Safleoedd Atomfeydd Niwclear Newydd

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 16 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 1:52, 16 Tachwedd 2022

Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am yr ymateb, ond dwi am i'r Gweinidog esbonio, os gwelwch yn dda, ynghylch beth yn union ydy pwrpas Cwmni Egino bellach, yng ngoleuni y datblygiad yma. Yn flaenorol, mae Gweinidog yr Economi a'r Prif Weinidog wedi sôn am gynlluniau eraill ar gyfer Trawsfynydd, megis meddyginiaeth niwclear. Mae Egino eu hunain, yn eu trafodaethau efo fi, wedi gwneud yn glir bod ganddyn nhw feddwl agored ac yn edrych ar wahanol opsiynau, ac nad oedd Rolls-Royce yn flaenoriaeth iddyn nhw. Mae yna amser a phres cyhoeddus wedi mynd i mewn i Egino, ac yn parhau i fynd i mewn i'w gwaith. Ond eto mae'n amlwg mai bit-part player ydy Egino, ac mai'r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear sy'n gwneud y penderfyniadau. Yn hytrach na chael Egino i ganolbwyntio ar ddatblygu technoleg hen a methedig fel niwclear, oni fyddai'n well buddsoddi yn y gweithlu gwych sydd yn gwneud gwaith datgomisiynu rhagorol, o dan arweiniad medrus Angharad Rayner a'i thîm, a datblygu Trawsfynydd fel canolfan arfer da datgomisiynu a datblygu diwydiant llewyrchus datgomisiynu yn yr ardal i'w allforio i weddill y byd?