Part of the debate – Senedd Cymru am 5:57 pm ar 16 Tachwedd 2022.
Diolch. Rwy'n croesawu'r cytundeb rydych chi wedi'i arwyddo gyda'r gwahanol ddatblygwyr. Rwy'n clywed yr hyn a ddywedwch—fod yna drafodaethau o hyd gydag un datblygwr. Fel rwy'n deall, rhan o'r cytundeb hwnnw oedd y byddai eu cynlluniau adfer gyda chi o fewn mis i arwyddo'r ddogfen honno. A ydych chi wedi cael unrhyw un o'r cynlluniau adfer hynny, ac os ydych chi wedi, a yw eich swyddogion wedi eich cynghori ynghylch cadernid y cynlluniau hynny?