7. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig — 'Pwysau costau byw'

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 16 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 4:20, 16 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Nawr, mae ein hadroddiad yn cynnwys 27 o argymhellion mewn pum maes. Fe wnaethom ganolbwyntio ar: y cymorth a oedd ar gael gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ym mis Mai a Mehefin eleni, a lle roedd y bylchau; y pwysau ar aelwydydd bryd hynny; y pwysau ar y gweithlu; yr effaith ar gymunedau gwledig; a'r pwysau ar fusnesau. Rwy'n falch fod 23 o'r argymhellion wedi'u derbyn, gyda'r pedwar arall wedi'u derbyn mewn egwyddor. Mae yna lawer i'w groesawu yn ymateb Llywodraeth Cymru, a diolch i'r Gweinidog am ymateb yn gadarnhaol i'n hadroddiad a'n hargymhellion.

Mae ein pum argymhelliad cyntaf yn ymwneud â sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn casglu digon o ddata a'r math cywir o ddata i ddeall lle mae'r angen mwyaf a sicrhau bod yr arian sydd ar gael yn cael ei gyfeirio yn y ffordd orau bosibl. Fe glywsom dystiolaeth sy'n peri pryder ynghylch maint yr her i bobl sy'n ceisio cymorth, ac felly mae'r ffaith bod y pum argymhelliad wedi cael eu derbyn i'w chroesawu'n fawr.

Roedd ein chweched argymhelliad yn ymwneud â sicrhau cymaint o ymwybyddiaeth â phosibl a sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn manteisio ar y cymorth budd-daliadau sydd ar gael i unigolion, ac rydym hefyd yn croesawu ymdrechion Llywodraeth Cymru yn hyn o beth. Mae hyn yn cynnwys y gwaith sy'n cael ei wneud drwy'r ymgyrch 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi', a'r gweithgor pwyslais ar incwm, y cyfeirir ato mewn ymateb i'n seithfed argymhelliad. Byddai'r pwyllgor yn ddiolchgar am unrhyw ddiweddariadau ar y gwaith hwn gan y Gweinidog wrth inni symud drwy gyfnod y gaeaf ac i mewn i wanwyn 2023, ac efallai wrth ymateb i'r ddadl hon y cawn glywed ychydig mwy am y gwaith sydd wedi digwydd.

Hoffwn dalu teyrnged hefyd i'r rhai sy'n darparu gwasanaethau cyngor a chymorth i bobl sydd yn teimlo'r pwysau fwyaf ar hyn o bryd. Nid yw eu gwaith bob amser yn cael ei gydnabod yn llawn, a chlywsom am y straen sydd arnynt hwy wrth iddynt geisio cefnogi eraill yn eu cymuned. Yn wir, rydym yn ddiolchgar iawn i nifer o sefydliadau a gymerodd ran mewn grwpiau ffocws a chyfweliadau a gynhaliwyd gan dîm cysylltu â dinasyddion y Senedd. Mae canfyddiadau'r gwaith hwnnw ar gael ar ein gwefan ac maent wedi cael eu hadlewyrchu yn ein hadroddiad.

Mae Gweithredu yng Nghaerau a Threlái, ACE, yn un o'r sefydliadau ar lawr gwlad sy'n cefnogi pobl ar incwm isel, ac mae eu tystiolaeth yn amlygu agwedd arbennig o bwysig ar yr ymchwiliad. Fe wnaethant y pwynt hynod bwysig nad yw ond o unrhyw fudd os ydych yn gwybod amdano. Nawr, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o'r cymorth sydd ar gael, un o brif negeseuon ein hymchwiliad oedd y gellid gwneud mwy i resymoli'r broses o wneud cais am gymorth. Fe wnaeth Dr Steffan Evans o Sefydliad Bevan dynnu sylw at y nifer helaeth o ffurflenni y mae'n ofynnol i bobl eu llenwi er mwyn cael yr arian y mae ganddynt hawl iddo, ac fe anogodd Lywodraeth Cymru i gyflymu gwaith yn y maes hwn.

