Part of the debate – Senedd Cymru am 4:29 pm ar 16 Tachwedd 2022.
Rwyf am ddechrau, fel rydym bob amser yn tueddu i'w wneud yn y dadleuon hyn, drwy ddiolch i'r Cadeirydd am ei gadeiryddiaeth arbenigol ar ein pwyllgor, yn ogystal â'r holl waith y mae'r clercod yn ei wneud hefyd, ac yn arbennig y dystiolaeth a gawsom gan wahanol randdeiliaid a grwpiau gweithredu cymunedol. Rwyf am dynnu sylw at grŵp gweithredu Caerau a Threlái, fel y gwnaeth y Cadeirydd, a chyfeirio at y pwynt a wnaethant sef nad yw ond o fudd os ydych yn gwybod amdano. Rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt hanfodol bwysig. Mae'n cysylltu â fy nghyfraniad blaenorol yn ymwneud â thariffau cymdeithasol band eang. Ond mae hefyd yn tynnu sylw at yr angen i godi ymwybyddiaeth am yr hyn sydd ar gael i bobl. Ac wrth gwrs, rwy'n credu'n sylfaenol y dylai pobl gael yr hyn y mae ganddynt yr hawl i'w gael beth bynnag a hynny'n ddiofyn.
Ond hoffwn ddechrau gyda busnesau. Nid yw'n gyfrinach fod yr argyfwng costau byw yn rhwygo drwy'r stryd fawr Gymreig wrth i rybuddion ynghylch cenhedlaeth goll o fusnesau bach ac annibynnol barhau. Mae effaith chwyddiant a phrisiau ynni esgynnol wedi cael ei theimlo gan fasnachwyr, ac mae llawer ohonynt wedi cael eu gorfodi i gau eu drysau'n barhaol neu i ystyried gwneud hynny. Mae'r argyfwng costau byw yn digwydd ochr yn ochr â'r argyfwng costau gwneud busnes—rhywbeth sydd wedi'i ddogfennu'n dda yn adroddiad ein pwyllgor. Mae prisiau'n codi i'r entrychion i fusnesau ar yr un pryd ag y mae pobl sy'n gweithio yn gorfod lleihau eu gwariant. Mae'n sicr yn ergyd ddwbl.
Mae'n werth nodi yma nad ydym yn sôn am warian pobl sy'n gweithio ar bethau moethus chwaith—mae llawer ohonynt yn methu fforddio hanfodion. Mae disgwyl y bydd y cynnydd sylweddol mewn tlodi tanwydd, y rhagwelir y bydd yn dilyn codi'r cap ynni ym mis Ebrill, lle mae disgwyl i 45 y cant o aelwydydd Cymru ymgodymu â thlodi tanwydd difrifol, yn cyd-redeg â'r cwymp mwyaf mewn incwm gwario o bosibl ers dechrau cadw cofnodion yn y 1950au. Ar ben hyn, mae llawer o fusnesau'n dal i adfer ar ôl y pandemig. Soniais am fusnesau bach, annibynnol a'r rhain sy'n cael eu taro waethaf mewn rhai sectorau. Dywedodd y Ffederasiwn Busnesau Bach fod biliau nwy busnesau bach wedi cynyddu 250 y cant ar gyfartaledd a bod 96 y cant o'r rhain yn poeni am eu biliau ynni cynyddol.
Mae diwydiannau ynni-ddwys hefyd yn dioddef—nid yn unig y rhai sy'n dod i'r meddwl yn syth, fel dur, ond rhai rwyf wedi codi llais yn eu cylch o'r blaen hefyd, fel bragdai a lletygarwch. Er enghraifft, mae Bang-On Brewery, bragdy lleol yn fy rhanbarth i ym Mhen-y-bont ar Ogwr, wedi gweld eu biliau'n cynyddu mewn ffordd sy'n dod â dŵr i'r llygaid. Er enghraifft, maent wedi gweld cynnydd o 549 y cant yn eu contract cyfleustodau newydd; cynnydd o 68 y cant yn eu les safle newydd; cynnydd o 165 y cant ym mhris grawn bragu ers dechrau 2021, gyda chynnydd pellach o 70 y cant yn cael ei gyflwyno ym mis Ionawr 2023, a chynnydd o 80 y cant yn y gost o redeg cerbydau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Os adiwch y rheini i gyd, bydd angen iddynt ddod o hyd i £198,000 ychwanegol ar ôl treth i wneud dim mwy na aros lle maent, a goroesi. Gyda chostau o'r fath, byddai'n rhaid i bris masnach newydd potel o gwrw fod yn £12.53 y botel a TAW. Nid wyf yn nabod llawer o bobl, os oes unrhyw un mewn gwirionedd, a fyddai'n ystyried talu hynny am botel o gwrw.
Mae costau fel hyn yn un o'r amryw o ffyrdd y mae'r argyfwng hwn yn gwanychu diwydiant lletygarwch sydd eisoes dan bwysau eithriadol. Mae sectorau fel lletygarwch, manwerthu a thwristiaeth yn hynod ddibynnol ar wariant dewisol pobl. Mae'r adroddiad yn nodi bod sectorau o dan bwysau sylweddol mewn mwy o berygl o ddadlwytho pwysau costau byw ar weithwyr. Ni fydd llawer sy'n gweithio mewn sectorau fel lletygarwch yn gallu bargeinio y tu hwnt i gontractau dim oriau neu waith heb gontract ysgrifenedig, ac oriau gwaith y gellir eu cadarnhau, eu canslo neu eu newid ar fympwy neges destun neu alwad ffôn.
Mae cyfarwyddwr gweithredol UKHospitality Cymru wedi dweud bod 13,000 o swyddi yng Nghymru yn y fantol os na fydd cymorth yn cael ei roi i'r diwydiant. Ac o hyn, gallwn weld natur gylchol yr argyfwng hwn. Mae'r argyfwng costau byw a'r argyfwng costau gwneud busnes wedi'u clymu wrth ei gilydd ac mae ei effaith ar bobl dosbarth gweithiol yn ddinistriol. Mae bywoliaeth pobl yn y fantol.
Rhywbeth a nodwyd gan Gyngres yr Undebau Llafur yn yr adroddiad oedd diffyg dealltwriaeth ddigonol o'r lefelau hyn o ansicrwydd, ac maent yn hollol gywir. Nid yw tlodi mewn gwaith, cyflogau isel a chyflogaeth ansicr yn bethau ymylol neu dros dro mewn rhai sectorau bellach—mae'n ffaith bywyd i lawer. Mae'n arwain at lu o frwydrau iechyd meddwl, ond gallai hefyd arwain at normaleiddio amodau cyflogaeth enbyd i lawer o bobl sy'n gweithio. Mae pobl yn gorfod gweithio oriau hwy, ac mae rhai'n gwneud nifer o swyddi am lai a llai o arian. Bûm yn siarad ag etholwr yn y feddygfa yng Nghaerau ddydd Llun sy'n gweithio tair swydd ar hyn o bryd ac eto £3 yn unig a oedd ganddi i'w henw y diwrnod hwnnw.