Part of the debate – Senedd Cymru am 3:29 pm ar 16 Tachwedd 2022.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Rwy'n falch iawn o gael y cyfle i agor y ddadl yma yn enw y pwyllgor. Wrth gwrs, i gychwyn, mi hoffwn i ddiolch i'r holl randdeiliaid hynny sydd wedi cyfrannu at waith y pwyllgor, a dwi hefyd yn hynod o falch bod y Gweinidog wedi derbyn yr holl argymhellion y mae'r pwyllgor wedi eu gwneud.