Part of the debate – Senedd Cymru am 4:41 pm ar 15 Tachwedd 2022.
Diolch am y datganiad, Weinidog. Roedd nifer ohonom yn bryderus ac yn ffieiddio clywed eleni fod—wel, rydyn ni wedi clywed y ffigurau yn barod—cymaint o ddigwyddiadau o garthion heb eu trin yn cael eu gollwng i gyrsiau dŵr Cymru. Fel rydyn ni wedi clywed yn barod, dydy’r rhain ddim yn cynnwys nifer o orlifiadau storm nas caniateir, na gorlifoedd nad ydynt yn cael eu monitro gan gwmnïau dŵr. Ydyn ni’n gwybod niferoedd go iawn yr achosion sydd wedi digwydd ers daeth y datguddiadau yna mas? Oes gennym ni syniad o ba mor wael y mae’r broblem yn parhau i fod, yn enwedig, efallai, y ffigurau mwy cudd?
Materion eraill sy'n peri pryder o ran ansawdd dŵr—ac rydych chi wedi cyffwrdd â hyn yn barod, Weinidog—ydy’r risgiau o lygredd drwy lawiad cynyddol oherwydd newid yn yr hinsawdd ac ehangu trefol, sydd i gyd yn peri risgiau cynyddol yn gysylltiedig â dŵr ffo llygredig, mwy o wastraff dynol, a mwy o risg o lifogydd, gyda mwy o bobl yn dod i gysylltiad â dŵr llygredig. Hoffwn i wybod, os gwelwch yn dda, pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith newid hinsawdd, twf yn y boblogaeth, a threfoli ar ansawdd dŵr a risgiau llygredd dŵr. Hoffwn i hefyd, Weinidog, plis, i chi amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r effeithiau hyn.
Nawr, y darn nesaf rwy'n mynd i godi, rwy'n gwybod bod hyn yn rhywbeth rydyn ni yn aml yn ei drafod yn y Siambr, a hefyd yn y pwyllgor. Pan fyddwn ni’n edrych ar beth sy’n digwydd yn yr Alban—. Rwy’n gwybod nad yw’n fater byth o, 'Wel, mae’n rhaid i ni wastad ddilyn beth sy’n digwydd yn yr Alban achos mae e’n digwydd yn yr Alban’, ond byddai’n ddefnyddiol i wybod beth yw'ch asesiad chi am hyn ar hyn o bryd. Mae Safonau Amgylcheddol yr Alban wedi dechrau ei rôl statudol fel corff llywodraethu amgylcheddol annibynnol, ac er i randdeiliaid Cymru argymell camau cyfatebol i Gymru, nid oes gennym ni ymrwymiad pendant o ran yr amserlen am bryd fyddwn ni’n gallu cau’r bwlch llywodraethu yng Nghymru. Mae angen arnom ni sylfaen lywodraethu amgylcheddol cadarn yng Nghymru. Dwi’n meddwl y byddai hwnna’n rhywbeth a fyddai’n gallu—. Fyddai hwnna ddim yn silver bullet mewn unrhyw ffordd, ond byddai'n helpu gymaint. Felly, byddai unrhyw wybodaeth ychwanegol y byddech chi’n gallu ei rhoi i ni o ran yr amserlennu, byddai hwnna’n ddefnyddiol. Ac os byddech chi’n gallu ymrwymo’n gadarn i gyflwyno’r ddeddfwriaeth oedd wedi’i haddo am egwyddorion amgylcheddol, byddai’n hwnna’n ddefnyddiol.