Part of the debate – Senedd Cymru am 5:40 pm ar 16 Tachwedd 2022.
Hoffwn ddiolch i Janet Finch-Saunders am gyflwyno'r cynnig hwn heddiw. Gadewch inni atgoffa ein hunain pam ein bod yn dal i drafod y mater hwn heddiw, bron i bum mlynedd a hanner ar ôl y drasiedi ofnadwy yn Grenfell. Y ffaith ddamniol yw bod y system diogelwch adeiladau bresennol yn system sydd wedi caniatáu diwylliant o dorri corneli ar draul diogelwch y cyhoedd.
Ni wnaf fyth anghofio gweld y drasiedi honno yn Nhŵr Grenfell yn datblygu yn ôl yn 2017. Yn oriau mân 14 Mehefin, dechreuodd tân losgi drwy Dŵr Grenfell, bloc preswyl 24 llawr yng ngorllewin Llundain. Bu farw 71 o bobl o ganlyniad i'r tân hwnnw. Bu farw eraill fisoedd yn ddiweddarach o ganlyniad i anadlu mwg. Ond mae llawer o bobl—y rhai a ddihangodd o'r tân, teuluoedd y meirw, y rheini a fu'n dyst i'r drasiedi hon—yn dal i fyw gyda chreithiau corfforol a meddyliol erchyll ac yn parhau i ddioddef heddiw.
Ers y trychineb, canfuwyd bod gan nifer fawr o adeiladau preswyl yn y deyrnas anunedig hon, gan gynnwys nifer yng Nghymru, gladin fflamadwy anniogel tra bod gan rai ddiffygion diogelwch tân eraill fel rhaniadau a rhwystrau tân gwael i atal tanau rhag lledaenu o fewn adeiladau. Mae pobl yn ofni, ac mae pobl wedi dioddef yr ofn yma ers dros bum mlynedd. Pum mlynedd heb weithredu.
Mae hi wedi bod yn 18 mis ers yr etholiad, blwyddyn a hanner heb weithredu yma yng Nghymru. Mae lesddeiliaid a thenantiaid wedi'u dal yn gaeth mewn eiddo na allant symud ohono, mae ansawdd eu bywydau a'u hiechyd meddwl wedi dirywio, ac mae'n hen bryd inni ymateb i'r senario hunllefus hon ar frys drwy raglen ddiwygio radical a chymorth ariannol pellach.
Fel llefarydd fy mhlaid ar dai a chynllunio, hoffwn roi eiliad i groesawu'r cytundeb cydweithio rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth Lafur. Mae'r cytundeb yn cynnwys amrywiaeth o ymrwymiadau, gan gynnwys ymrwymiadau i ddiwygio'r system diogelwch adeiladau bresennol yn sylweddol a chyflwyno ail gam cronfa diogelwch adeiladau Cymru. Rwy'n falch ein bod yn cydweithio ar y mater allweddol hwn ac yn symud rhywfaint o'r agenda yn ei blaen.
Ni all neb ddadlau o ddifrif yn erbyn y teimlad sy'n sail i'r cynnig heddiw. Rydym i gyd yn cytuno bod angen inni ddiogelu trigolion, a heddiw mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn pwyso am ymgorffori adrannau 116 i 125 o'r Ddeddf Diogelwch Adeiladau, fel y clywsom yn awr gan Janet Finch-Saunders, yng nghyfraith Cymru. Ond mae'n rhaid imi fynegi pryder ynglŷn â hyn. Mae adrannau 116 i 125 yn rhoi opsiwn i lesddeiliaid gymryd camau cyfreithiol yn erbyn datblygwr nad yw'n unioni diffygion diogelwch tân, ond mae hyn yn golygu y byddai'n ofynnol iddynt dalu ffioedd cyfreithiol. Felly, a yw'r Torïaid yn credu y dylai lesddeiliaid orfod talu am faterion nad oes unrhyw fai arnynt hwy amdanynt?
Mae yna gamddealltwriaeth sylfaenol mewn perthynas â deddfwriaeth hefyd. Rhaid gwneud mwy na dim ond gwthio darnau o ddeddfwriaeth y DU i mewn i ddeddfwriaeth Gymreig; mae gwahanol fframweithiau ar waith. Felly, rhaid teilwra deddfwriaeth ar gyfer Cymru, a chafodd Deddf y DU ei theilwra ar gyfer Lloegr. Mae peth o Ddeddf 2022 yn berthnasol i Gymru wrth gwrs, a rhoddwyd sylw i'r darpariaethau hynny drwy'r broses gydsynio deddfwriaethol, ond nid ceisio gwasgu—