Ceir consensws fod angen i'r system fod yn fwy cydlynol, ac mae argymhellion 8, 9 a 10 yn galw am basbortio budd-daliadau yn well, mwy o gydlynu, a symleiddio gwasanaethau mewn dull siop un stop. Rydym yn croesawu ymateb Llywodraeth Cymru ar y pwynt hwn, ac yn croesawu'r ffaith bod siarter budd-daliadau wrthi'n cael ei datblygu. Rydym hefyd yn cydnabod bod rhai awdurdodau lleol gam ar y blaen, ac rydym eisiau i'r arferion gorau hynny ddod yn norm.

Mae argymhelliad 11 yn arbennig o berthnasol, gan ei fod yn cyfeirio at gymhwysedd i gael cymorth y tu hwnt i fudd-daliadau sy'n seiliedig ar brawf modd, ac yn tynnu sylw at drafferthion teuluoedd a allai fod yn colli allan o ychydig. Mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn cydnabod hyn yn y meini prawf ar gyfer ei chynllun cymorth tanwydd y gaeaf, ac rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn ystyried yr argymhelliad hwn wrth lunio cynlluniau yn y dyfodol.

Diolch i'r Gweinidog am yr ymateb i argymhelliad 12 ar sut y bydd grant atal digartrefedd Llywodraeth Cymru yn helpu i liniaru'r gostyngiad mewn taliadau disgresiwn at gostau tai, ac mae'r pwyllgor yn nodi y bydd Gweinidogion yn parhau i drafod gyda Llywodraeth y DU pa gyllid fydd ar gael yng nghyllideb 2023-24 i fynd i'r afael â phwysau costau byw.

Nawr, ni chafodd holl argymhellion y pwyllgor eu derbyn yn llawn, ac mae'n peri penbleth braidd i mi pam fod ein galwad ar Lywodraeth Cymru i lywio achrediad cyflogwyr y sector cyhoeddus fel cyflogwyr cyflog byw gwirioneddol ond wedi cael ei dderbyn mewn egwyddor. Argymhellwyd hefyd y dylai Llywodraeth Cymru archwilio defnyddio ei hysgogiadau mewn perthynas â chyflogau ac amodau'r sector cyhoeddus i gynyddu gwaith teg yng Nghymru, gan gynnwys drwy wella tâl salwch, lle mae gweithwyr sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus ei angen, gan ddechrau gyda threfniadau mwy hirdymor i weithwyr gofal cymdeithasol, a chefnogi'r rhai sy'n ennill leiaf drwy setliadau cyflog. Serch hynny, rwy'n nodi bod ymateb Llywodraeth Cymru yn cyfeirio at waith hyd braich Cynnal Cymru i hyrwyddo manteision y cyflog byw gwirioneddol ar gyfer gweithwyr yng Nghymru, sy'n arbennig o briodol i'w gydnabod yr wythnos hon, gan ei bod yn Wythnos Cyflog Byw.

Mae'n dda gweld hefyd, mewn ymateb i argymhelliad 15, fod y Gweinidog a'r pwyllgor yn rhannu'r un safbwynt ynghylch mentrau i hyrwyddo gwaith teg. Yn yr un modd, gydag argymhelliad 16, mae ein hadroddiad yn tynnu sylw at bwysigrwydd data da ar y farchnad lafur i gefnogi ymateb polisi Llywodraeth Cymru yn wyneb pwysau costau byw ar economi Cymru.

Mae salwch meddwl yn bryder mawr yn wyneb y pwysau costau byw, a chlywodd y pwyllgor dystiolaeth ofidus iawn gan yr undebau llafur a sefydliadau llawr gwlad am yr effaith y mae pryderon ariannol yn ei chael ar bobl. Roedd rhai o'r sylwadau rydym wedi'u cael drwy waith ymgysylltu'r pwyllgor yn cynnwys pethau fel, ac rwy'n dyfynnu:

'Mae arnaf ofn rhoi'r gwres ymlaen',

'Rwy'n teimlo'n sâl ac nid wyf yn gallu bwyta',

'Rydym yn ennill cyflog da ond yn methu ymdopi â'r biliau', a, 'Rwy'n garcharor yn fy nghartref fy hun.' Felly, mae annog cyflogwyr i gefnogi eu gweithwyr drwy'r anawsterau hyn yn hollbwysig, ac felly roedd yn briodol ein bod wedi gwneud argymhelliad penodol ynglŷn â hyn.

