Part of the debate – Senedd Cymru am 4:35 pm ar 16 Tachwedd 2022.
Unwaith eto, rwyf am ddechrau drwy adleisio'r hyn y mae Paul a Luke wedi ei ddweud. Diolch i fy nghyd-Aelodau, tîm y Senedd, y Cadeirydd, a phawb a fu'n ymwneud â'n Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig i roi'r adroddiad amserol a phwysig hwn at ei gilydd. Mae'r argyfwng hwn yn parhau i effeithio ar lawer yn ein cymunedau. I rai, gallai fod yn fater o fod yn fwy gofalus gyda chyllidebau, ond i eraill gallai ymwneud â'u gallu i roi bwyd ar y bwrdd iddynt hwy a'u plant yfory.
Mae'r TUC yn dweud bod un o bob saith o bobl yn mynd heb brydau bwyd yn barod neu'n mynd heb fwyd. Mae ffigyrau Ymddiriedolaeth Trussell yn dangos bod un o bob pump o bobl sy'n cael eu cyfeirio at eu canolfannau yn dod o aelwydydd lle mae rhywun yn gweithio. Mae hyn yn effeithio ar bobl a ddylai allu dibynnu ar eu cyflogau i fod yn ddiogel, ond mae rhai pobl sy'n gweithio yn methu talu costau byw sylfaenol, heb sôn am gyrraedd eu swydd. Mae biliau morgeisi ar eu huchaf ers 2008 o ganlyniad i'r gyllideb fach, mae prisiau bwyd wedi saethu i fyny, gyda rhai ohonynt dros 60 y cant yn uwch, ac mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi dweud mai yn 2023 y gwelir y cwymp mwyaf mewn safonau byw yn y DU ers dechrau cadw cofnodion.
Ond mae nifer fach o bobl yn ein cymdeithas yn gwneud elw. Gallai cynhyrchwyr ynni'r DU weld elw ychwanegol o £170 biliwn dros y ddwy flynedd nesaf. Gwnaeth BP elw o £7 biliwn yn nhrydydd chwarter 2022; mae Shell wedi gwneud elw byd-eang uwch nag erioed o bron i £26 biliwn ar gyfer tri chwarter cyntaf 2022, ond ni thalodd unrhyw dreth ffawdelw ynni yn y DU. Ar yr un pryd yn union, er inni apelio arni i beidio â gwneud hynny, fe wnaeth y Llywodraeth yn San Steffan newidiadau i gredyd cynhwysol a wnaeth dri chwarter yr aelwydydd yn waeth eu byd nag oeddent y flwyddyn flaenorol. Dywedodd adroddiad Sefydliad Banc Lloyds yn bendant fod y newidiadau hyn yn gwthio pobl i dlodi a dyled.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn gwneud popeth yn ei gallu i dargedu pobl sydd angen y gefnogaeth fwyaf, felly rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn, neu wedi derbyn mewn egwyddor, yr holl argymhellion yn ein hadroddiad. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi gweithredu ar sawl un o'r argymhellion hyn ac wedi darparu ymyriadau drwy'r cyfnod economaidd llwm hwn. Mae hyn yn cynnwys cynllun cymorth tanwydd y gaeaf, sydd wedi cael ei ymestyn i gynorthwyo mwy na 400,000 o gartrefi incwm isel; y taliad untro o £150 i rai ym mandiau treth gyngor A i D; a chynllun gostyngiadau'r dreth gyngor. Mae argymhelliad 5 yr adroddiad yn pwysleisio'r angen i werthuso'r cymorth a dysgu gwersi o'r argyfwng costau byw. Rwy'n falch fod hyn eisoes yn digwydd o fewn Llywodraeth Cymru, ac fe arweiniodd y broses hon at ymestyn cymorth tanwydd y gaeaf, ar ôl dysgu gan y rhanddeiliaid nad oedd rhai aelwydydd a oedd angen y cymorth hwnnw'n gymwys yn wreiddiol.
