Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 16 Tachwedd 2022.
Mae'r Gweinidog yn gwybod nad trafodaethau cyflog yw hynny. Dywedodd yr wythnos diwethaf hefyd ei bod yn cyfarfod yn rheolaidd â'r Coleg Nyrsio Brenhinol—nid trafodaethau cyflog yw hynny. Nid trafodaethau cyflog yw'r cyfarfod y mae hi newydd gyfeirio ato nawr. Roedd y llythyr diwethaf, rwy'n credu, a ysgrifennodd y Coleg Nyrsio Brenhinol at y Gweinidog yn gofyn am drafodaethau cyflog ar 25 Hydref. Maent yn dal i fod heb gael ymateb i'r llythyr y gwnaethant ei anfon at y Gweinidog ar 25 Hydref.
Cefais fy nharo gan yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog ddoe. Dywedodd
'mae pob streic yn dod i ben yn y diwedd wrth drafod', ond mae'n well cynnal y drafodaeth yn amserol onid yw? Ar ôl methu eistedd i drafod er mwyn ceisio osgoi pleidlais, a wnaiff y Llywodraeth roi'r parch y maent yn ei haeddu i nyrsys a'r proffesiwn nyrsio nawr drwy eistedd gyda hwy i drafod mewn ymgais i osgoi streic, rhywbeth nad oes neb ei eisiau, yn enwedig y nyrsys eu hunain?