Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 16 Tachwedd 2022.
Diolch am eich cwestiwn. Mae gan ogledd Cymru sylfaen weithgynhyrchu gref ac mae’n gartref i rai o’n cwmnïau mwyaf cynhyrchiol, yn enwedig yn y sector awyrofod ac amddiffyn. Rydym yn parhau i gefnogi’r busnesau hyn i greu swyddi medrus iawn o ansawdd uchel sy’n talu’n dda, ac mae hynny’n cynnwys y cynlluniau rydym yn eu harwain ar gyfer datblygu canolfan ymchwil technoleg uwch, mewn partneriaeth â’r Weinyddiaeth Amddiffyn.