Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghwm Taf Morgannwg

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 16 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 3:07, 16 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Ar 7 Tachwedd, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd sylweddol a gyflawnwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ar wella ei wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ers 2019. Mae'r bwrdd iechyd yn cynnal y ffocws ar sicrhau gwelliannau cynaliadwy pellach mewn arweinyddiaeth, diwylliant ac integreiddio gwasanaethau.