Pwyntiau o Drefn

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:14 pm ar 16 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:14, 16 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Wel, fel y dywedais yn ystod y cwestiynau eu hunain, mater i'r Ceidwadwyr yw penderfynu beth yw cynnwys cwestiynau eu llefarwyr. Mae'n fy synnu y byddai grŵp gwleidyddol yn dewis cael cwestiynau eu llefarwyr yn canolbwyntio'n llwyr ar fater etholaeth—un etholaeth—ac fe wnaf ystyried hynny. Nid oes unrhyw beth yn y Rheolau Sefydlog i'w wahardd, ac felly, mae mewn trefn, ond credaf fod sawl agwedd ar y cyfraniad hwnnw y prynhawn yma a fydd yn rhoi pethau inni eu hystyried dros gyfnod hwy o amser. Diolch am hynny.