Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 16 Tachwedd 2022.
Diolch i fy nghyd-Aelod am ofyn y cwestiwn hwn. Cafodd y pandemig effaith sylweddol ar lesiant economaidd menywod. Rydym yn gwybod bod menywod yn tueddu i ennill llai ar gyfartaledd, fod ganddynt lai o gynilion, eu bod yn gweithio mwy yn yr economi anffurfiol ac yn ffurfio'r rhan fwyaf o aelwydydd un rhiant. Os ydym am ailffocysu ein sylw ar y canlyniadau i fenywod mewn gwaith, sut mae eich strategaeth yn adlewyrchu'r hyn a ddysgwyd o'r pandemig, a dynnodd sylw at heriau a risgiau sylweddol?