Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghwm Taf Morgannwg

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 16 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 3:08, 16 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Weinidog. Roedd croeso mawr i'r cyhoeddiad y byddech yn tynnu gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg o fesurau arbennig. Rwy'n credu bod hyn yn dyst i'r gwaith caled sydd wedi'i wneud gan staff y bwrdd iechyd i gyflawni'r gwelliannau i'r gwasanaeth y dylai'r gymuned leol, y mamau, y babanod a'r teuluoedd, sydd angen cael mynediad at y gwasanaethau hyn, allu eu disgwyl. Yn eich datganiad, fe wnaethoch nodi bod cyflawni'r newid diwylliant sydd mor hanfodol yn waith parhaus ond mwy hirdymor. Felly, hoffwn ofyn: sut y bydd goruchwylio hyn yn cael ei gynnwys o fewn yr ymyrraeth wedi'i thargedu ar gyfer gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol y bwrdd iechyd?