Technoleg Uwch yn y Sector Amddiffyn

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 16 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jack Sargeant Jack Sargeant Labour 1:37, 16 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch i’r Gweinidog am ei ateb? Byddwch wedi gweld y datganiad diweddar gan y Gweinidog Caffael Amddiffyn ynglŷn â safle’r Asiantaeth Electroneg a Chydrannau Amddiffyn yn Sealand, ac wrth gwrs, mae eich cynlluniau ar gyfer y ganolfan ymchwil technoleg uwch yn rhywbeth rwyf wedi sôn amdano sawl gwaith yn y Siambr hon. A gaf fi ofyn i chi am fanylion ynglŷn â sut y gall Llywodraeth Cymru gefnogi datblygiad sector ymchwil technoleg uwch, gyda chefnogaeth Llywodraeth y DU?