Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 16 Tachwedd 2022.
Rwy'n credu bod rhoi sylw i hyn yn bwysig iawn. Dyna un o'r ffyrdd i wneud yn siŵr fod meddygon teulu yn gwybod am yr adnoddau sydd ar gael fel eu bod yn gallu chwilio am y symptomau hynny a bod yn fwy ymwybodol. Felly, rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn. Ac fel y dywedwch, mae'n rhaid inni wahaniaethu rhwng y ddau gyflwr, ac mae'n bwysig iawn. Rwy'n meddwl ei bod yn werth dweud bod y math o raglen sgrinio'r coluddyn ychydig yn wahanol, felly mae angen gwneud yn siŵr fod pobl yn deall bod yna ddull gwahanol ar waith yma, ac mae'r rhaglen sgrinio'r coluddyn yn hynod lwyddiannus. Rydym wedi gweld y nifer sy'n manteisio arni'n codi'n sylweddol. Ond mae hyn ychydig yn wahanol ac mae'n rhywbeth lle rwy'n credu bod angen i'r ffocws fod ar sicrhau bod meddygon teulu'n edrych am y symptomau hynny.