Mae argymhelliad 6 hefyd yn tynnu sylw at yr angen i adeiladu ar lwyddiant yr ymgyrch 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi', gyda Llywodraeth Cymru'n cydnabod bod yna lawer o bobl sydd â hawl i gymorth nad ydynt yn ei hawlio, yn syml oherwydd nad ydynt yn gwybod ei fod ar gael iddynt. Rydym mewn sefyllfa nawr lle na all pobl fforddio mynd heb y cymorth y mae ganddynt hawl iddo, felly rwy'n falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i barhau â'r gwaith hwn.
Y gwir amdani yw bod canlyniadau ansicrwydd economaidd yn cydblethu ag agweddau eraill ym mywydau pobl. Gwyddom fod anghyfartaledd iechyd, fel mewn iechyd meddwl, yn cael ei effeithio gan yr argyfwng costau byw. Dyna pam rwy'n arbennig o falch ein bod wedi cwmpasu hyn yn ystod yr ymchwiliad gan y pwyllgor a bod hyn yn cael ei adlewyrchu yn argymhelliad 17. Yn fy nghymuned fy hun, mae'r mewnlifiad o bobl sydd angen cymorth ar gyfer eu hiechyd meddwl wrth iddynt ymdopi â phwysau'r argyfwng yn effeithio ar lawer o grwpiau cymorth ar draws Pen-y-bont. Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn gweithio gyda'i phartneriaid cymdeithasol, gan gynnwys yr undebau llafur, i sicrhau nad yw gweithwyr o dan anfantais os ydynt yn dioddef gyda'u hiechyd meddwl. Hoffwn ofyn i swyddogion yn Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol ymgysylltu ac ymgynghori â grwpiau cymorth ar lawr gwlad yn ein cymunedau er mwyn sicrhau eu bod yn cael arfau i gefnogi pobl yn ystod y caledi hwn. Maent yn achubiaeth i gymaint o bobl ar y dibyn.
Er bod llawer o argymhellion i'w nodi yn y ddadl hon, rwyf am sôn am un i orffen, sef 22, ar gyflwyno'r hybiau cynnes, neu fanciau cynnes, yn ein cymunedau i bobl alw heibio a chadw'n gynnes yn lle defnyddio ynni ar eu haelwydydd eu hunain, yn ogystal â mynd i rywle am gefnogaeth a chyfeillgarwch. Roedd nifer y bobl yn fy nghymuned sydd wedi estyn allan ataf am fwy o wybodaeth am hyn yn eithriadol. Mae'n ein hatgoffa o'r ysbryd cymunedol a welsom yn ystod y pandemig, wrth inni edrych ar ôl ein gilydd mewn cyfnod o angen. Rwy'n falch fod y Prif Weinidog wedi cadarnhau cyllid cychwynnol o £1 filiwn i gynorthwyo sefydliadau ac awdurdodau lleol i ddarparu banciau cynnes y gaeaf hwn, ond mae'n bwysig eto ein bod yn ystyried sut rydym yn estyn allan at bobl sydd angen cael mynediad at y cymorth hwn.
Cyfarfûm â'r cwmni band eang Ogi yn ddiweddar, a thrafod gyda hwy agweddau ymarferol ar ddarparu Wi-Fi yn yr hybiau cynnes. Gyda phobl yn gorfod torri cyllidebau, i'r rhai mwyaf bregus, efallai mai eu band eang fydd y bil sy'n gorfod mynd. Mae'n debyg y byddant yn blaenoriaethu bwyta a chadw'r gwres ymlaen ar draul hynny. Gallai Wi-Fi yn yr hybiau cynnes sicrhau y gall pobl gael mynediad at eu budd-daliadau ar-lein, chwilio am wasanaethau lleol, gwneud eu siopa bwyd, yn ogystal â denu teuluoedd a rhieni na fyddai fel arfer yn ystyried eu defnyddio. Felly, hoffwn ofyn i Lywodraeth Cymru ystyried hyn a gweld sut y gallant ddarparu cefnogaeth. Unwaith eto, diolch i fy holl gyd-aelodau o'r pwyllgor. Diolch, Weinidog.