Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 16 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 3:04, 16 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol fod y galw am asesiad awtistiaeth yn parhau i fod yn uchel yng ngorllewin Cymru, gydag amseroedd aros o hyd at dair blynedd. Yn wir, rwy'n deall bod y bwrdd iechyd wedi cyfarfod â swyddogion Llywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf i nodi cyllid posibl i helpu gyda mentrau rhestrau aros. Felly, Weinidog, a oes modd ichi ddweud wrthym pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i'w helpu i leihau amseroedd aros ar gyfer asesiad awtistiaeth? Ac a oes modd ichi ddweud wrthym hefyd sut mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo plant a'u teuluoedd sy'n aros am asesiad?