7. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig — 'Pwysau costau byw'

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:00 pm ar 16 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 5:00, 16 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Ac ers cyhoeddi’r adroddiad hwn, yn anffodus, mae’r sefyllfa wedi gwaethygu. Mae llawer o Aelodau wedi tynnu sylw at y realiti echrydus i ormod lawer o deuluoedd, a chan ddychwelyd at un o’r pwyntiau a wnaeth Jenny Rathbone, bydd heriau gwirioneddol i'r bobl sy'n helpu, a chredaf ei bod yn wir y bydd help i’r llwglyd yn cael ei atal er mwyn rhoi mwy o gymorth i'r newynog. Dyna fydd y gwir mewn gormod lawer o’n cymunedau.

Ac mae’r ansefydlogrwydd yn Llywodraeth y DU, heb os, wedi arwain at fwy o ansicrwydd ynghylch yr ymyriadau i gefnogi teuluoedd a busnesau, yng Nghymru a ledled y DU. Arweiniodd y gyllideb fach flaenorol a arweiniodd at gwymp y bunt, yr anhrefn yn y marchnadoedd ariannol, at ganlyniadau gwirioneddol, nid yn unig i gronfeydd pensiwn y DU a fu bron â methu'n llwyr, ac ymyrraeth Banc Lloegr—arweiniodd at gostau benthyca cynyddol a phwysau pellach ar chwyddiant a chyfraddau llog, ac mae hynny’n taro busnesau, teuluoedd, ac wrth gwrs, yr holl bobl sydd â morgeisi, gan gynnwys y miloedd lawer o bobl sy’n dod oddi ar gytundeb pris sefydlog bob mis ac yn mynd ar gyfradd safonol a fydd bellach yn llawer mwy nag oeddent yn ei ddisgwyl.

Nawr, cafodd rhywfaint o gymorth ei roi. Y cap o £2,500 ar bris ynni—y pris ynni cyfartalog yw hynny, wrth gwrs; gwyddom nad oedd yn gap caled—roedd hwnnw i fod i bara am ddwy flynedd, ac yna fe'i newidiwyd i gyfnod o chwe mis. Ond hyd yn oed gyda'r cymorth hwnnw, mae bil ynni cyfartalog cartrefi bron wedi dyblu o gymharu â mis Ebrill 2021. A dylai'r cynllun rhyddhad ar filiau ynni leddfu rhywfaint o'r pwysau ar fusnesau, ond mae gwir angen i Lywodraeth y DU basio'r ddeddfwriaeth angenrheidiol yn gyflym, i sicrhau bod taliadau’n mynd i mewn i gyfrifon busnesau fel nad ydynt yn mynd i'r wal cyn i’r cymorth gael ei ddarparu, a’u bod yn cael eu trosglwyddo i gwsmeriaid annomestig, ac nid busnesau’n unig yw'r rheini, wrth gwrs; mae llawer o'n gwasanaethau cyhoeddus allweddol, gan gynnwys ysgolion, yn y categori hwnnw, ac mae gwir angen y cymorth a gyhoeddwyd arnynt.

Nawr, er fy mod yn croesawu'r cymorth a gyhoeddwyd, efallai na fydd yn ddigon i rai o'n busnesau bach a chanolig sy'n dal i wynebu costau ynni hyd at chwe gwaith yn uwch. Roedd cyfran uchel o'r busnesau hynny'n ei chael hi'n anodd gyda chyflymder yr adferiad ar ôl y pandemig. Mae Banc Lloegr yn rhagweld gostyngiad hanesyddol o 14 y cant yng nghynnyrch domestig gros y DU eleni, yn ogystal, wrth gwrs, â dirwasgiad hirdymor y gallem fod ynddo eisoes.

Rwyf wedi ymateb yn ffurfiol i’r argymhellion, ac fel y nodwyd, mae’r Llywodraeth yn cytuno â’r mwyafrif helaeth ohonynt, naill ai’n llawn neu mewn egwyddor. Mae’r Llywodraeth eisoes wedi sefydlu is-bwyllgor Cabinet yn benodol er mwyn trafod a mynd i’r afael â’r cymorth y gallwn ei ddarparu, ac rydym yn gwneud hynny gyda’n partneriaid yn y trydydd sector, mewn llywodraeth leol, ac ystod o rai eraill yn wir. Mae’r argymhellion a wnaed yn rhan o’r gwaith rydym yn bwrw ymlaen ag ef, ac mae hynny’n cynnwys y gwaith ar hybiau cynnes y tynnodd Sarah Murphy sylw ato. Ac rydym yn pryderu am yr angen i wneud hyn. Mae’n rhyfeddol ein bod, mewn gwlad fel ein gwlad ni, yn gorfod ystyried sut i wneud hynny, ond i wneud hynny mewn ffordd lle nad oes stigma ynghylch y ddarpariaeth ac sy'n darparu cyfeillgarwch a chwmnïaeth. Rwy’n sicr yn cydnabod y pwynt a wnaeth Sarah Murphy ynglŷn â sicrhau bod mynediad da at Wi-Fi ar gael—rheswm da i bobl fynd yno. Mae hynny eisoes ar gael mewn amryw o’r hybiau, ond wrth gwrs, byddwn yn edrych i weld, ac mae’n beth da fod y Gweinidog cyfiawnder cymdeithasol yma, sut y gallwn sicrhau bod gan yr hybiau hynny fynediad da at Wi-Fi.

