Part of the debate – Senedd Cymru am 4:18 pm ar 16 Tachwedd 2022.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig a gyflwynwyd yn fy enw.
Ddirprwy Lywydd, yr wythnos diwethaf, fe wnaethom drafod ein hadroddiad ar adfer y sectorau twristiaeth, lletygarwch a manwerthu yng Nghymru, a sut roedd costau byw a chostau gwneud busnes yn effeithio arnynt. Yr wythnos hon, rydym yn trafod ein hadroddiad ar rai o'r materion mwyaf dybryd y mae ein cymunedau'n eu hwynebu: sut mae pwysau costau byw wedi bod yn effeithio ar aelwydydd a gweithwyr; effaith costau cynyddol gwneud busnes; ac anghenion penodol ein cymunedau gwledig.
Yn yr ymchwiliad hwn, fe wnaethom archwilio pa mor effeithiol yw'r mesurau cymorth y mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi'u rhoi ar waith, a pha gymorth pellach y gallai fod ei angen dros y misoedd nesaf. Roeddem yn glir ein bod eisiau adeiladu ar waith pwyllgorau eraill y Senedd yn hytrach nag ailddyfeisio'r olwyn, ac mae'r pwyllgor yn ddiolchgar iawn i bawb a roddodd dystiolaeth i'n hymchwiliad.
Yn ôl yn yr haf, roedd costau byw cynyddol eisoes i'w teimlo ar draws Cymru ac yn effeithio ar bron bob agwedd ar fywyd cyhoeddus a phreifat. Nid oedd cyflogau ac incwm sefydlog yn ymestyn cyn belled, ac roedd pobl yn tynhau eu gwregysau ac yn gwneud dewisiadau anodd. Roedd busnesau'n wynebu ergyd ddwbl costau uwch a defnyddwyr yn lleihau eu gwariant dewisol. Ac mae'r holl faterion hyn yn cael eu chwyddo mewn cymunedau gwledig, sy'n wynebu premiwm gwledig am gael mynediad at nwyddau a gwasanaethau. Wrth gwrs, mae pethau wedi symud ymlaen yn sylweddol ers inni gyflwyno ein hadroddiad ddiwedd mis Gorffennaf, ond hyd yn oed bryd hynny roeddem yn edrych ar sut y gellid cefnogi busnesau ac unigolion drwy gyfnod yr hydref a'r gaeaf sydd bellach ar ein gwarthaf. Mae'r Gweinidog wedi rhoi ymateb cynhwysfawr iawn i'r adroddiad hwn, mewn modd amserol, a chredaf fod hynny'n adlewyrchu pwysigrwydd gweithredu yn y maes hwn.