Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 16 Tachwedd 2022.
Rwy'n aml yn cofio am fy amser cyn imi ddod i'r Senedd, a'r grwpiau o bobl roeddwn yn eu cynrychioli, gan gynnwys llawer o fenywod mewn hawliadau cyflog cyfartal, a deall bod yna anghydraddoldebau o ran canlyniadau cyflog hyd yn oed mewn gweithleoedd cyfundrefnol, ac mae rhai o'r rheini'n strwythurol ac yn ymwneud â gwahaniaethu o fewn y system gyflogau. Ac yna mae gennych her ehangach, wrth gwrs, fod gweithwyr rhan-amser yn dal i gael llai o gyflog na gweithwyr amser llawn, ac mae nifer anghymesur o weithwyr rhan-amser yn fenywod. Felly, rwy'n cydnabod bod yna ystod gyfan o strwythurau.
Mae gan y Llywodraeth rôl i wneud rhywbeth yn ei gylch. Mae rhywfaint o hynny'n ymwneud ag arwain, a bod yn glir am y ffaith bod hon yn broblem ac yna nodi rhai o'r pethau y byddwn yn eu gwneud, o ran yr ymyrraeth rydym am ei gwneud yn y farchnad lafur a chael mwy o bobl i fod yn weithgar yn economaidd, ond hefyd drwy arfogi'r bobl hynny i gael mynediad at waith cyflogedig gwell. Dyna yw pwrpas yr hyfforddiant sgiliau, ond mae rhai o'r pwyntiau y mae Julie Morgan wedi bod yn eu hamlinellu am y cynnig gofal plant ac ehangu hwnnw'n bwysig hefyd, i roi mynediad ymarferol i bobl at gyfleoedd gwaith cyflogedig ac i sicrhau bod gofal plant yn fforddiadwy. Felly, mae angen ystod eang o wahanol fesurau i drawsnewid ac i fynd i'r afael â bylchau cyflog yn iawn, a gweithredu cyson i drawsnewid strwythurau sefydliadol, polisi a chanlyniadau.
Mae angen i'r sector preifat chwarae eu rhan hefyd. Nid oes gennym yr holl gyfrifoldebau cyfreithiol yn y maes hwn, ond fel y dywedaf, rwy'n credu bod y rôl arweiniol sydd gennym yn wirioneddol bwysig, a dyna pam ein bod yn proffilio pobl sy'n gwneud y peth iawn wrth wobrwyo eu gweithlu a chydnabod y ffaith y dylai pawb gael eu talu'n deg. Mae hefyd, felly, yn ymwneud â'r ffaith nad yw gwaith teg yn rhywbeth sy'n ymwneud â chynrychiolaeth a sefydliadau undebau llafur yn unig. Mae'n ymwneud â'r holl bethau hyn a'r mathau o gwmnïau rydym am weithio gyda hwy, ac mae'n rhan o'r hyn rydym yn ei ddisgwyl gan bobl sydd eisiau cymorth o'r pwrs cyhoeddus yma yng Nghymru.