Rydym yn gweithio gyda dadansoddwyr ar draws y Llywodraeth, fel y crybwyllwyd, ar gasglu, dadansoddi a chyhoeddi data ar agweddau ar realiti costau byw, a sicrhau bod hynny’n helpu i lywio ymyriadau’r Llywodraeth. Bydd y prif ystadegydd yn rhoi gwybodaeth cyn bo hir ynglŷn â sut i gael mynediad at ddata costau byw. Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a Data Cymru ar ffyrdd eraill hawdd eu defnyddio o gael mynediad at y data hwnnw. Mae'r banc datblygu'n parhau i gefnogi busnesau Cymru. Rydym hefyd wedi ymrwymo i fuddsoddi mwy na £20 miliwn y flwyddyn yng ngwasanaeth Busnes Cymru rhwng mis Ebrill 2023 a mis Mawrth 2025. Mae hynny'n dangos ein hymrwymiad i entrepreneuriaid, microfusnesau a busnesau bach a chanolig, i helpu i roi'r wybodaeth, y cymorth a'r arweiniad sydd eu hangen arnynt i oroesi’r heriau gwirioneddol sy’n ein hwynebu.

Rydym hefyd yn parhau i fuddsoddi yn ein rhaglen sgiliau i gefnogi cyflogwyr. Byddwn yn parhau â chyllideb o £30 miliwn sydd wedi’i dyrannu tuag at wella effeithlonrwydd ynni domestig mewn aelwydydd incwm isel, gan gynnwys eiddo nad yw ar y grid, drwy ystod o raglenni Llywodraeth Cymru. Ac yn y flwyddyn ariannol nesaf, rydym am barhau i gefnogi busnesau bach a chanolig, a byddwn yn parhau i edrych ar yr hyn a fydd ar gael i ni ar ardrethi annomestig, ond wrth gwrs, bydd rhaid inni aros i weld beth sy'n digwydd yfory i ddeall beth y mae hynny'n ei wneud i realiti adnoddau Llywodraeth Cymru. Byddwn yn gwneud popeth a allwn i gefnogi pobl drwy’r argyfwng costau byw hwn drwy dargedu cymorth a chefnogaeth, ond bydd rhaid inni fod yn onest am yr ystod o fesurau sydd ar gael i ni, gan ein bod, mae arnaf ofn, yn disgwyl cyfyngiadau pellach ar allu ariannol y Llywodraeth hon yn dilyn y datganiad yfory, ac o bosibl, yn y blynyddoedd i ddod.

Mae llawer o fusnesau yng Nghymru yn cefnogi eu cwsmeriaid, a'u staff yn wir. Mae Iceland, er enghraifft, wedi darparu ystod o wasanaethau i gynorthwyo eu cwsmeriaid, gan gynnwys gostyngiadau o 10 y cant ar ddydd Mawrth i bobl dros 60 oed, a benthyciadau di-log i rai o'u cwsmeriaid. A Valero, enghraifft o gyflogwr gwahanol yn sir Benfro, wel, maent hwy hefyd yn rhoi cymorth ychwanegol i fanciau bwyd sir Benfro ac yn edrych ar ymgyrch hylendid i helpu i ddarparu nwyddau i deuluoedd a phlant.

Fel y soniais ar y dechrau, mae llawer wedi digwydd ers cyhoeddi’r adroddiad hwn: gwahanol Brif Weinidogion y DU—mwy nag un—a bellach mae gennym ein pedwerydd Canghellor eleni. Mae’r ansicrwydd a’r diffyg eglurder yn golygu nad ydym yn gwybod, mewn gwirionedd, beth fydd ein sefyllfa o ran y gyllideb y flwyddyn nesaf, ac mae hynny’n effeithio ar ein gallu i gynllunio ar gyfer y dyfodol, yn wir, fel teuluoedd, gwasanaethau cyhoeddus a busnesau. Byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i ddefnyddio’r holl ysgogiadau sydd ar gael iddi, gan gynnwys treth ffawdelw ystyrlon ar gwmnïau ynni, sydd eu hunain yn dweud y dylent dalu mwy i gefnogi pobl drwy’r argyfwng costau byw.

Rydym wedi nodi ein blaenoriaethau i gefnogi pobl a busnesau yn glir. Bydd cyllideb fach 2, yfory, yn gwneud gwahaniaeth enfawr. Gallai helpu, ond gallai'n hawdd wneud pethau hyd yn oed yn waeth. Bydd yr ychydig ddyddiau nesaf yn anodd, ond mae arnaf ofn y gallai’r flwyddyn nesaf fod hyd yn oed yn anos i lawer gormod o ddinasyddion a busnesau yng Nghymru a ledled y DU.