Part of the debate – Senedd Cymru am 5:26 pm ar 15 Tachwedd 2022.
Diolch am y datganiad, Weinidog. Mae Plaid Cymru yn falch o'r pwyslais ar hyrwyddo, ehangu a datblygu addysg gydol oes yn ein cytundeb cydweithredu gyda'r Llywodraeth a'n cydweithio ar sefydlu'r comisiwn addysg drydyddol ac ymchwil. Mae'n hanfodol sicrhau nawr bod ffocws y comisiwn yn dynn ar y ffaith bod Cymru yn llwyddo'n well yn y nod o ddod yn genedl ail gyfle, wedi blynyddoedd o danfuddsoddiad ac, yn wir, doriadau'r i'r sector, ac mae hynny yn fwy hanfodol nag erioed, fel rŷch chi wedi'i nodi, o ystyried yr heriau economaidd a allai llesteirio'r uchelgais yna.
Es i ar ymweliad gyda'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i gampws Abertawe Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yr wythnos diwethaf. Fel y gwyddoch, mae proffil oedran myfyrwyr y brifysgol honno yn hŷn ar gyfartaledd na'r cyfartaledd sector yng Nghymru a'r Deyrnas Gyfunol, a hynny, yn ôl y brifysgol, yn adlewyrchu eu pwyslais ar ddatblygiad proffesiynol parhaus, uwchsgilio ac addysg gydol oes. Fe gwrddais i â myfyrwyr oedd yn sôn am y pwysau economaidd sydd arnyn nhw am eu bod nhw'n hŷn—pwysau economaidd sy'n esgor hefyd ar broblemau iechyd meddwl a straen—a oedd yn cael effaith ar eu gallu i gwblhau eu rhaglenni yn llwyddiannus. Fel y clywon ni, mae hanner myfyrwyr y Brifysgol Agored yng Nghymru yn byw yng nghymunedau mwyaf difreintiedig ein cenedl, ac rŷn ni'n gwybod bod y pwysau ar y cymunedau hyn yn barod wedi cyrraedd lefel argyfyngus ac yn debyg o ddwysáu ymhellach.
Felly, er bu croeso i'r cyfeiriad newydd o ehangu dysgu i oedolion, mae yna bryder ynglŷn â'r lleihad mawr yn y blynyddoedd diwethaf yn y nifer o oedolion sy'n astudio o fewn y sector addysg bellach, a'r gwymp hefyd o ran y bobl sy'n astudio'n rhan-amser yn y gymuned, ar yr un pryd ac y cafodd cyllido ar gyfer addysg i oedolion yn y gymuned ei leihau yn sylweddol iawn ac yn dal i fod yn is nag yr oedd. Felly, sut ydych chi am flaenoriaethu llwybrau clir a hygyrch i ddysgu uwch ac, o ystyried y pwysau economaidd yma, pa gymorth ymarferol fydd ar gael i bobl ymgymryd â chyfleon i ailsgilio ac ailgysylltu ag addysg ar bob lefel?
Roedd grŵp o ddysgwyr o addysg oedolion yn y gymuned Castell-nedd Port Talbot yn ymweld â'r Senedd y bore yma, ac roedden nhw'n gofyn i fi am well gefnogaeth i ddysgwyr er mwyn parhau â'u hastudiaeth. Roedden nhw'n croesawu'r hyn sydd wedi digwydd o ran y cyfrifon addysgu personol, ond roedden nhw'n sôn bod angen gwell cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus—felly, y seilwaith i'w helpu nhw i ymgymryd â'u cyrsiau—help gyda chost trafnidiaeth, help gyda ffioedd arholiadau—roedd yn rhaid iddyn nhw ffeindio hynny o'u poced nhw eu hunain. Ac roedd darpariaeth ddigidol hefyd yn fater o bryder, gyda'r cyfarpar sydd ar gael i'w fenthyg yn gyfyngedig. Felly, sut mae'r Llywodraeth am barhau i geisio dileu y rhwystrau economaidd yma i'r myfyrwyr hŷn yma er mwyn sicrhau effeithlonrwydd y buddsoddiad a'r nod yma o greu cenedl ail gyfle? Sut ydych chi'n mynd i gefnogi pobl i ymgymryd ag addysg mewn cyfnod pan fo'r addysg honno yn gwbl hanfodol i hybu gwydnwch ein cymunedau, lles ein dinasyddion, ac iechyd ein heconomi?
Fe sonioch chi yn eich datganiad am yr heriau cyllidol yma. Mae darpariaeth addysg oedolion a rhan-amser mewn addysg bellach, ac yn y gymuned, yn aml, gyda'r cyntaf o bethau i gael eu torri pan fo cyllid yn brin. Fe welom ni hyn o dan Lafur yma yng Nghymru pan oedd polisïau llymder San Steffan dan y Llywodraeth glymblaid yn niweidio Cymru dros y ddegawd diwethaf. Felly, Weinidog, o ran yr ymrwymiad yma i sicrhau yr addysg ail gyfle yma, sut ydych chi'n mynd i gynnal hynny os bydd cyni economaidd pellach? Mae hynny yn gofyn am gyllid parhaus ar gyfer y sector dysgu oedolion yn y gymuned, fel bod modd darparu pwyntiau mynediad yn ôl i gyfleoedd dysgu, a dilyniant i ddarpariaeth alwedigaethol a chyflogadwyedd.
Wedyn, sut bydd llwyddiant yn cael ei fesur, a pha gynlluniau sydd ar y gweill i ddeall y math o ddysgwyr a allai elwa ar fynediad gwell i ddysgu oedolion? Sut bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau y bydd y pwyslais cryfach ar addysg oedolion o fudd i’r rhai sydd angen mynediad fwyaf, hynny yw, y rhai sy’n lleiaf tebygol o fod wedi elwa ar gyfleoedd addysg ffurfiol, y rhai sy’n lleiaf tebygol o fod â chymwysterau ac sydd wedi gadael addysg yn gynt yn eu bywydau, a phobl hŷn? Diolch.