Part of the debate – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 16 Tachwedd 2022.
Fel pwyllgor, y man cychwyn i ni yw y dylai pawb yng Nghymru allu cael mynediad at fand eang cyflym. Mae mwy a mwy o'n bywydau ni yn cael eu byw ar-lein—dyma sut dŷn ni'n trefnu apwyntiadau; dŷn ni'n delio â'n cyfrifon banc ar-lein erbyn hyn, nifer ohonom ni; dŷn ni'n siarad â ffrindiau a theulu ar-lein hefyd. Ac mae byw heb fynediad at y rhyngrwyd yn golygu bywyd llai cyfoethog, gyda llai o ddewis, ac, yn bwysig iawn, llai o fynediad at wasanaethau hanfodol. Ac fe allaf i siarad o brofiad personol—mae fy mhlant i'n byw mewn cartref lle does yna ddim band eang gwerth ei gael. Mae hynny wedyn â goblygiadau o ran defnyddio adnoddau addysgiadol rhyngweithiol, dibynnu mwy ar adnoddau ar bapur, sy'n llawer llai cyffrous, ac yn y blaen, ac yn y blaen. Felly, dŷch chi'n gweld sut y mae methu â chael mynediad i fand eang yn effeithio'n ymarferol iawn, iawn ar fywydau nifer o bobl. Ac yn anffodus, mae’r ddarpariaeth band eang cyflym iawn ledled Cymru yn anghyson, ac mae yna raniad digidol rhwng ardaloedd gwledig ac ardaloedd trefol, yn enwedig. Mae gormod o ardaloedd gwledig yn dal i fethu â chael cysylltiad da â’r rhyngrwyd.
Oherwydd topograffeg fynyddig Cymru, mae hynny yn golygu bod cyfran uwch o eiddo sy’n anodd eu cyrraedd yma yng Nghymru o'i gymharu â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Mae Ofcom yn amcangyfrif bod tua 10,000 eiddo yng Nghymru sy’n methu cael band eang da—10,000 eiddo. Mae'r sefyllfa wedi gwella'n sylweddol—ac mae'n rhaid cydnabod hynny—yn y blynyddoedd diwethaf. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi cyllid sylweddol yn y maes polisi hwn. Yn sgil cynllun gwreiddiol Cyflymu Cymru, rhwng 2012 a 2018, fe gafodd £220 miliwn ei fuddsoddi i gysylltu tua 700,000 eiddo â band eang cyflym iawn. Ond mae hwn yn faes polisi sydd wedi’i gadw yn ôl—mae e'n reserved, onid yw e? Ac yn syml, dyw hi ddim yn gynaliadwy i Lywodraeth Cymru barhau i ailgyfeirio cyllid o feysydd datganoledig i lenwi bylchau ariannu sy’n gyfrifoldeb Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Fe ddywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wrthym ni yn y pwyllgor, a dwi'n dyfynnu, bod
'cyllid y DU wedi methu ag adlewyrchu gwir gost ei gyflwyno yn nhirwedd Cymru'.
A dwi'n cytuno'n llwyr â hynny. Mae angen mynd i’r afael â’r diffyg cyllid hwnnw. Dwi’n falch bod y Gweinidog wedi derbyn ein hargymhelliad ni fel pwyllgor ar y mater hwn, ond dwi ddim yn obeithiol iawn y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn newid eu meddwl ar hynny—fe gawn ni weld.
Felly, sut mae cyrraedd y 0.6 y cant yna o eiddo sy’n weddill sy’n methu cael mynediad at fand eang da? Wel, ers Mawrth 2020, gall aelwydydd sy’n methu cael band eang da ofyn i BT uwchraddio’r cysylltiad o dan y rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol. Mae hyn yn ei gwneud hi'n ofynnol wedyn i BT wella'r cysylltiad am ddim os mai’r amcangyfrif yw bod y gost o osod yn is na £3,400 i'r cwsmer. Ond os yw'r gost yn fwy na'r cap yna o £3,400, yna mae'n rhaid i'r cwsmer dalu'r swm dros ben. Dyw hynny ddim yn fforddiadwy i’r rhan fwyaf o bobl—yn enwedig yng nghanol argyfwng costau byw fel dŷn ni'n ei brofi nawr—a dŷn ni fel pwyllgor wedi annog Llywodraeth Cymru i drafod codi lefel y cap yna gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Yn 2020, fe wnaeth y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol alw am sefydlu tasglu i chwalu rhwystrau, er mwyn gwella’r broses o gyflwyno seilwaith digidol. Fe wnaethom ni gefnogi hyn fel pwyllgor, a dwi’n falch bod y Gweinidog wedi gallu cyhoeddi yr wythnos diwethaf bod adroddiad y tasglu wedi cael ei gyhoeddi. Fe fyddwn ni'n edrych ymlaen i glywed gan y Gweinidog, wrth ymateb i'r ddadl yma y prynhawn yma, am gasgliadau ac argymhellion y tasglu, ac egluro efallai ble dŷn ni'n mynd nesaf o safbwynt gweithredu ar hynny.
Roedd rhai cyfranwyr yn awgrymu y dylid gwneud cysylltedd ffeibr llawn yn ofyniad ym mhob datblygiad tai newydd. Dŷn ni'n cefnogi’r awgrym ac yn credu y dylai Llywodraeth Cymru archwilio sut y gellir cyflwyno gofyniad o’r fath yng Nghymru. Roedd gennym ni ddiddordeb hefyd mewn clywed bod datblygwyr tai yn ystyried cysylltedd digidol pan fyddan nhw yn cynllunio datblygiadau. Yn wir, mae un datblygwr wedi sefydlu ei ddarparwr gwasanaeth rhyngrwyd ei hun. Ar un olwg, mae hynny yn gam positif, ond rŷn ni yn bryderus braidd efallai fod yna botensial yn fanna wedyn i ddatblygwyr rwymo perchnogion tai fel hyn i'r ddarpariaeth y maen nhw yn ei chynnig a neb arall. Hynny yw, gallai hynny o bosib gyfyngu ar y dewis sydd ar gael i berchnogion tai a gwneud y farchnad, wrth gwrs, ar yr un pryd, yn llai cystadleuol. Rŷn ni wedi gofyn i Lywodraeth Cymru gadw golwg ar hyn er mwyn sicrhau bod yna ddim datblygiadau anaddas yn digwydd.