Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 16 Tachwedd 2022.
Diolch yn fawr iawn. Wel, rwy'n gwybod bod problem wedi bod gyda rhestrau aros awtistiaeth ers peth amser yn ardal Hywel Dda. Mae yna gynlluniau ar y gweill, wrth gwrs, ac rydym wedi cael yr adolygiad o gapasiti, sydd wedi nodi'n union beth sydd angen inni ei roi ar waith. Os nad oes ots gennych, yr hyn yr hoffwn ei wneud yw gofyn i'm cyd-Aelod Julie Morgan, sy'n gyfrifol am awtistiaeth, roi ymateb mwy manwl ichi.