Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 16 Tachwedd 2022.
Wel, gallaf ddweud wrthych nad oes neb ei eisiau lai na minnau. Rwy'n poeni'n fawr am nyrsys yn mynd ar streic ynghanol gaeaf anodd iawn. Rwy'n deall eu safbwynt, ac rwyf mewn sefyllfa lle rwy'n ceisio ymwneud ag undebau llafur. Felly, cyfarfûm â Choleg Brenhinol y Bydwragedd y bore yma a thrafodwyd mater cyflog, yn amlwg. Cefais gyfarfodydd hefyd gyda chynrychiolwyr Unite ddydd Llun. Unwaith eto, mae yna ddealltwriaeth yno.