Part of the debate – Senedd Cymru am 5:58 pm ar 16 Tachwedd 2022.
Rwy'n dod at hynny. Felly, fel roeddwn yn dweud, mae hyn yn rhoi sicrwydd i lesddeiliaid na fydd rhaid iddynt dalu am waith diogelwch tân nad ydynt yn gyfrifol amdano, ac y bydd y gwaith adfer yn mynd rhagddo.
Yng Nghymru, rydym wedi gweithio gyda datblygwyr i sicrhau'r ymrwymiad hwn i adfer. Nawr, dyma'r darn sy'n ateb eich cwestiwn, Andrew. Bydd y ddogfennaeth gyfreithiol ffurfiol a fydd yn sail i'n cytundeb datblygwyr yn darparu'r gallu i Lywodraeth Cymru gymryd camau cyfreithiol yn erbyn datblygwyr am dorri telerau'r cytundeb. Mae'r fersiwn derfynol o'r ddogfennaeth gyfreithiol ffurfiol yn cael ei drafftio ar hyn o bryd a bydd yn cynnwys gofyniad i ddatblygwyr ddarparu rhaglen ac amserlen ar gyfer gwaith adfer, ynghyd â threfniadau monitro ac amod fod unrhyw newidiadau i'r amserlen yn cael eu cytuno gyda swyddogion Llywodraeth Cymru. Rwy'n disgwyl y bydd y ddogfennaeth gyfreithiol ffurfiol yn cael ei chytuno gyda datblygwyr yn y dyfodol agos iawn, ac wrth gwrs, byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â chynnydd i'r Aelodau. I drosi hynny i iaith y lleygwr, pan fydd y dogfennau cyfreithiol yn eu lle, bydd yr amserlen yn dechrau tician. Felly nid ydym yno'n iawn eto, ond fe fyddwn yn fuan iawn.
O ystyried bod nifer sylweddol o eiddo lesddaliad yng Nghymru'n dod o dan y trothwy 11m neu bum llawr, mae angen inni ystyried hefyd a yw'r darpariaethau a nodir yn adrannau 116 i 125 yn addas ar gyfer Cymru. Yn ymarferol, nid yw'r broses o wneud darpariaeth sy'n debyg o ran ei natur neu'n cyfateb i adrannau 116 i 125 ar gyfer Cymru yn syml. Byddai gwneud hynny'n galw am ddeddfwriaeth sylfaenol, sy'n cymryd mwy o amser i'w pharatoi a'i phasio nag is-ddeddfwriaeth wrth gwrs, ac yn ychwanegol at hynny, byddai angen teilwra unrhyw ddeddfwriaeth ar gyfer Cymru yn benodol, fel y mae 116 i 125 wedi eu teilwra'n benodol ar hyn o bryd ar gyfer y drefn diogelwch adeiladau newydd yn Lloegr, nad yw'r un fath â'r drefn yma yng Nghymru. Felly er bod adrannau 116 i 125 yn rhoi opsiwn i lesddeiliaid gychwyn camau cyfreithiol yn erbyn datblygwr y maent yn ystyried nad yw'n adfer diffygion diogelwch tân y mae wedi'u creu, gallai hyn wneud lesddeiliaid yn atebol am y costau cyfreithiol a fyddai'n deillio o wneud hynny.
Yng Nghymru, os yw lesddeiliad neu breswylydd yn poeni bod datblygwr yn torri telerau'r dogfennau cyfreithiol ffurfiol sy'n sail i gytundeb y datblygwr, ceir darpariaeth iddynt allu cysylltu â'r Llywodraeth a byddwn yn monitro'r cytundeb yn agos wrth gwrs. Gallai Llywodraeth Cymru roi camau cyfreithiol ar waith wedyn i orfodi'r dogfennau cyfreithiol ffurfiol, gan warchod lesddeiliaid rhag y costau cyfreithiol posibl o ddwyn achos eu hunain. Felly, os caf ddweud mewn iaith wirioneddol glir, nid ydym angen yr adrannau yng Nghymru. Nid ydym angen cyfyngu na darparu cap ar y taliadau a wneir, oherwydd rydym yn mynd i dalu am y gwaith ein hunain neu mae'r datblygwyr yn mynd i dalu amdano. Felly, lle mae gennym adeiladau y mae datblygwyr yn gysylltiedig â hwy, byddant hwy'n talu am y gwaith adfer, a lle mae gennym adeiladau 'amddifad' fel y'u gelwir—lle na all neb nodi datblygwr neu ei fod wedi mynd yn fethdalwr neu wedi mynd i'r wal—byddwn ni'n talu amdano. Ni fydd raid i'r lesddeiliaid dalu amdano.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn galw ar y Llywodraeth i gydweithio gyda'r holl bleidiau gwleidyddol. Rwy'n credu fy mod wedi dangos heddiw ein bod yn Llywodraeth sy'n fwy na pharod i wneud hynny. Rydym yn croesawu cydweithio er budd lesddeiliaid, felly, wrth gwrs, Lywydd, byddwn yn gweithio gyda phob plaid wleidyddol i sicrhau bod lesddeiliaid yn cael eu diogelu, ond rhaid i'r rhain fod yn amddiffyniadau cywir i lesddeiliaid yng Nghymru, a chredwn mai dyna sydd gennym. Diolch.