sylweddol sy'n digwydd a sicrhau, fel rwy'n dweud, bod dyfodol iach a chynaliadwy i'r economi a'r cymunedau sy'n gartref iddi.