1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru ar 16 Tachwedd 2022.
4. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cynnal gyda Llywodraeth y DU parthed perthnasedd y gronfa ffyniant gyffredin i awdurdodau lleol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ58719
Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi pwysau aruthrol ar awdurdodau lleol ar draws pob rhan o Gymru i geisio sicrhau bod cynllun sydd wedi mynd o chwith oherwydd oedi, cyllid annigonol a therfynau amser amhosibl, yn llwyddo. Rwyf wedi codi'r materion hyn dro ar ôl tro gydag nifer o Weinidogion olynol y DU a byddaf yn parhau i wneud hynny.
Diolch yn fawr iawn. Braf cael clywed hynny, achos fel ŷn ni'n gwybod, fe gafodd y cyhoeddiad yma ei wneud ddechrau’r flwyddyn, ac nid yn unig mae'r gyllideb newydd yma yn tanseilio'r setliad datganoli, mae e hefyd yn torri addewidion Brexit o ddim un ceiniog yn llai. Mae'r £585 miliwn sydd ar gael i Gymru dros dair blynedd yn brin o'i gymharu â'r £375 miliwn a dderbyniwyd yn flaenorol gan y strwythurau Ewropeaidd. Mae awdurdodau lleol, fel ŷch chi'n gwybod, wedi gweitho'n galed iawn ac o fewn amserlen dynn iawn i gyflwyno ceisiadau, ac mae'r psychodrama ŷn ni wedi gweld dros yr wythnosau diwethaf—beth yw e? Tri Prif Weinidog, pedwar Canghellor mewn mater o wythnosau—wedi arafu'r broses, wrth gwrs, ac mae'r awdurdodau'n dal i ddisgwyl clywed ydy eu ceisiadau nhw wedi bod yn llwyddiannus. Felly, dwi'n falch o glywed eich bod chi wedi bod yn rhoi pwysau, felly os gallwn ni gael sicrwydd eich bod chi'n mynd i barhau i bwyso ar Lywodraeth San Steffan i ryddhau'r arian yma sydd mawr ei angen ar ein hawdurdodau lleol ni dros Gymru.
Byddaf yn parhau i bwyso am hyn gyda phwy bynnag yw'r Gweinidogion diweddaraf sydd â chyfrifoldeb am hyn. Efallai y bydd dychweliad Michael Gove i'r adran ffyniant bro yn golygu na fydd oedi sylweddol mewn perthynas â hynny, ond roedd llywodraeth leol i fod cael atebion gan Lywodraeth y DU o fewn tri mis i gyflwyno eu cynlluniau. Ond mewn gwirionedd, nid y tri mis diwethaf yn unig ydyw, oherwydd nid yw'r gymeradwyaeth honno wedi'i rhoi; mae'n waeth byth mewn gwirionedd, oherwydd er gwaethaf y ffaith i'r gronfa ffyniant gyffredin gael ei chyhoeddi gyntaf yn 2017, nid yw'r gronfa wedi dod yn weithredol eto: nid oes ceiniog o gyllid, nid oes un geiniog o gyllid o'r gronfa ffyniant gyffredin wedi cyrraedd Cymru, lle byddai rhaglenni ariannu newydd yr UE wedi dechrau bron i ddwy flynedd yn ôl, a byddai arian eisoes yn llifo i fframwaith amlflwyddyn lle na fyddai gennych derfynau amser artiffisial ar gyfer gwariant o fewn blynyddoedd ariannol a fyddai bron yn sicr yn golygu y byddai arian yn cael ei wario'n wael ar ddiwedd un flwyddyn ariannol, ac os na, ni fyddai'n cael ei wario o gwbl a byddai'n cael ei ddychwelyd i Drysorlys y DU. Ni fyddai unrhyw frigdorri ar gyfer Lluosi; unwaith eto, trosedd ddybryd arall yn erbyn cyfrifoldebau datganoledig. Yr her yw: a yw Llywodraeth y DU yn barod i gyflawni'r addewidion y mae wedi eu gwneud; y rhai a wnaeth pan dorrodd ei haddewidion maniffesto; y rhai sy'n golygu ein bod ni dros £1 biliwn yn waeth ein byd? Rwy'n mawr obeithio y cawn rywfaint o eglurder ynghylch yr arian sy'n dod fel bod penderfyniadau'n cael eu gwneud, ond yn fwy na hynny, fel bod Llywodraeth y DU yn manteisio ar y cyfle i droi ei chefn ar y rheolau gwallgof y mae wedi'u gosod a fydd yn gwarantu gwariant gwael, ac rwy'n credu y bydd yn sicr yn golygu y bydd arian yn mynd yn ôl i'r Trysorlys, ac yn sicr nid dyna oedd yr hyn a elwir yn 'ffyniant bro' i fod i'w gyflawni.