Ddirprwy Lywydd, fel y dywedais ar ddechrau fy nghyfraniad, mae pwyllgorau eraill y Senedd hefyd wedi gwneud gwaith pwysig ar faterion costau byw. Er enghraifft, roedd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol eisoes wedi gwneud argymhellion pwysig am dlodi tanwydd a'r rhaglen Cartrefi Clyd ym mis Mai, ddeufis cyn i adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach, a Materion Gwledig gael ei gyhoeddi. Felly, mae'n hanfodol fod yr Aelodau'n cydnabod mai un rhan yw hon o waith mawr ar graffu ar gymorth Llywodraeth i fynd i'r afael â'r costau byw cynyddol.

Ddirprwy Lywydd, roedd ein hadroddiad hefyd yn rhoi ffocws pwysig i'r trafferthion sy'n wynebu aelwydydd oddi ar y grid a'r rhai mewn cymunedau gwledig, lle mae premiwm gwledig am gael mynediad at nwyddau a gwasanaethau. Rydym yn gwybod bod ffactorau lluosog ar waith yma: gwledigrwydd, dibyniaeth ar fathau drutach o danwydd gwresogi, costau cynyddol cludo nwyddau, ynysu, y pwysau ar ein cymunedau ffermio sy'n gorfod ymdopi â chostau cynyddol bwyd anifeiliaid, gwrtaith a thanwydd. Felly, mae argymhellion 19 i 23 yn ymdrin â mesurau i gynorthwyo aelwydydd oddi ar y grid gyda chostau tanwydd a darparu canolfannau cynnes, sydd bellach wedi'u cyflwyno yng Nghymru, a mwy o waith ymchwil a dadansoddiadau o anghenion cymunedau gwledig. Mae'n dda clywed bod materion gwledig yn cael eu hystyried yn benodol ar gyfer fersiynau yn y dyfodol o raglen Cartrefi Clyd, ac edrychaf ymlaen at glywed mwy am y gwaith hwn maes o law.

Mae ein pedwar argymhelliad olaf yn ymwneud â chymorth i fusnesau allu ymdopi â chostau cynyddol gwneud busnes. Nododd Llywodraeth Cymru mai ar lefel y DU y mae llawer o'r ysgogiadau ar gyfer darparu grym ariannol ychwanegol i oresgyn yr heriau, ac nad yw'r symiau canlyniadol Barnett a ddefnyddiwyd ar gyfer cymorth COVID mewn blynyddoedd blaenorol yno ar gyfer 2022-23. Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein hargymhelliad ynglŷn â chynorthwyo busnesau Cymru i ddefnyddio ynni'n fwy effeithlon, ac i beidio â cholli golwg ar dargedau sero net yn wyneb yr heriau ariannol.

Yn olaf, mewn perthynas â rhyddhad ardrethi annomestig parhaus i fusnesau, nodwn yr ymrwymiad i adolygu'r angen am gymorth trosiannol pellach yn 2023, ac mae'r pwyllgor yn edrych ymlaen at glywed mwy ynglŷn â sut y bydd Llywodraeth Cymru'n defnyddio rhyddhad ardrethi busnes i gefnogi'r busnesau yr effeithir arnynt fwyaf yng Nghymru ar yr adeg anodd hon.

I gloi, hoffwn ailadrodd fy niolch i bawb a fu'n ymgysylltu â'r pwyllgor yn ystod ein gwaith ar y mater pwysig hwn, a diolch hefyd i'r tîm a gynorthwyodd y pwyllgor i gynnal yr ymchwiliad hwn. Rwy'n edrych ymlaen at glywed cyfraniadau Aelodau i'r ddadl bwysig hon. Diolch yn fawr iawn.