Part of the debate – Senedd Cymru am 5:58 pm ar 15 Tachwedd 2022.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i bawb am eu cyfraniadau ar y ddadl bwysig hon ar adroddiad y comisiynydd. Dwi jest eisiau cloi, os caf, drwy sôn am yr esblygu mae Alun Davies yn sôn amdano fe sydd mor bwysig ym mholisi iaith, a sut ydyn ni'n mynd ati i sicrhau ffyniant yr iaith a mynediad hafal i'r Gymraeg i bawb sydd eisiau ei dysgu hi, a chyfleoedd i bawb. Mae'r gallu a'r hyder i newid ac edrych eto ar yr hyn rŷn ni'n ei wneud, ac ymateb i'r cyd-destun sydd ohoni o bryd i'w gilydd, yn beth pwysig iawn wrth i ni fynd ati i ehangu cyfleoedd i bobl.
Mae hawliau ieithyddol yn bwysig iawn. Mae nhw'n bwysig i ddefnyddwyr y Gymraeg, ond mae hefyd yn gwbl glir, wrth gwrs, na wnawn ni reoleiddio'n ffordd i ffyniant y Gymraeg. Mae angen hefyd greadigrwydd a dychymyg yn sut rŷn ni'n ehangu'r cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg. Fe wnaeth Heledd Fychan sôn am gyfyngu i hyrwyddo. Mae hyrwyddo yn beth pwysig; mae'r comisiynwyr wedi gweld hynny yn beth pwysig drwy gydol y blynyddoedd, ac mae angen edrych ar hynny fel rôl greiddiol ynghyd â'r rheoliadau.
Mae mwy nag un cyfrannwr wedi sôn am y cyfle sydd gyda ni yng nghyd-destun cwpan y byd i allu amlygu a dangos esiampl ac ymestyn cyfleoedd i bobl i ddysgu'r Gymraeg, a pha un ai mai 'Cymru' neu 'Wales' yw'r enw sydd gyda chi ar gyfer y tîm cenedlaethol, mae'r gwaith mae'r gymdeithas bêl-droed wedi bod yn gwneud gyda'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ddarparu, mewn partneriaeth, adnoddau i hyfforddi'r tîm a staff y gymdeithas, cefnogwyr pêl-droed, a chwaraewyr a chefnogwyr ar lawr gwlad wedi bod yn un o'r enghreifftiau hynny o greadigrwydd a meddwl tu allan i'r bocs, a sicrhau ein bod ni'n cymryd mantais o bob cyfle i allu atgoffa pobl fod cyfle iddyn nhw ddysgu'r Gymraeg hefyd.
Ac os caf i hefyd gytuno gyda'r pwynt wnaeth Alun ynglŷn â'r ffaith bod gan bawb nid jest berchnogaeth ar y Gymraeg ond hefyd rôl yn gwarchod y Gymraeg, ac inni gydweithio ar y cyd tuag at y targedau sydd gennym ni yn 'Cymraeg 2050'. Ynghyd â'r gwaith rŷn ni'n ei wneud fel Llywodraeth ar y cyd gyda Phlaid Cymru yn y cytundeb cydweithio, ac mewn amryw o ffyrdd eraill, rwy eisiau gweld mwy o sefydliadau ac arweinwyr cyhoeddus ar draws Cymru yn cymryd cyfrifoldeb hefyd am yr iaith. Drwy gydweithio, fe wnawn ni sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu, a sicrhau'r nod honno bod y Gymraeg yn perthyn i bawb a bod gan bawb gyfle i ddysgu ac i ddefnyddio'r Gymraeg bob dydd. Diolch yn fawr.