Rwy'n ddiolchgar i Cefin Campbell am gyflwyno'r cwestiwn hwn, yn benodol mewn perthynas ag arwyddocâd cysylltiadau rhynglywodraethol cryf rhwng Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol wrth gwrs. Weinidog, ar bwnc trafodaethau rhynglywodraethol, rwy'n siŵr y byddwch chi a'ch cyd-Aelodau yn ymwybodol o'r cais trawsnewidiol ar gyfer y porthladd rhydd Celtaidd. Os caiff ei ddewis, bydd statws porthladd rhydd yn ne-orllewin Cymru yn cyflymu buddsoddiad mawr yn economi carbon isel Cymru ac yn cynnig llwyfan datblygu sylweddol ar gyfer diwydiannau gwyrdd newydd. Nid yn unig y bydd y weledigaeth hon yn sicrhau bod ffynonellau ynni Cymru a'r DU wedi'u diogelu, bydd yn rhyddhau manteision economaidd gwynt ar y môr arnofiol, cynhyrchu hydrogen a dal carbon, gan gynhyrchu miloedd o swyddi newydd medrus iawn o safon uchel. O ystyried bod y rhain yn elfennau hollbwysig er mwyn sefydlu economi Gymreig wydn wedi'i datgarboneiddio ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, a gaf fi ofyn a yw'r Gweinidog yn rhannu fy angerdd am borthladd rhydd yn y môr Celtaidd, a'r manteision a ddaw yn sgil hynny? Diolch.
Roedd y drafodaeth ar borthladdoedd rhydd yn anodd, ond daeth i ben y pen draw mewn cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru, gyda'n cyfrifoldebau, a Llywodraeth y DU. Mae'n fodel lle ceir cyfrifoldebau penderfynu ar y cyd rhwng penderfynyddion cyfartal, a'r peth da am hynny yw ei fod wedi symud ymlaen o sefyllfa anffodus ac anghynhyrchiol iawn lle mae pobl yn gweiddi ac yn dweud, 'Bai Llywodraeth Cymru yw'r ffaith nad yw hyn wedi digwydd.' Pan oeddem yn cael trafodaethau go iawn rhwng Gweinidogion sy'n gwneud penderfyniadau, roeddem yn gallu dod i gytundeb y gallai pawb fyw gydag ef, ac mae hynny'n cynnwys materion datganoledig ynglŷn â bod gwaith teg yn rhan o'r fframwaith, ac mae hynny'n wahanol iawn i'r gronfa ffyniant gyffredin.
Ar eich pwynt penodol a'ch cwestiwn ynghylch cais penodol ar gyfer y rhaglen porthladdoedd rhydd, rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn deall na allaf roi unrhyw fath o arwydd o gefnogaeth iddo, oherwydd fi fydd y Gweinidog a fydd yn penderfynu o safbwynt Llywodraeth Cymru, ac nid wyf am ragfarnu fy mhenderfyniad, oherwydd rwy'n ymwybodol fod ceisiadau eraill yn cael eu gwneud, ac rwy'n edrych ymlaen at weld manylion y rheini.